Newyddion: Tachwedd 2018

Antur a Thu Hwnt: Cynhadledd Flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru, 2018

Wrth i rai sy'n chwilio am wefr anelu am Ogledd Cymru, 'canolbwynt' twristiaeth antur, bydd Canolfan Arloesi Pontio ym Mhrifysgol Bangor a Go North Wales yn cynnal cynhadledd flynyddol Twristiaeth Gogledd Cymru yn Pontio ar 6 Rhagfyr.  Teitl y gynhadledd yw "Antur a Thu Hwnt/Adventure and Beyond".

Mae'r prif siaradwyr yn cynnwys yr Arglwydd Ellis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, y cyflwynydd teledu, Kate Humble, yr awdur a siaradwr cyhoeddus, John Thackara, yn ogystal ag Ash Dykes, o Ogledd Cymru, yr anturiaethwr ac athletwr eithafol a ddaeth i amlygrwydd drwy fynd ati i gerdded ei hun ar hyd Afon Yangtze. Bydd ef yn ymuno drwy gynhadledd fideo.

Dyddiad cyhoeddi: 30 Tachwedd 2018

M-SParc ar pwl lwcus

Mae M-SParc, Parc Gwyddoniaeth gyntaf ymroddedig Cymru, a agorodd ar y 1af o Fawrth 2018 yng nghanol pwl lwcus! Yn ddiweddar, enillodd y prosiect Prosiect Adeiladu Digidol y Flwyddyn 2018 yn y Gwobrau Adeiladu Rhagoriaeth Genedlaethol, contract newydd i sefydlu Canolfan Fenter mewn partneriaeth â Menter Mon, a hefyd threfnwyd a chynhaliodd yr Uwchgynhadledd Ynni cyntaf ar gyfer dathlu llwyddiant cwmnïau ynni yn y rhanbarth Gogledd Orllewin Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2018

Project arloesol Prifysgol Bangor yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle

Mae project arloesol a luniwyd ar y cyd gan Ganolfan Bedwyr ac ymchwilwyr Newid Ymddygiad yn y Brifysgol er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle wedi derbyn sylw arbennig gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2018