

Cyflwyniad i Ba Duan Jin: Cwrs Qigong Lechyd
Ddwywaith yr wythnos: Dydd Mawrth a dydd Gwener o 12.00 tan 13.00
- Amser:
- Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2022 – Dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022
- Cyswllt:
- confuciusinstitute@bangor.ac.uk
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cwrs i ddechreuwyr ar Ba Duan Jin, sef ymarfer dros fil o flynyddoedd oed sy'n cynnwys cyfres o wyth symudiad, wedi'u cyfieithu fel yr 'wyth symudiad sidan'. Mae Ba Duan Jin yn cyfuno'r arferion qigong gorau - tawelu'r corff, yr anadl a'r meddwl a helpu i wella cryfder, egni a lles. Bydd y cwrs yn rhedeg, ddwywaith yr wythnos dros bedair wythnos.
Gofynion mynediad - lefel gymedrol o ffitrwydd yn ddymunol
Ffi: Am ddim
Disgrifiad o'r cwrs: Ymarfer ar gyfer pob oed yw hwn a fydd yn ymdrin â theori ac ymarfer Qigong iechyd yn ogystal â sesiwn cynhesu ac oeri. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu cysyniadau sylfaenol Ba Duan Jin ac yn cael y cyfle i ymarfer unedau ar wahân o Qigong iechyd fel a ganlyn:
- Dal y nef â dwy law
- Tynnu’r bwa a gadael i'r saeth hedfan
- Gwahanu’r nef a’r ddaear
- Mae'r dylluan ddoeth yn syllu am yn ôl
- Dyrnu wrth edrych yn flin
- Bownsio ar flaenau'ch traed
- Mae'r arth fawr yn troi o ochr i ochr
- Cyffwrdd bodiau’r traed ac yna plygu yn ôl
Mae pob adran yn cynnwys ymarferion yn seiliedig ar ddamcaniaethau meddyginiaeth Tsieineaidd draddodiadol a syniadaeth athronyddol. Mae'n cynnwys dysgu anffurfiol am draddodiadau dwyreiniol nodweddiadol o ymarfer corff a lles, ac mae'n arbennig o fuddiol i bobl sy’n gweithio mewn swyddfa.
Deilliannau dysgu: Mae buddion posibl ymarfer Qigong rheolaidd yn cynnwys lefelau straen a phryder is, gwell ffocws ac ymwybyddiaeth, a gwell cydbwysedd a hyblygrwydd.
Gwybodaeth am y Tiwtor: Mae Zhijun Wang wedi bod yn ymarfer Ba Duan Jin ers dros 10 mlynedd ac yn hyfforddi myfyrwyr ers dros 6 mlynedd. Bydd ei brofiad ymarfer a'i wybodaeth ddofn o Qigong Tsieineaidd, Bocsio Taiji a meddyginiaeth Tsieineaidd draddodiadol yn rhoi gwybodaeth atodol ddefnyddiol iawn i'r rhai sy’n cymryd rhan (sy'n cofrestru ar y cwrs) na dim ond yr 'wyth symudiad sidan'.
Cofrestrwch am ddim ar Eventbrite