Module CXC-3010:
Portffolio Proffesiynol
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Prof Gerwyn Wiliams
Overall aims and purpose
strong textDyma’r prif gyfle o fewn y radd Cymraeg Proffesiynol i ddatblygu portffolio o waith perthnasol i’r cynllun hwn. Mewn cyfres o ddarlithoedd, cyflwynir sgiliau generig i’r myfyrwyr, ond bydd y prif bwyslais ar weithio’n annibynnol dan gyfarwyddyd tiwtor unigol. Bwriedir i’r modiwl ymgysylltu â’r ddau yn y Flwyddyn Gyntaf a’r Ail Flwyddyn sef O’r Senedd i’r Swyddfa ac Iaith Gwaith sy’n cynnwys elfen o brofiad gwaith. Er enghraifft, gellid adfyfyrio’n feirniadol ar yr hyn a brofwyd mewn gwahanol weithleoedd a datblygu hynny’n sail i bortffolio dadansoddol; gallai’r portffolio fod yn astudiaeth achos benodol neu’n gasgliad o ddeunyddiau hyrwyddo a marchnata. Mater i’w benderfynu mewn ymgynghoriad â’r tiwtor fydd yr union faes trafod terfynol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno portffolio tua 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Bydd disgwyl i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu portffolio.
Course content
Dyma’r prif ddarn o waith ymchwil annibynnol o fewn y cynllun gradd Cymraeg Proffesiynol. Ar sail arweiniad mewn cyfres o ddarlithoedd hyfforddi generig a than gyfarwyddyd cyfarwyddwr personol, bydd cyfle i adfyfyrio’n feirniadol ar yr hyn a ddysgwyd yn sgil y cynllun ac i gymhwyso hynny wrth ddatblygu project unigol ar agwedd benodol o ddiddordeb neilltuol, e.e. arolwg o ddeddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith yn y sector gyhoeddus, ymchwil i’r cyweiriau iaith a weithredir ar wefan neu mewn cyfnodolyn arbennig, astudiaeth achos benodol. Mewn darn o waith estynedig, bydd cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil drwy gyflwyno dadleuon a thynnu ar dystiolaeth sylweddol cyn cyflwyno’r gwaith terfynol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy (-D - D+)
-
Dylai’r portffolio ddangos cynefindra â’r prif ffynonellau gwybodaeth, ynghyd â’r gallu i gywain a dadansoddi deunydd a mynegi barn bersonol.
-
Dylai’r dasg dechnegol ddangos cynefindra â’r egwyddorion.
-
Dylai’r dasg lafar fod yn gyflwyniad clir mewn ieithwedd briodol.
-
Dylid dangos gafael ar deithi’r Gymraeg ymhob tasg.
good
Da (-B - B+)
-
Dylai’r portffolio ddangos gwybodaeth dda o’r prif ffynonellau ynghyd â’r gallu i gywain a dadansoddi ystod dda o ddeunydd ac i fynegi barn bersonol ystyriol.
-
Dylai’r dasg dechnegol gael ei chyflawni’n bur gywir
-
Dylai’r dasg lafar fod yn gyflwyniad clir a chytbwys, mewn ieithwedd addas a graenus.
-
Dylai pob tasg ddangos gafael dda ar deithi’r Gymraeg.
excellent
Rhagrol (-A - A)*
-
Dylai’r portffolio ddangos gwybodaeth drylwyr o ystod eang o ffynonellau gwybodaeth, ynghyd â gallu datblygedig i gywain a dadansoddi deunydd.
-
Dylid arddangos barn bersonol aeddfed a meddylgar.
-
Dylai’r dasg dechnegol gael ei chyflwyno’n gywir iawn, a dylai’r cyflwyniad llafar arddangos dawn i drafod yn fywiog ac yn ystyriol mewn ieithwedd gaboledig.
-
Dylai pob tasg ddangos gafael sicr ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
Learning outcomes
-
- Arddangos sgiliau technegol wrth gyflwyno gwaith ysgrifenedig.
-
- Casglu deunyddiau’n annibynnol
-
- Cyflwyno portffolio trefnus a chydlynus
-
- Arfer ieithwedd bwrpasol a mynegiant clir a graenus wrth draethu ar y dewis bwnc.
-
- Cyflwyno deunydd a chynnal trafodaeth ar lafar.
-
- Adfyfyrio’n feirniadol ar yr astudiaeth
-
- Dethol deunyddiau yn ôl eu perthnasedd a’u blaenoriaethu
-
- Lleoli’r portffolio mewn cyd-destun priodol
-
- Ymdrin â’r maes dan sylw yn ddadansoddol
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Portffolio Proffesiynol | 75.00 | ||
Tasg dechnegol | 10.00 | ||
Cyflwyniad llafar | 15.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Tutorial | Tua 6 chyfarfod tiwtorial rhwng y myfyriwr a'r cyfarwyddwr a bennir ar gyfer ei broject unigol |
6 |
Lecture | Cyfres o tua 8 awr o ddarlithoedd/seminarau a gynhelir ar wahanol adegau yn ystod Semester 1 a 2. |
8 |
Private study | Astudio preifat ac annibynnol: ymchwilio i'r maes trafod, cywain deunyddiau, darllen, dadansoddi, cynllunio'r portffolio, drafftio ac ysgrifennu'r gwaith terfynol. |
186 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Courses including this module
Compulsory in courses:
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 3 (BA/CYMPRO)