Rhithdeithiau - Lolfa'r Myfyrwyr
Lolfa’r Myfyrwyr
Tuedda lolfa’r myfyrwyr i fod yn ganolbwynt cysylltiadau ymysg myfyrwyr Seicoleg – ceir yno gyfrifiaduron i wirio e–bost, peiriannau diodydd a byrbrydau, a blychau post y myfyrwyr. Mae peiriannau copïo hefyd ar gael yno. Mae’r Ganolfan Adnoddau Dysgu yn ei chrynswth yn gyffyrddus a chroesawgar, ac wedi’i hadnewyddu'n ddiweddar at ddefnydd neilltuol myfyrwyr Seicoleg.