Rhithdeithiau
Labordy cyfrifiadurol i israddedigion Seicoleg. Hwn yw’r mwyaf o labordai cyfrifiaduron y Brifysgol, a hefyd yr un a gynhelir orau. Y labordy hwn a ddefnyddir fwyaf i ddibenion creadigol ac mae'n gartref i dros 100 o gyfrifiaduron. Cynhelir amryw o fodiwlau yn y Labordy bob blwyddyn, a gellir rhannu'r labordy i gynnwys dosbarthiadau mwy neu lai o faint. Yn y modiwlau hyn gall myfyrwyr ddysgu sut i ddadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd ystadegol, neu ddynwared dethol genetig, neu astudio'r ymennydd a sut mae cof yn gweithio. Pan na chynhelir dosbarthiadau yno, gall myfyrwyr ddefnyddio'r Labordy i weithio ar aseiniadau, gwneud ymchwil, gwirio negeseuon e-bost, neu bori ar y rhyngrwyd. Mae’r holl gyfrifiaduron wedi’u rhwydweithio â pheiriannau argraffu cyflym, y rhyngrwyd, ac ag adnoddau’r Brifysgol, megis y llyfrgell a’i chyfoeth o adnoddau ar-lein i fyfyrwyr. Mae cyfrifiaduron y Labordy wedi’u llwytho â meddalwedd ar gyfer prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, graffeg a dylunio, creu graffiau, ystadegau, cyflwyniadau, porwyr ac e-bost, a meddalwedd sy’n gysylltiedig â’r cwrs Seicoleg.