Ysgol Haf Cyfreithiol Sefydliad Confucius
Trefnwyd Ysgol Haf Gyfreithiol Saesneg arbennig mewn cydweithrediad â CUPL a'i chynnal gan Michael McGarvey, arbenigwr ym maes Saesneg Cyfreithiol o Ysgol Economeg Llundain. Dywedodd Mike McGarvey: ''Roedd yn bleser mawr cymryd rhan yn rhaglen Saesneg Cyfreithiol gyntaf CUPL- Prifysgol Bangor. Mewn cwta wythnos, gwnaeth y cyfranogwyr lawer iawn o gynnydd o ran deall a defnyddio Saesneg cyfreithiol a’r modd y’i defnyddir yn system Lloegr. Er mai ar-lein oedd y rhaglen, roedd perthynas dda rhwng pawb; a gwych oedd gweld y fath frwdfrydedd a chwestiynau lu gan fyfyrwyr chwilfrydig a brwd. Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan safon yr asesiadau a'r hyn a gyflawnwyd mewn byr o dro, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle i gydweithio â CUPL eto.'
Bu tri deg wyth o fyfyrwyr yn cymryd rhan dros bum niwrnod dwys yn yr haf, a oedd yn cynnwys darlithoedd, ymarferion grŵp, a gwaith cwrs ar amrywiol bynciau cyfreithiol, yn eu plith: cyfraith cwmnïau, dadansoddi achosion, mathau o ddadleuon a pherswâd a chyfosodiad. Dywedodd Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius: ''Y nod oedd cynnig cyfle arbennig i'r myfyrwyr roi eu meddyliau ar waith ac ehangu ar eu harbenigedd pwnc, datblygu sgiliau trosglwyddadwy newydd, gwella eu Saesneg cyfreithiol llafar, a dysgu mwy am Brifysgol Bangor. Rydym yn falch iawn o dderbyn adborth hynod gadarnhaol, ac rydym yn edrych ymlaen at gynyddu hyd yr Ysgol Haf y flwyddyn nesaf.'
Dywedodd LI Dandan, Dirprwy Gyfarwyddwr y Swyddfa Ryngwladol ym Mhrifysgol Gwyddorau Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith yn Tsieina (CUPL): ''Roedd trefniadaeth yr Ysgol Haf Saesneg Cyfreithiol yn ardderchog! Dyma’r tro cyntaf i Sefydliad Confucius o un o'n prifysgolion partner ddefnyddio adnoddau tramor i wella golygon rhyngwladol myfyrwyr CUPL a chynnig cyfleoedd gwerthfawr i asesu astudiaethau achos yn feirniadol a chael profiad ymarferol o ddadleuon cyfreithiol a dwyn perswâd. Dyma ddull newydd o arloesi a hybu Sefydliad Confucius sy'n hwyluso cydweithrediad pellach rhwng y prifysgolion.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Awst 2021