Enillwyr Cystadleuaeth Celfyddydau Tsieineaidd
Yn ddiweddar, cynhaliodd y tri Sefydliad Confucius yng Nghymru Gystadleuaeth Celf Tsieineaidd i bob disgybl yng Nghymru ar y thema o ddathlu'r cyfeillgarwch rhwng Cymru a Tsieina.
Enillydd y categori Paentio ar gyfer Blynyddoedd 10-13 oedd Ffreur Bristow Bl11 ac enillydd y categori Barddoniaeth oedd Eira Daimond o Flwyddyn 10. Mae'r ddwy fyfyrwraig yn astudio Mandarin HSK ar ôl ysgol yn Ysgol Friars, ac fe'u gwelir yma yn derbyn rhan o'u gwobr gan Ddirprwy Bennaeth Ysgol Friars, David Healey a thiwtoriaid Sefydliad Confucius Di Shi a Jiaqi Zhang.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2019