Gardd Brigantia
Adeilad Brigantia
Mae Adeilad Brigantia yn gartref i swyddfeydd academaidd a gweinyddol seicoleg, ac yn bencadlys i’r Ysgol. Bydd israddedigion yn ymweld â Brigantia pan fydd angen iddynt gwrdd â thiwtoriaid personol ac arolygwyr projectau, a hefyd pan fyddant yn rhoi sylw i wahanol agweddau gweinyddol ar fywyd myfyrwyr. Caiff myfyrwyr wneud gwaith project yn un o’r adeiladau sydd â swyddfeydd academaidd, megis Brigantia, neu Adeiladau Lloyd, Deiniol, neu Ffordd y Coleg, sydd hefyd â swyddfeydd i ddarlithwyr ac ymchwilwyr. Mae Meithrinfa Gofal Dydd Tir Na n-Óg o eiddo’r Ysgol Seicoleg yn ganolfan allanol arall lle gellir gwneud gwaith project. Yno, mae’n bosibl sylwi’n uniongyrchol ag ymddygiad a datblygiad plant.