Module XPC-4214:
Astudiaethau Pwnc
Astudiaethau Pwnc 2022-23
XPC-4214
2022-23
School Of Educational Sciences
Module - Semester 1 & 2
30 credits
Module Organiser:
Emma Bishop
Overview
Byddwch yn astudio:
• amrywiaeth o ddulliau cyfredol sy’n seiliedig ar dystiolaeth o addysgu eich pwnc arbenigol a meysydd cwricwlwm cysylltiedig, gan eich galluogi i addysgu gwersi effeithiol yn eu cyd-destun. Caiff pob dull ei ddadansoddi o fewn cyd-destunau damcaniaethau dysgu cydnabyddedig.
• damcaniaethau ac egwyddorion asesu a sut maent yn cael eu cysylltu ag ymarfer o ran addysgeg, dysgu a syniadau ynghylch cynnydd o fewn eich pwnc arbenigol a meysydd cwricwlwm cysylltiedig;
• natur a nodau eich meysydd pwnc arbenigol a chwricwlwm cysylltiedig o fewn cwricwlwm cenedlaethol Cymru, gan gynnwys rhaglenni astudio, manylebau TGAU a safon uwch, pontio rhwng gwahanol gyfnodau a, lle bo’n briodol, cymwysterau galwedigaethol;
• sut y gall llythrennedd, rhifedd a thechnoleg ddigidol ar draws y cwricwlwm gael eu datblygu a’u cymhwyso lle bo hynny’n berthnasol o fewn eich pwnc arbenigol;
• sut y gellir datblygu a chymhwyso eich sgiliau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl personol o fewn eich pwnc arbenigol;
• sut y gall tiwtoriaid a mentoriaid pwnc arbenigol fodelu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn cyd-destun ac o fewn y pwnc arbenigol. Cewch gyfle i ddatblygu’ch defnydd o’r Gymraeg o fewn y pwnc arbenigol; o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl sy’n dymuno gwella eu sgiliau ysgrifennu.
Dulliau a methodoleg ymchwil Bydd cynnwys a chyflwyniad y modiwl yn eich annog i gynnig adolygiad beirniadol o bwysigrwydd bod yn ddefnyddwyr a chynhyrchwyr ymchwil addysgeg sy’n benodol i’ch pwnc. Byddwch yn dadansoddi, yn syntheseiddio ac yn myfyrio’n feirniadol ar y sbectrwm o ymchwil sy’n llywio ymarfer addysgu sy’n benodol i’ch pwnc a/neu feysydd cwricwlwm cysylltiedig. Byddwch hefyd yn cael eich annog i gynnig gwerthusiad beirniadol o ymchwil, yn seiliedig ar ymarfer neu’n agos-i-ymarfer. Bydd y modiwl yn annog meistrolaeth o ddatblygu ‘diwylliant ymholi’ o fewn systemau ysgol sy’n gwella eu hunain (megis o fewn adrannau unigol), ysgolion fel sefydliadau dysgu, a phwysigrwydd datblygu a chymryd rhan mewn Cymunedau dysgu proffesiynol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gynnal ymchwiliad ar raddfa fach yn seiliedig ar ymarfer.
Assessment Strategy
-threshold -(C) Bydd pob deilliant dysgu wedi'u cyflawni ar lefel foddhaol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o gynnwys y modiwl yn cael ei gefnogi gan ystod foddhaol o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol foddhaol wrth fyfyrio ar ystod gyfyngedig o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio foddhaol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon foddhaol mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd. -good -(B) Bydd y rhan fwyaf o ganlyniadau dysgu wedi'u cynhyrchu ar lefel dda. Gall rhagoriaeth mewn rhai deilliannau dysgu wneud iawn am gyrhaeddiad boddhaol mewn eraill. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth dda o gynnwys y modiwl yn cael eu cefnogi gan amrywiaeth dda o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol da wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio da a byddant yn gallu cyfathrebu i safon dda mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd. -excellent -(A) Bydd y rhan fwyaf o'r deilliannau dysgu wedi'u cyflawni ar lefel ragorol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o gynnwys y modiwl yn cael ei gefnogi gan ystod ardderchog o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol rhagorol wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio rhagorol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon ragorol mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd.
Learning Outcomes
- Cynllunio, gweithredu a gwerthuso’n feirniadol eich ymholiad ar raddfa fechan yn seiliedig ar ymarfer.
- Dadansoddi’n feirniadol natur a nodau eich pwnc arbenigol o fewn cwricwlwm cenedlaethol Cymru.
- Gwerthuso ac adlewyrchu’n feirniadol ar wersi sy’n cael eu llywio gan ymchwil ac egwyddorion addysgu a dysgu o fewn y pwnc a meysydd cwricwlwm cysylltiedig;
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Portffolio Beirniadol gydag Astudiaeth Gwers Am fanylion yr aseiniad, cyfeiriwch at lawlyfr y modiwl
Weighting
50%
Due date
05/01/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Ymholiad Proffesiynol Am fanylion yr aseiniad, cyfeiriwch at lawlyfr y modiwl.
Weighting
50%
Due date
04/05/2023