Module DXC-3508:
Materion Amgylcheddol
Materion Amgylcheddol 2024-25
DXC-3508
2024-25
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Karina Marsden
Overview
Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i wneud project ymchwil ar gyfrifiadur gan edrych yn fanwl ar fater amgylcheddol cyfredol, neu fater yn gysylltiedig â'r amgylchedd. Cynhelir y modiwl yn Semester 1 a daw i ben gyda chynhyrchu adroddiad project ysgrifenedig a seminar. Dewisir y testunau gan y myfyriwr i adlewyrchu ei d(d)iddordeb a gallant amrywio o faterion lleol i rai byd-eang. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i amrediad o faterion cyfoes 'poblogaidd'. Dylid ymgynghori â ffynonellau megis papurau newydd o wahanol ansawdd, y cyfryngau darlledu, y rhyngrwyd, cyfnodolion gwyddonol `poblogaidd' a'r cyfnodolion gwyddonol a gaiff eu cloriannu'n fwy trwyadl gan arbenigwyr yn y maes. Dylai'r testun fod yn wahanol i'r un a ddewisir ar gyfer project ymchwil arbrofol y myfyriwr. Dylid dewis testunau mewn ymgynghoriad â threfnydd y modiwl. Mae'r modiwl yn cynnwys ymchwil a wneir gan fyfyrwyr i destun penodol. Ar wahân i ddarlith ragarweiniol nid oes unrhyw ddarlithoedd neu sesiynau ymarferol ffurfiol yn gysylltiedig â'r modiwl hwn. Ar ddiwedd Semester 1 bydd pob myfyriwr yn cyflwyno eu testun ar ffurf cyfweliad 15 munud a byddant yn cyflwyno adroddiad project ar y testun o'u dewis. Asesir y cyfweliad a'r adroddiad project.
Assessment Strategy
-threshold -(D) TrothwyYmwybodol o'r egwyddorion allweddol sy'n sail i'r wyddoniaeth. Lefel llwyddo mewn traethodau arbenigol. Dangos medrusrwydd sylfaenol mewn trafodaethau grwp.
-good -(B) Da Gwell dealltwriaeth o'r egwyddorion. Dangos cryn allu i ddeall a defnyddio data mewn adroddiadau arbenigol. Symud yn gyflym o un mater i'r llall mewn trafodaeth grwp. Gwybodaeth ddofn am fater amgylcheddol, neu gysylltiedig, penodol a gwybodaeth drwyadl o'r deunydd seminar.
-excellent -(A) Rhagorol Dealltwriaeth dda iawn o¿r wyddoniaeth. Dangos gallu mawr i ddeall materion amgylcheddol neu gysylltiedig cyfoes. Tystiolaeth o ymdrech ac ôl meddwl sylweddol a defnyddio deunydd cefndir yn effeithiol i gefnogi achosion.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu astudio a dadansoddi amrywiaeth o lenyddiaeth wyddonol ac egluro'r agweddau penodol ar y testun o¿u dewis.
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu deall sut mae'r mater hwn yn cael ei ystyried gan y cyfryngau.
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu deall y materion amgylcheddol sy¿n gysylltiedig â'r mater a gallu ysgogi trafodaeth wyddonol.
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu defnyddio technoleg meddalwedd cyfrifiadurol safonol (cronfeydd data ar y We, MS-Powerpoint, MS-Word) ar gyfer chwilio cronfeydd data a chynhyrchu adroddiadau a chyflwyniadau.
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu gwerthuso¿n feirniadol y dadleuon sy¿n gysylltiedig â mater gwyddonol penodol.
- Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfweliad ardderchog.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad a gyflwynir ar y testun mae'r myfyriwr wedi ei ddewis
Weighting
65%
Due date
16/11/2024
Assessment method
Viva
Assessment type
Crynodol
Description
Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, bydd cyfweliad 15 munud gyda chi a dau o'r tîm marcio modiwl. Bydd y cyfweliad yn gofyn cwestiynau am adroddiad eich prosiect i brofi eich gwybodaeth am y pwnc a goblygiadau ehangach eich canfyddiadau. Gan fod yr adroddiad ddwywaith hyd y fersiwn 10 credyd tebyg o'r modiwl, bydd angen i fyfyrwyr baratoi ar gyfer ystod ehangach o gwestiynau yn y cyfweliad.
Weighting
35%
Due date
09/12/2022