Module WMC-4042:
Cyfansoddi mewn Cyd-Destun
Cyfansoddi mewn Cyd-Destun 2023-24
WMC-4042
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
30 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Bydd y seminarau yn canolbwyntio ar faes penodol o gyfansoddi (offerynnol a lleisiol; ffilm a gemau; electroacwstig a chelfyddyd sonig). Bydd y myfyrwyr yn ystyried ystyriaethau damcaniaethol a thechnegol sy'n codi mewn gweithiau penodol o gyfansoddi cyfoes, ac mewn astudiaethau beirniadol perthnasol ohonynt.
Bydd myfyrwyr a staff hefyd yn cyfarfod fel un grŵp mawr gan gyfuno pob maes cyfansoddi a chael clywed cyflwyniadau gan staff, myfyrwyr a darlithwyr gwadd mewn meysydd sy'n berthnasol i bob ffurf o gyfansoddi. Byddant yn ystyried ac yn trafod ym mha ffyrdd y gellir cymhwyso'r ddirnadaeth a gafwyd wrth ystyried un genre o gyfansoddi i genres eraill.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Traethawd. Traethawd neu gyflwyniad ysgrifenedig arall ar bwnc damcaniaethol, esthetig, athronyddol neu ddadansoddol sy'n berthnasol i arfer cyfansoddi'r myfyriwr/fyfyrwraig ei hun, fel y cytunwyd â thiwtor y modiwl. Gall y cyflwyniad fod yn draethawd confensiynol, neu sylwebaeth ddadansoddol gan gynnwys siartiau, diagramau a/neu nodiadau sgôr, gyda'r cyfanswm geiriau wedi'i addasu'n unol â hynny.
Weighting
30%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad ar agwedd o gyfansoddi cyfoes sy’n berthnasol i ymarfer y myfyriwr/myfyrwraig ei hun, ac i ymarferwyr genres eraill o gyfansoddi. Cytunir ar bwnc y cyflwyniad ymlaen llaw gyda thiwtor y modiwl.
Weighting
30%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Astudiaeth gyfansoddi (gyda sylwebaeth ysgrifenedig). Astudiaeth gyfansoddiadol a ysbrydolwyd gan waith cyfansoddwr/cyfansoddwraig sefydledig a dangos dealltwriaeth ymarferol o'i ddull/o’i dull technegol, safbwynt damcaniaethol, pryderon esthetig a/neu iaith arddulliol a wneir trwy gydol y semester. Ni ddylai hyn fod yn pastiche na dynwarediad o'r cyfansoddwr/gyfansoddwraig a ddewiswyd, ond ymateb creadigol i waith y cyfansoddwr/gyfansoddwraig neu ddarn penodol ganddynt. Dylech hefyd gyflwyno sylwebaeth gyd-destunol sy'n cyd-fynd a’r cyfansoddiad.
Weighting
40%
Due date
07/05/2024