Module CXC-1007:
Cymraeg Llafar
Cymraeg Llafar 2023-24
CXC-1007
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Mae’r modiwl hwn yn datblygu sgiliau mynegiant llafar (siarad a gwrando). Rhoddir sylw i wahanol gyweiriau’r iaith, o’r tafodieithol i’r ffurfiol. Bydd hyfedredd yn cael ei feithrin trwy drafod materion cyfoes, gyda chyflwyniadau gan y myfyrwyr ar amrywiol bynciau. Fe’i dysgir mewn grwpiau trafod bychain a defnyddir deunydd cyfredol o’r teledu, radio a byd ffilm i gyflwyno pynciau ac i sbarduno trafodaeth. Datblygir felly wahanol sgiliau, gan gynnwys dadansoddi arddull, trawsgrifio cywir a sylwi ar y berthynas rhwng y ‘tafodieithol’ a’r ‘safonol’. Yn ogystal â’r clyweledol, trafodir gweithiau ysgrifenedig mewn amryw ffurfiau – e.e., papurau newydd, cylchgronau, blogiau, llenyddiaeth dafodieithol. Llunnir union gynnwys y modiwl yn unol ag anghenion ymarferol y myfyrwyr.
Learning Outcomes
- Arddangos sgiliau clywedol uchel drwy fedru deall trafodaethau llafar mewn amryw o dafodieithoedd a chyweiriau.
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg mewn gwahanol gyweiriau iaith.
- Gallu defnyddio geirfa estynedig yn Gymraeg mewn ffordd briodol a chywir mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
- Medru cyflwyno ac amddiffyn safbwynt soffistigedig ar lafar, gan arddangos cryn feistrolaeth ar arddull ac idiomau priodol.
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
50%