Newyddion: Mawrth 2016

Ymchwilydd o Fangor yn gyd-enillydd gwobr NewsHACK y BBC

Roedd Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn un o enillwyr gwobr Wynebu’r Gynulleidfa yn #newsHack: Languge Technology y BBC ar y cyd gyda BBC Cymru Fyw, BBC Connected Studio, a BBC Digital yn Llundain ar 15 ac 16 Mawrth 2016. Yr her yn y digwyddiad a drefnwyd gan y BBC News Labs oedd sut i helpu gwella newyddiaduraeth mewn amgylchedd amlieithog er mwyn manteisio ar newyddion a gwybodaeth mewn ieithoedd eraill, a darllen cynnwys mewn nifer o ieithoedd gwahanol.

Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2016

Adnoddau Newydd ar gyfer Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg

Yn ystod 2015-2016 bu tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn datblygu adnoddau newydd ar gyfer siarad Cymraeg gyda chyfrifiaduron. Mae hon yn dechnoleg sy’n dod yn fwyfwy pwysig wrth i’r llais dynol gael ei ddefnyddio mewn systemau holi ac ateb ar ffonau symudol a thabledi, systemau rheoli teclynnau fel setiau teledu a robotiaid, a systemau arddweud. Os na fydd modd defnyddio’r Gymraeg yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr iaith yn cael ei chau allan fwyfwy o’r byd digidol, a siaradwyr Cymraeg yn gorfod troi i’r Saesneg.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2016