Bangor yn Dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Eleni bydd Bangor yn dathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd , sef Blwyddyn y Ceiliog, drwy gynnal Gorymdaith Draig Tsieineaidd a Gala ar ddydd Sadwrn 4 Chwefror, sydd wedi eu trefnu gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Bydd perfformwyr o Sefydliadau Confucius Prifysgol Bangor a Phrifysgol South Bank Llundain yn ymuno â disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes i gynnal arddangosfa egnïol o ddiwylliant Tsieina trwy gydol y prynhawn. Bydd draig Tsieineaidd, sy'n 15 medr o hyd, yn ymlwybro hyd y Stryd Fawr, yng nghwmni dawnswyr a drymwyr yn eu gwisgoedd lliwgar. Yn dilyn yr orymdaith, cynhelir gala i ddathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd, lle bydd canu a dawnsio Tsieineaidd, darnau offerynnol a deuawd Tsieineaidd-Gymreig o Ar Hyd y Nos.
Y gwesteion arbennig fydd Maer Dinas Bangor, y Cynghorydd Dewi Williams, a'r actores leol Angharad Rhodes, sy'n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y gyfres deledu Melody ar CBeebies. Mae Angharad, sy'n 13 oed, ac a fydd yn cyflwyno'r gala, ar hyn o bryd yn dysgu Mandarin yn Sefydliad Confucius:
"Mae'n braf cael bod yn rhan o ddigwyddiad sy'n llawn hwyl a lliw." meddai.
“Dw i wedi bod yn dysgu Tsieinëeg ers dau flynedd erbyn hyn, ac mae cael profi diwylliant Tsieina fel hyn yn help mawr i ddeall yr iaith a'r bobl yn well. Mae'r digwyddiad yma yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd ac o ddysgu mwy am y byd."
Bydd yr orymdaith yn gadael Cadeirlan Bangor am 12pm ac yn gwneud ei ffordd ar hyd y Stryd Fawr at y Cloc, lle cynhelir y gala ar y llwyfan rhwng 12.30pm a 2pm.
Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ar gael yma.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2017