Module HAC-2002:
Addysg yn y Gymru Gyfoes
Addysg yn y Gymru Gyfoes 2023-24
HAC-2002
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Rhian Hodges
Overview
Mae Addysg yn y Gymru Gyfoes yn cynnig trosolwg o nifer o elfennau traddodiadol a chyfoes y system addysg yng Nghymru. Ymdrinnir y modiwl hwn ag ystod eang o faterion addysgol gan olrheinio hanes a gwreiddiau y system addysg gyffredinol yn y Deyrnas Unedig (y macro) ac yng Nghymru (y micro) gan ganolbwyntio yn arbennig ar ddatblygiadau sefydlu a datblygu’r system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru cyn ac ar ôl cyfnod datganoli. Rhoddir ystyriaeth arbennig i ddiffinio, nodi pwrpas ac olrhain gwreiddiau addysg cyfrwng Cymraeg gan ddwyn i ystyriaeth cyfraniad damcaniaethol y maes megis safbwyntiau prif bersbectifau cymdeithasegol ar addysg wrth bwyso a mesur effeithiau datblygiadau polisi a llywodraeth ddatganoledig ar y system addysg hefyd. Elfen allweddol bwysig o’r modiwl hwn yw cloriannu gwerth y system addysg cyfrwng Cymraeg fel arf cynllunio ieithyddol ac fel mecanwaith pwerus er mwyn trosglwyddo’r iaith Gymraeg yng Nghymru. Cynigir elfen gymharol amlwg o fewn y modiwl hwn hefyd wrth drafod cyfraniad ac effaith systemau addysg ar ddatblygiad maes cynllunio ieithyddol o blith ieithoedd lleiafrifol Ewrop.
Assessment Strategy
Trothwy: (D- i C+)Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o brif theorïau, persbectifau cymdeithasegol a datblygiad polisïau cymdeithasol sy’n ymdrin â’r system addysg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth sylfaenol o ddatblygiadau polisi addysg cyn ac ar ôl datganoli gan gyfleu dealltwriaeth sylfaenol o berthynas addysg â maes cynllunio ieithyddol yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio cysyniadau allweddol y maes gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth sylfaenol.
Da:(B- i B+)Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth dda o brif theorïau, persbectifau cymdeithasegol a datblygiad polisïau cymdeithasol sy’n ymdrin â’r system addysg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth dda o ddatblygiadau polisi addysg cyn ac ar ôl datganoli gan gyfleu dealltwriaeth dda o berthynas addysg â maes cynllunio ieithyddol yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio a dadansoddi cysyniadau allweddol y maes gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig o safon da sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth briodol gywir.
Rhagorol: (A- i A*)Bydd y myfyriwr yn dangos ymwybyddiaeth feirniadol aeddfed o brif theorïau, persbectifau cymdeithasegol a datblygiad polisïau cymdeithasol sy’n ymdrin â’r system addysg yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn arddangos ymwybyddiaeth feirniadol aeddfed a thrylwyr o ddatblygiadau polisi addysg cyn ac ar ôl datganoli gan gyfleu dealltwriaeth sylfaenol o berthynas addysg â maes cynllunio ieithyddol yng Nghymru. Bydd y myfyriwr yn gallu defnyddio a dadansoddi’n feirniadol cysyniadau allweddol y maes gan gyfeirio at ymchwil hanesyddol a chyfredol y maes gan gyflwyno gwaith ysgrifenedig o safon arbennig sydd yn cynnwys cyfeiriadaeth a llyfryddiaeth gynhwysfawr, eang a threfnus ei naws.
Learning Outcomes
- Cymharu a chyferbynnu prif elfennau maes polisi addysg o fewn cyd-destun Ewropeaidd ehangach â’r sefyllfa yng Nghymru.
- Egluro a chymhwyso damcaniaethau priodol ym maes addysg cyfrwng yng Nghymru.
- Gwerthuso'n feirniadol ddatblygiadau maes addysg a’u cyfraniad at faes polisi a chynllunio ieithyddol yr iaith Gymraeg yng Nghymru:
- Ymdrin ag ystyriaethau craidd ym maes addysg cyfrwng Cymraeg megis diffiniadau amrywiol/ polisïau awdurdodau addysg lleol amrywiol, datblygiadau cyn ac ar ôl cyfnod datganoli yng Nghymru.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Llafar 15 munud
Weighting
50%
Due date
16/03/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad 2,500 o eiriau
Weighting
50%
Due date
18/05/2023