Module ENC-2102:
Datblygiad Cynaliadwy
Sustainable Development 2025-26
ENC-2102
2025-26
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Eifiona Thomas Lane
Overview
Bydd y modwl hwn yn cyflwyno cysyniad ddatblygiad cynaladwy o’r bydol I'r lleol gan ddefnyddio gweithdai thematig ac ymchwiliad o sut gellir diogelu’r amgylchedd yn effeithlon a hybu cymunedau sy'n seiliedig ar ffyrdd effeithiol o ddiogelu’r amgylchedd, defnyddio adnoddau naturiol yn ddoeth, cynnal cymunedau sefydlog a ffyniannus ac meithrin datblygiad economaidd cyfrifol a chyfiawn. Caiff myfyrwyr gyfle I astudio ystod eang o astudiaethau achos o gynadalwyedd ynghyd a chyfle I ymdopi gyda’r materion heriol sydd yn ynwneud a chynalawyedd. Bydd archwiiad o wahanolrwydd a lle ddibyniaeth cymunedau sydd wedi ei seilio ar syniadau cyfiawmder cymdeithasol ac amgylcheddol a thyfiant cyfrifol.
Ystyrir datblygiad y cysyniad o gynaladwyedd mewn cyflwyniad cyffredinol i boblogaeth sy’n newid a’r ddadl ynglŷn â datblygu adnoddau technolegol. Bydd y modwl hwn yn edrych ar ddatblygiad cynaladwy sy'n seiliedig ar ffyrdd effeithiol o ddiogelu’r amgylchedd, defnyddio adnoddau naturiol yn gall, cynnal cymunedau sefydlog a ffyniannus lle bodlonir anghenion pawb. Gwneir hyn trwy edrych ar y perthynas rhwng grwpiau ymgyrchu a chorfforaethau Traws genedlaethol.
Er mwyn ystyried gweithgarwch economaidd strategol yng nghwmpas cynaladwyedd, edrychir yn fanwl ar y drafodaeth ddamcaniaethol mewn sawl cyd-destun, e.e. trafnidiaeth gynaliadwy, twristiaeth gynaliadwy, amaethyddiaeth gynaliadwy.
Learning Outcomes
- Deall a phriodoli technegau ymchwil gwaith maes i wahanol sefyllfaoedd er enghraifft cynnal awdit adnoddau, ymghori prif rhanddeiliaid, deall ardrawiad dynol a data gweithredoedd eraill ynghyd a dadansoddiad tueddiadau er mwyn datblygu cynlluniau gweithredol strategol a chynaliadwy mewn ardal neu ranbarth.
- Esbonio gwreiddiau theori datblygiad cynaladwy a gwerthfawrogi’r cyd-destunau daearyddol gwahanol ble gellir defnyddio’r syniad o ddatblygiad cynaladwy.
- Priodoli defnyddio gwybodaeth wyddonol a dealltwriaeth sosio-economaidd i reoli gwahanol fathau o adnoddau ar lefel cymunedol neu / ac byd-eang a lleol mewn dull doeth. ddulliau ac arfau a ddefnyddir i reoli a monitro cynaladwyedd e.e dwr.
- Syntheseisio chofio tystiolaeth cyflwynwyd yn y dosbarth neu ar waith maes mewn cyd-destun rheoli adnoddau yn gynaliadwy , e.e. ynni, twristiaeth, gwasanaethau eco systemau.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholilad
Weighting
40%
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Mae'r asesiad yn profi sgiliau ymarferol mewn perthynas â meddalwedd system WEAP (Water Evaluation And Planning ) (Rhan 1) ynghyd a deall cysyniadau adnoddau dwr allweddol trwy ateb 2 gwestiwn byr (cyfansm o 1000 o eiriau)
Weighting
30%
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
30%