Module DXC-3702:
Cynllun Rheoli
Module Facts
Run by School of Natural Sciences
30.000 Credits or 15.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Mr Ian Harris
Overall aims and purpose
Pwrpas y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu cynllun rheoli neu ddogfen strategaeth at lefel safonol, yn seiliedig ar asesu safle astudio (e.e. gwahanfa ddwr, fferm, stad sydd â thenantiaid arni, coetir neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig [SSSI] ) i ateb cwestiwn penodol sy'n berthnasol i'r defnydd o'r tir. Mae'n rhoi cyfle i ddefnyddio gwybodaeth a ddysgwyd mewn modiwlau eraill, yn ogystal â chydweithio ag aelodau eraill o'r grwp myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol wrth gasglu gwybodaeth berthnasol a defnyddio technegau gwerthuso a modelu priodol. Mae'r myfyrwyr yn cyfleu eu darganfyddiadau'n ysgirfenedig ac yn unigol i `gwsmer'.
Nod y modiwl yw rhoi profiad i fyfyrwyr o: 1. Gymhlethdodau gwneud penderfyniadau o ran rheoli tir o fewn y fframwaith polisi UE/DU cyfredol. 2. Deddfwriaeth, dynodiadau a chymorth ariannol economaidd-gymdeithasol cyfredol, a'u heffaith ar ddatblygu'r ymarfer rheoli gorau ar gyfer arweddion/defnyddio tir mewn cyd-destun tirwedd. 3. Swyddogaeth rhanddeiliaid mewn man penodol a'r angen i gydbwyso eu hanghenion yng nghyd-destun datblygu cynllun rheoli. 4. Defnyddio technegau priodol i werthuso posibiliadau o ran defnyddio tir a gwneud rhagfynegiadau ar sail dadl a thystiolaeth resymegol. 5. Darparu cynllun rheoli / dogfen strategaeth at safon broffesiynol.
Course content
Mae'r modiwl yn seiliedig ar asesu safle sydd eisoes yn bodoli i ateb cwestiwn penodol sy'n berthnasol i ddefnyddio tir yr ardal. Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth cefndir ac yn cael cyfle i ymweld â'r safle a chynnal trafodaethau gyda pherchnogion/rheolwyr y safle. Bydd cynllun rheoli/dogfen strategaeth yn cael ei ddarparu drwy ddefnyddio'r wybodaeth hon yn ogystal â data ffisegol, biolegol, technegol, economaidd a GIS perthnasol arall. Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth fanwl i ddiffinio cwmpas y cynllun a¿r disgwyliadau. Byddant yn cael mynediad at gefnogaeth diwtorial (gan gynnwys GIS) i ymdrin â materion technegol fel bo'r angen.
Assessment Criteria
threshold
Mae'r ddogfen wedi ei strwythuro'n rhesymegol ac mae'n cynnwys dadansoddi, gwerthuso a thrafodaeth cyfyngedig. Disgrifir rhannau technegol y ddogfen yn rhesymegol ond heb ddadansoddi na dehongli manwl. Mae rhai camgymeriadau yn y rhagdybiaethau neu'r cyfrifiadau. Mae'r drafodaeth yn gyfyngedig o ran cwmpas a dyfnder. Mae safon y cyflwyniad yn dderbyniol, gyda defnydd cyfyngedig o fapiau wedi deillio o'r data a ddarparwyd.
good
Mae'r ddogfen wedi ei strwythuro¿n rhesymegol ac mae'n cynnwys dadansoddi, gwerthuso a thrafodaeth priodol. Disgrifir rhannau technegol y Cynllun yn rhesymegol gyda dadansoddi a dehongli manwl. Mae ychydig o gamgymeriadau yn y rhagdybiaethau neu'r cyfrifiadau. Mae'r drafodaeth yn cynnwys dehongli a defnyddio beirniadol. Mae safon y cyflwyniad yn dda, yn cynnwys mapiau priodol wedi deillio o'r data a ddarparwyd.
excellent
Mae'r ddogfen wedi ei strwythuro'n rhesymegol ac mae'n cynnwys dadansoddi, gwerthuso a thrafodaeth priodol. Mae'r dadansoddi'n fanwl gyda thystiolaeth o syniadau gwreiddiol. Disgrifir rhannau technegol a gwerthusol y Cynllun yn rhesymegol gyda dadansoddi a dehongli manwl iawn. Nid oes camgymeriadau yn y rhagdybiaethau na'r cyfrifiadau. Mae'r drafodaeth yn cynnwys dehongli a defnyddio beirniadol, gan gynnwys sylwadau sy'n adlewyrchu'r ddealltwriaeth o wendidau a chryfderau'r fethodoleg a ddefnyddir. Mae safon y cyflwyniad yn uchel iawn, yn cynnwys mapiau o ansawdd uchel wedi deillio o¿r data a ddarparwyd.
Learning outcomes
-
Bod yn gyfarwydd â pholisi a deddfwriaeth Llywodraeth yr UE / DU, polisïau cyrff statudol yn ogystal â chyrff / rhanddeiliaid perthnasol eraill o safbwynt elfen defnyddio tir y safle astudio.
-
Bod yn ymwybodol o'r ymarferion rheoli gorau o safbwynt rheoli'r elfen defnyddio tir neu arweddion y safle astudio.
-
Bod eisoes â data bioffiseg, technegol, economaidd/ economaidd-gymdeithasol a daearyddol perthnasol wedi ei gasglu, ynghyd ag unrhyw gyfyngiad a deddf gwlad briodol i ganiatáu gwerthuso trefnus o'r safle.
-
Hunan-gymhelliant, rheoli amser priodol a defnyddio gwybodaeth a sgiliau a ddysgwyd yn y modiwl hwn a thrwy fodiwlau eraill i gwblhau cynllun rheoli / dogfen strategaeth ar gyfer y safle astudio, sy'n ymdrin â chwestiynau'r `cwsmer'.
-
Defnyddio technegau gwerthuso, modelu a delweddu (e.e. GIS) perthnasol i gynnal asesiadau a gwneud rhagfynegiadau yn seiliedig ar wybodaeth gyfredol.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Management Plan | 80.00 | ||
Site Description | 20.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Darlithoedd: 1 x 3 awr o sesiwn ragarweiniol |
||
Ymweliadau maes: 2 x 6 awr Mae'n bosib y bydd yr amser cysllwt gyda goruchwyliwr yn cynyddu yn ôl nodweddion y project ac anghenion y myfyrwyr. |
||
Tiwtorialau: 2 x 3 awr mewn Labordy Cyfrifiaduron |
||
Tiwtorialau: 3 x 1 awr Mae'n bosib y bydd yr amser cysllwt gyda goruchwyliwr yn cynyddu yn ôl nodweddion y project ac anghenion y myfyrwyr. |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Management - Able to utilise, coordinate and control resources (human, physical and/or financial)
Courses including this module
Compulsory in courses:
- D502: BSc Forestry with International Experience year 4 (BSC/FIE)
- D500: BSC Forestry year 3 (BSC/FOR)
- D50P: BSc Forestry with Placement Year year 4 (BSC/FP)
- D512: MFor Forestry year 3 (MFOR/FOR)
- D514: MFor Forestry with International Experience year 4 (MFOR/FORIE)
- D513: MFor Forestry (with placement year) year 4 (MFOR/FORP)
Optional in courses:
- DDK5: BSC Conservation & Forest Ecosys. year 3 (BSC/CFE)
- DDL5: BSC Conservation and Forest Ecosys year 4 (BSC/CFE4)
- D503: BSc Conservation with Forestry with International Experience year 4 (BSC/CFIE)
- 5DKD: BSc Conservation with Forestry year 3 (BSC/CWF)
- 5DLD: BSc Conservation with Forestry (four year) year 4 (BSC/CWF4)
- D447: BSC Environmental Conservation year 3 (BSC/ECON)
- D448: BSC Environmental Conservation year 4 (BSC/ECON4)
- D451: BSc Environmental Conservation (International Experience) year 4 (BSC/ENIE)
- F803: BSc Geography with Environmental Forestry year 3 (BSC/GEF)
- F804: BSc Geography with Environmental Forestry year 4 (BSC/GEF4)
- F807: BSc Geography with Environmental Forestry with Intl Exp year 4 (BSC/GEFIE)