Is-Gangellorion cwrdd Llywydd Tsieineaidd Xi Jinping
Aeth yr Is-ganghellor, Yr Athro John Hughes, i 10fed Cynhadledd Fyd-eang y Sefydliad Confucius a gynhaliwyd yn Shanghai fis Rhagfyr, lle bu is-gangellorion a llywyddion prifysgolion o dros 100 o wledydd yn bresennol. Sefydlwyd Canolfan Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn 2012, mewn partneriaeth â Phrifysgol Gwyddorau Gwleidyddol a'r Gyfraith Tsieina, Beijing. Mae'n un o 29 Canolfan Confucius ym Mhrydain, a'i chylch gorchwyl yw datblygu cynlluniau cyfnewid rhyng-ddiwylliannol rhwng Cymru/Prydain a Tsieina yng Ngogledd Cymru.
Mae llwyddiannau nodedig yn cynnwys amrywiaeth eang o ddigwyddiadau mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru a darpariaeth helaeth o ddosbarthiadau iaith Mandarin mewn ysgolion uwchradd a chlybiau diwylliannol 'Y Ddwy Ddraig' mewn ysgolion cynradd, lle edrychir ar brofiadau a dealltwriaeth a rennir rhwng Cymru a Tsieina. Uchafbwynt diweddar rhaglen flynyddol gyffrous y Ganolfan oedd y digwyddiad dawns Tsieineaidd Harddwch y Tu Hwnt i Eiriau a gafodd ganmoliaeth uchel. Cynhaliwyd hwn yn Venue Cymru, Llandudno ac fe'i cyflwynwyd gan Academi Ddawns byd-enwog Beijing a ddenodd cynulleidfa o 730.
Yn ystod ymweliad proffil uchel yr Arlywydd Xi o Tsieina â Phrydain fis Tachwedd, trefnodd i gwrdd ag is-gangellorion prifysgolion â Chanolfannau Confucius, gan ddangos lefel y pwysigrwydd a roddir ar feithrin cysylltiadau rhyng-ddiwylliannol effeithiol ym Mhrydain a'r pwysigrwydd strategol a roddodd ar y partneriaethau a hyrwyddir yn weithredol gan y Canolfannau Confucius.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2015