Module CXC-2203:
Blas ar y Wyddeleg
Blas ar yr Wyddeleg 2023-24
CXC-2203
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Aled Llion Jones
Overview
- Medru ynganu'r Wyddeleg yn gywir, a darllen testunau syml
- Medru cynnal sgwrs syml yn y Wyddeleg
- Deall hanfodion nifer o bwyntiau gramadegol sylfaenol, e.e.:
cystrawen y ferf 'bod' Wyddeleg yn y presennol, gorffennol a
dyfodol,
Brawddegau cwmpasog (h.y. o'r fath 'byddaf yn gwneud hynny
yfory') yn yr amserau a nodir uchod.`
Hanfodion y berfau afreolaidd
y rhifolion
sylfeini system treigladau'r Wyddeleg
arddodiaid
y cyplad
ymwybyddiaeth gyffredinol o'r cyflyrau
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy Er mwyn llwyddo yn y cwrs, bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r gwaith a astudiwyd, gan ddangos peth dealltwriaeth o’r ffynonellau ysgrifenedig a llafar, a chan fynegi syniadau syml ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddant yn ymwybodol o rai o’r cysylltiadau rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg.
-good -Bydd myfyrwyr sy’n ennill graddau uwch ar y modiwl hwn yn deall mwy na sylfaen yr hyn a astudiwyd, ond hefyd yn dechrau ymwneud â chymhlethdodau’r iaith (e.e. dealltwriaeth dda o’r treigladau, ac ymwybyddiaeth o ffurfiau lluosog a ffurfiau’r genidol, yn ogystal â ffurfiau cysefin geiriau). Byddant yn medru mynegi eu hunain yn ysgrifenedig ac ar lafar mewn sefyllfaoedd penodol, mewn dull sydd ar y cyfan yn gywir ac yn strwythuredig. Byddant yn dangos ymwybyddiaeth o ffoneteg ac ynganiad yr iaith. Byddant hefyd yn deall sylfaen y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg (a’r ieithoedd Celtaidd eraill).
-excellent -Bydd myfyrwyr ardderchog yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â manylder yn eu gwybodaeth o’r meysydd gramadegol a astudiwyd. Mewn sefyllfaoedd penodol, byddant yn gallu mynegi eu hunain yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio’r holl rychwant o strwythurau a geirfa a gyflwynwyd. Bydd ganddynt ddealltwriaeth o’r ffordd y mae strwythurau sylfaenol yr iaith Wyddeleg i’w cymharu ag eiddo’r Gymraeg (a’r ieithoedd Celtaidd eraill).
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn deall agweddau o ddiwylliant a hanes Iwerddon, yn enwedig y rhai a chanddynt gysylltiad amlwg â'r iaith.
- Bydd myfyrwyr yn deall nodweddion gramadegol sylfaenol yr iaith Wyddeleg.
- Bydd myfyrwyr yn gallu sgwrsio yn Wyddeleg sylfaenol am bynciau syml, penodedig, gan ddeall iaith lafar seml ac ymateb iddi yn ddealladwy.
- Bydd myfyrwyr yn medru darllen a deall Gwyddeleg ysgrifenedig seml.
- Bydd myfyrwyr yn medru ysgrifennu yn y Wyddeleg am bynciau syml, gan ddefnyddio strwythurau gramadegol sylfaenol.
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
50%