Module BSC-2021:
Medrau Bio-Wyddoniaeth
Medrau Bio-Wyddoniaeth 2024-25
BSC-2021
2024-25
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Stella Farrar
Overview
Cyflwynir y modiwl mewn pedair cydran allweddol:
- Beirniadu Gwyddoniaeth (meddwl beirniadol). Bydd myfyrwyr yn gwneud nifer o ymarferion, yn cynnwys dysgu trwy gyfrifiadur, lle byddant yn adolygu’n feirniadol erthyglau gwyddonol o amrywiaeth o ffynonellau (teledu, cyfryngau, cylchgronau gwyddonol, blogiau). Bydd myfyrwyr yn ystyried:- gwallau mewn llenyddiaeth wyddonol; methodoleg wyddonol; cynllun arbrofol; defnyddio a chamddefnyddio canlyniadau ystadegol; cyflwyniadau gwallus a chamarweiniol o ganlyniadau; ansawdd gwahanol ffynonellau o wybodaeth. Gall pynciau gynnwys newid hinsawdd, meddygaeth amgen, creadaeth, iechyd ac afiechyd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp, dadleuon, ac yn ysgrifennu blogiau wyddonol.
- Ysgrifennu gwyddonol (medrau llythrennedd) Bydd myfyrwyr yn mynd i awr o ddarlith ragarweiniol ar ysgrifennu gwyddonol. Trefnir bod rhestr o raglenni gradd a medrau pwnc-benodol ar gael ar Blackboard. Bydd myfyrwyr yn dewid un teitl traethawd i’w gwblhau. Dysgu trwy gyfrifiadur (CAL) – bydd cyfres gynhwysfawr o ddeunyddiau ategol ar gael i fyfyrwyr ar wefan Blackboard (e.e. awgrymiadau ar sut i ysgrifennu traethodau, gramadeg a dealltwriaeth, cyfeirnodi a thraethodau enghreifftiol).
- Dysgu trwy ddatrys problemau (meddwl yn greadigol). Cyflwynir hwn fel dau weithdy hyfforddi yn cymryd awr yr un (mewn grwpiau o tuag 8) gydag aelod o’r staff academaidd neu ddangoswr ôl-raddedig sydd wedi’i hyfforddi, a chynhadledd fer 2-awr, lle bydd 5 grŵp yn dod at ei gilydd i roi 10 munud o gyflwyniad llafar (gyda chwestiynau) ar eu project. Caiff y myfyrwyr senario o fywyd go-iawn (yn ymwneud â’r rhaglen radd ac yn bwnc-benodol) cyn y gweithdy cyntaf. Gofynnir i fyfyrwyr:- ystyried cwestiynau diddorol ynglŷn ag ymchwil; gosod damcaniaethau o fewn terfynau; cynllunio profion priodol ar gyfer damcaniaethau; ystyried casgliadau a dadansoddiadau o ddata; ystyried dehongliadau Trafodir y rhain yn y gweithdai.
- Cynllunio ar gyfer project Blwyddyn 3 (medrau ymarferol/ cynllunio) Cyd-drafod rhwng y myfyriwr ac arolygwr y project academaidd mewn hyd ar 3 sesiwn diwtorial. Bydd y sesiynau tiwtorial yn nodi nod ac amcanion penodol y project ac yn datblygu cynllun ar gyfer y project.
Assessment Strategy
-trothwy -Dylai myfyriwr trothwy (Graddau D+ - D-); dangos gallu sylfaenol i werthuso’n feirniadol ddeunydd gwyddonol o amrywiaeth o ffynonellau, ac i syntheseiddio a chrynhoi’r wybodaeth hon mewn modd clir, cryno a rhesymegol; dangos sgiliau datrys problemau sylfaenol, y gallu i asesu'r cwestiynau allweddol sy'n ymwneud â senario wyddonol o fywyd go iawn, gan fframio damcaniaethau profadwy a nodi a defnyddio dulliau priodol o ddylunio/profi arbrofol, dadansoddi data a dehongli; gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o grŵp, ac fel unigolyn; datblygu'r sgiliau angenrheidiol i'w galluogi i ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r Biowyddorau.
-da -Dylai myfyriwr da (Graddau B+ - C-); dangos gallu i werthuso’n feirniadol ddeunydd gwyddonol o amrywiaeth o ffynonellau, ac i syntheseiddio a chrynhoi’r wybodaeth hon ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn modd clir, cryno a rhesymegol sy’n cynnwys gwerthusiad beirniadol o’r dull gwyddonol; dangos sgiliau datrys problemau cynhwysfawr, y gallu i nodi cwestiynau allweddol sy'n ymwneud â senario wyddonol o fywyd go iawn, gan fframio damcaniaethau profadwy a nodi dulliau priodol o ddylunio/profi arbrofol, dadansoddi data a dehongli. Bydd hyn yn cynnwys y gallu i awgrymu dulliau diriaethol a chanlyniadau'r gwaith; gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o grŵp, ac fel unigolyn; dangos strategaethau datblygedig ar gyfer gwella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r Biowyddorau.
-rhagorol -Dylai myfyriwr rhagorol (Graddau A* - A-); dangos gallu i werthuso’n feirniadol ddeunydd gwyddonol o amrywiaeth o ffynonellau, ac i syntheseiddio a chrynhoi’r wybodaeth hon ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn modd clir, cryno a rhesymegol sy’n cynnwys gwerthusiad cynhwysfawr a beirniadol o’r dull gwyddonol; dangos sgiliau datrys problemau sydd wedi’u hen sefydlu, nodi cwestiynau allweddol a damcaniaethau profadwy sy’n ymwneud â senario wyddonol o fywyd go iawn, gan ddangos y gallu i awgrymu a chwblhau dulliau priodol o ddylunio/profi arbrofol, dadansoddi data a dehongli. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio dulliau ystadegol/dadansoddol priodol i ddod i gasgliadau diriaethol o ddamcaniaethau; dangos gallu i weithredu'n effeithlon fel rhan o grŵp, ac fel unigolyn; dangos strategaethau â sylfaen dda ar gyfer gwella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r Biowyddorau.
Learning Outcomes
- Dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ddata a llenyddiaeth wyddonol o amrywiaeth o ffynonellau. (Meincnodau biowyddorau: 3.2 gwybodaeth bynciol, 3.3 sgiliau generig, 3.5 sgiliau deallusol, 3.6 sgiliau ymarferol a 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth)
- Dadansoddi'n dysgu'n dysgu sgiliau dysgu o sgiliau. (Meincnodau biowyddorau: 3.2 gwybodaeth bynciol, 3.3 sgiliau generig, 3.5 sgiliau cychwynnol, 3.6 sgiliau dysgu 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth)
- Datblygu sgiliau cyflwyno llafar fel rhan o ymarferion grŵp. (Meincnodau biowyddorau: 3.4 sgiliau graddedig ac allweddol, 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth a 3.8 sgiliau rhyngbersonol a gwaith tîm)
- Gweithio'n effeithiol fel aelod o grŵp ac yn unigol i gwblhau'r ymarferion a'r tasgau asesedig yn llwyddiannus. (Meincnodau biowyddorau: 3.2 gwybodaeth bynciol, 3.3 sgiliau generig, 3.4 sgiliau graddedig ac allweddol, 3.5 sgiliau deallusol, 3.6 sgiliau ymarferol, 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth, 3.8 sgiliau rhyngbersonol a gwaith tîm a 3.9 sgiliau hunanreoli a datblygiad proffesiynol)
- Mynd i’r afael â phroblem ymchwil benodol yn greadigol, gan nodi damcaniaethau y gellir eu profi a chymhwyso’r ymagwedd wyddonol at ddylunio profion arbrofol priodol ac ystyried casglu, dehongli a dadansoddi data. (Meincnodau biowyddorau: 3.2 gwybodaeth bynciol, 3.3 sgiliau generig, 3.4 sgiliau graddedig ac allweddol, 3.5 sgiliau deallusol, 3.6 sgiliau ymarferol, 3.7 sgiliau technoleg gwybodaeth, 3.8 sgiliau rhyngbersonol a gwaith tîm a 3.9 sgiliau hunanreoli a datblygiad proffesiynol)
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
(Sem1) Traethawd a Chrynodeb
Weighting
25%
Due date
15/11/2024
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
(Sem 2) Cyflwyniad Grwp
Weighting
20%
Due date
24/02/2025
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Crynodol
Description
Cynllun traethawd hir
Weighting
25%
Due date
11/04/2025
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf Dosbarth (Astudiaeth Achos Ystadegau)
Weighting
30%
Due date
16/12/2024