Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adolygiad Blynyddol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gŵyl Cymru-Tsieina i gael ei chynnal yn Pontio, Bangor

Bydd Gŵyl newydd wedi ei chynhyrchu a’i churadu gan Gwmni Theatr Invertigo a Pontio yn cael ei chynnal yn ystod penwythnos dathliadau blwyddyn newydd Tsieina (16-18 Chwefror 2018), a bydd yn archwilio’r cysylltiadau creadigol rhwng Cymru a Tsieina.

Bydd perfformiadau eclectig, digwyddiadau, ffilmiau, bwydlen arbennig Tsieinïaidd ym mwyty Gorad a gweithgareddau addas i’r teulu yn arddangos diwylliannau, ieithoedd a chelf y ddwy wlad. Y cyntaf o’i bath; bydd yr ŵyl amlieithog hon yn cynnig llwyfan i straeon newydd ac yn galluogi cydweithio rhwng cerddorion, dramodwyr ac artistiaid Cymraeg a Tsieineaidd.

Caiff Gwyl Cymru-Tsieina ei gefnogi gan nawdd loteri drwy Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’r partneriaid yn cynnwys Pontio, Cwmni Theatr Invertigo, Sefydliad Confucius Bangor, Coleg Menai, Celfyddydau Rhyngwaldol Cymru, Prifysgol Bangor a Chymdeithas Myfyrwyr ac Ysgolheigion Tsieiniaidd Prifysgol Bangor.

Ymysg uchafbwyntiau’r Wyl mae:

Gareth Bonello a Zining Wang: Llun PontioGareth Bonello a Zining Wang: Llun PontioCabaret Pontio: The Gentle Good yn perfformio eu halbwm arobryn (Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014), Y Bardd Anfarwol, gyda’r cerddor Tsieineaidd lleol, Zining Wang – gan blethu synau gwerin Celtaidd a Tsieineaidd i adrodd straeon hudolus am y bardd Tsieineaidd o’r 8fed ganrif.

Darlleniad prynhawn gan Francesca Rhydderch o’i nofel arobryn (a Llyfr y Flwyddyn 2014) The Rice Paper Diaries, wedi ei ysbrydoli gan daith ei theulu o Hong Kong yn 1940 i bentref arfordirol yng Nghymru. Yn ymuno â Francesca am sgwrs fydd Yan Ying, sydd newydd gyhoeddi ei chyfieithiad o’r llyfr i’r Mandarin.

House of Absolute yn perfformio eu dawns ddiweddaraf, Orlando Warrior, i gerddoriaeth fyw, gan archwilio hunaniaeth groesryw drwy chwedl fodern Mu-Lan a chrefft ymladd wu-shu.

Steffan Donnelly yn cyflwyno ei addasiad o ddrama Hao Jingfang Lladron a Llanc, golwg byd-eang trawiadol ar anghydraddoldeb mewn cymdeithas fodern. Hao Jingfang yw’r fenyw Asiaidd gyntaf i ennill Gwobr Hugo yn 2016 am ei nofel fer Folding Beijing (mewn cystadleuaeth yn erbyn Stephen King!).

Gosodiad sain, Cysylltiadau - dyma gyfle i gynulleidfaoedd glywed straeon ac atgofion y gymuned Cymru-Tsieina leol, wedi ei greu yn arbennig ar gyfer yr Wyl gan y cynllunydd sain Jethro Cooke a’r ffotograffydd lleol Karolina Konior.

House of Absolute: Llun: Douglas HookHouse of Absolute: Llun: Douglas HookBydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys amrywiaeth o weithdai a digwyddiadau am ddim i’r cyhoedd mewn partneriaeth â Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor, gan gynnwys arddangosfa o Tai Chi yn man perfformio tu allan Pontio ar lefel 2, Cerddoriaeth Tsieinïaidd ar y bont ger bwyty Gorad, gweithdai caligraffi Tsieinïaidd, Paentio Masgiau Opera Beijing, Seremoni De Tsieinïaidd a Dawns y Ddraig liwgar. Bydd cynllun cyfranogi Pontio i bobl ifanc, BLAS, hefyd yn perfformio darn ar y safle wedi ei ysbrydoli gan lên gwerin Cymru a Tsieina. Ar dydd gwener cyntaf yr Wyl, bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cynnal gweithdy i’r diwydiannau celfyddydol a chreadigol am Weithio yn Tsieina.

Bydd celf weledol hefyd yn cael lle blaenllaw, gydag artistiaid o Gwrs Sylfaen Celf Coleg Menai yn ymateb i’r thema, animeiddiadau Catrin Davies ar y sgriniau digidol a première comisiwn cyntaf ‘Wal Wen’ Pontio, tafluniad digidol ar wal wen enfawr cyntedd Pontio o’r enw ‘Cydbwyso Rhwng Dwy Ddraig’ gan yr artist Ronan Devlin.

Fel rhan o’r Wyl, bydd Sinema Pontio yn dangos nifer o ffilmiau wedi eu dewis yn arbennig ar gyfer yr achlysur, gan gynnwys clasur Disney Mulan, y stori serch Mountains May Depart, y ffantasi epig The Great Wall mewn 3D, rhaglen ddogfen flasus am fwyd Tsieina A Bite of China a ffilm ddiweddaraf Ai Weiwei am yr argyfwng ffoaduriaid rhyngwladol, wedi ei saethu dros 23 gwlad, Human Flow. Dim ond £5 yw cost bob ffilm.

Francesca RhydderchFrancesca RhydderchMae poblogaeth Prydain-Tsieina fawr ym Mangor a’r ardal leol, ac mae 700 o fyfyrwyr o Tsieina yn cofrestru i astudio yn y Brifysgol bob blwyddyn. Mae gan y Brifysgol ei champws ei hun yn ninas Changsha, Hunan ac mae Cymdeithas Tsieina Gogledd Cymru a Sefydliad Confucius hefyd wedi eu lleoli yn y ddinas.

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Invertigo:

“Mae’n arbrawf uchelgeisiol i daflu’r holl ffurfiau celfyddyd at ei gilydd (o ddawns i gelf ddigidol), ieithoedd (Cymraeg, Mandarin, Saesneg, Cantoneg), gwahanol syniadau a materion cenedlaethol – gan wneud iddynt ryngweithio o dan un to. Bydd yn addysgiadol, yn lot o hwyl ac o bosib yn eithaf syfrdanol. Mae curadu a chynhyrchu’r ŵyl hon gyda Pontio, gan weithio gydag artistiaid gwirioneddol dalentog, y cymunedau lleol a myfyrwyr Tsieineaidd Prifysgol Bangor, wedi fy atgoffa o’r pleser sydd i’w gael o ddarganfod ein gilydd, a phwysigrwydd rhannu ein safbwyntiau aml-ddiwylliant. Mae hefyd wedi gwneud i mi sylwi bod sŵn gwleidyddiaeth yn boddi pobl a’u realaeth. Y gobaith yw y bydd yr ŵyl hon yn rhoi sylw a ffocws ar bobl.”

Ychwanegodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio:

“Wrth galon ethos Pontio mae pontio bydoedd gwahanol, rhwng diwylliannau a rhwng cymunedau ac felly mae’n briodol ein bod yn cyd-guradu tridiau o gyfnewid diwylliannol Cymru-Tsieina. Mae’n arbennig o gyffrous i ni ein bod yn gwneud hynny gyda’r cwmni arloesol Invertigo, ein cwmni cysylltiol cyntaf a hynny yn ystod yn ein hail flwyddyn fel partneriaid. Mae’r ŵyl yn addo i fod yn un gyffrous fydd yn archwilio’r cyfnewid rhwng dau ddiwylliant cwbl wahanol, a bydd tîm Artistig Pontio yn dod a’u meysydd arbenigedd i’r parti – mewn ffilm, celf ddigidol, creadigrwydd technegol a chymryd rhan mewn perfformiadau. Bydd rhywbeth i bawb – teuluoedd, myfyrwyr a’r gymuned leol. Trwy archwilio’r posibiliadau o ran bwydydd gyda chydweithrediad ein myfyrwyr Tsieineaidd a bwyty Gorad, bydd bwyd Tsieineaidd hefyd ar gael, canolbwynt i unrhyw ddathliadau Tsieineaidd – efallai y bydd tro Cymreig arno hefyd!”

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John G. Hughes:

“Rwy’n hynod o gyffrous am sefydliad yr Ŵyl Cymru-Tsieina uchelgeisiol hon gyda’i ymdriniaeth ffres a beiddgar o gyfnewid diwylliannol – mae’n ddigwyddiad sydd i’w groesawu fel rhan o arlwy Pontio.”

I weld yr amserlen gyfan, ewch i www.pontio.co.uk a’r wefan meicro Cymru-Tsieina, ffoniwch 01248 38 28 28 neu gallwch bigo taflen i fyny o’r swyddfa docynnau.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2018

Hafan

  • Sefydliad Confucius
    • Hafan
    • Gwybodaeth amdanom ni
      • Cyfarfod â’r tîm
      • Alumni
      • Cyfleusterau
    • Newyddion
      • Cylchlythyrau
      • Erthyglau newyddion o Tsieina
      • Erthyglau newyddion o'r DU
    • Beth sydd ymlaen?
    • Adnoddau Dysgu Ar-lein
    • Cynhadledd
      • Rhaglen
      • Cysylltiadau
      • Yn y diweddar
    • Diwylliant
      • Rhaglen Haf 2022
      • Rhaglen Haf 2021
      • Gwersyll Haf Tsienia 2020
      • Gwersyll Haf Tsienia 2019
      • Gwersyll Haf Tsienia 2018
      • Dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd
    • Dysgu
      • Gwersi Mandarin Ar-lein
      • Sgwrsio Tsieineaidd Ar-lein
      • Cyrsiau i bawb
      • Addysg Bellach ac Uwch
      • Ysgolion Cynradd ac Uwchradd
      • Prawf Hyfedredd Tseineaidd HSK/HSKK/YCT
        • Cwrs HSK Lefel 1
        • Cwrs HSK Lefel 2
      • Ystafelloedd Dosbarth Confucius
      • DynaMost – Adnoddau hanes Tsieineaidd
      • Ysgoloriaethau Sefydliad Confucius
      • Rownd Derfynol ‘Cystadleuaeth Pont i Tsieina’ y DU
      • Cystadleuaeth Sillafu Tsieineaidd
    • Ymchwil
      • Staff Ymchwil
      • Projectau
      • Cynadleddau Rhyngwladol
    • Dysgu Saesneg yn Tsieina
    • Ymunwch â’n rhestr bostio
      • Dad-danysgrifiwch
    • Tystebau
    • Cysylltwch â ni
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor