Module HGC-2003:
Ail Danio'r Ddraig
Ail Danio'r Ddraig 2023-24
HGC-2003
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Mari Wiliam
Overview
Mae'r modiwl yma'n archwilio'r cerryntau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol a effeithiodd ar Gymru yn dilyn 1939. Yn greiddiol mae'n anelu i archwilio'r cysyniad o 'ail-danio'r ddraig'. I ba raddau y newidodd ac yr ail-ddyfeisiodd Cymru'i hun rhwng yr Ail Ryfel Byd a throad yr 21ain ganrif? Sut y gall cenedligrwydd Cymreig gael ei ddadansoddi yn ystod y degawdau hyn? Beth oedd ystyr go iawn y term 'Cymreig'? Bydd y gor-gyffwrdd rhwng Prydeindod a Chymreictod yn gyd-destun i'r archwiliad yma, yn arbennig mewn cyswllt â materion megis cenedlaetholdeb wleidyddol, dadwreiddiad economaidd, diwylliant poblogaidd a diwygiadau i'r wladwriaeth les. Anogir myfyrwyr i drafod cyflwr hanesyddiaeth Cymru, ac i ddehongli rôl pleidiau gwleidyddol, grwpiau pwysedd a phrotest wrth lunio'r Gymru fodern. Bydd themâu megis rhywedd, hîl, dosbarth cymdeithasol, trefoli, iaith, crefydd a therfysgaeth yn ganolog i'r dadansoddiad. Cyfarwyddir myfyrwyr sut i archwilio ffynonellau gwreiddiol, gan gynnwys erthyglau papur newydd, llenyddiaeth, ffotograffau, hysbysebion, cerddoriaeth, ffilm, hanes llafar a blogiau. Bydd y mathau o ffynonellau eilaidd a ddefnyddir ar y modiwl o natur rhyng-ddisgyblaethol, gan gyfuno hanes gyda gwyddorau cymdeithasol, anthropoleg, daearyddiaeth wleidyddol, gwyddor wleidyddol ac astudiaethau cyfryngau.
Bydd y seminarau ar y modiwl hwn ar gael yn Gymraeg a gellir cyfathrebu â'r cydlynydd modiwl yn Gymraeg. Gall myfyrwyr gyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg neu'n Saesneg . Bydd y darlithoedd ar y modiwl yn Saesneg.
- Cymru a'r Ail Ryfel Byd
- Llymder y Pedwardegau (Austerity): Eira a glo
- O sgiffl i pync: newid cymdeithasol ac economaidd 1950-1980.
- 'Life in a Welsh Countryside': Y Gymru Wledig
- ' Sunny Rhyl': Twristiaeth, pasiantau a Chymreictod
- Cymru a Llafur
- Cymru'r Ceidwadwyr?
- Plaid Cymru and chenedlaetholdeb wleidyddol.
- Tafodau'r Ddraig : iaith ac hunaniaeth yng Nghymru.
- Meibion y Fflam?: protest, milwriaeth a mewnfudo
- Cymru'r 1980au (Streic y Glowyr, Thatcheriaeth ayyb)
- 'Bore da i Gymru?': Datganoli
- Bêb Blair'?: Gwleidyddiaeth, pop a chymdeithas wedi 1997.
- Taith maes: Taith un dydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth i weld casgliadau archifol perthnasol i'r modiwl.
Assessment Strategy
50% Blog 50% Traethawd
Ymylol (Categori D- i D+) Wedi cwblhau lleiafswm o ddarllen a bydd y gwaith yn seiliedig ar nodiadau dosbarth a ffynonellau arwynebol yn bennaf. Bydd dealltwriaeth o agweddau o'r maes mewn gwaith ysgrifenedig, ond bydd problemau yn aml gyda'r dadansoddi, dealltwriaeth a'r strwythur. Bydd y gwaith yn ddealladwy i'w ddarllen, ond yn aml gyda nifer o wallau gramedegol.
Canolig (Categori C- i C+) Bydd myfyrwyr sydd yn cael graddau C- i C+ yn aml yn deall eu pwnc ond bydd eu trafodaeth o'r cwestiwn yn weddol gyffredinol ac ar brydiau'n gwyro oddi ar y testun. Gwneir ymdrech i gyflwyno dadl, er y bydd yn un anghyson o bosibl. Bydd gweithiau hanesyddiaethol yn cael eu defnyddio yn ddeallus, ond bydd y dadansoddi yn weddol sylfaenol. Bydd y cyflwyniad steilistig yn dderbyniol, gyda rhai mân wallau a phroblemau cystrawen o bosibl
Da (Categori B-i B+) Bydd myfyrwyr yn y categori yma'n arddangos ffocws penodol ar y cwestiwn, gan ddatblygu dadansoddi a dadleuon gweddol soffistigedig yn seiliedig ar hyn. Gwneir defnydd effeithiol o weithiau academaidd, gydag ymdrech deg i adnabod teithi meddwl hanesyddiaethol (er y gall hyn fod i lefel gweddol sylfaenol). Bydd y cyflwyniad steilistig yn eglur a chlir.
Ardderchog (Categori A- i A) Bydd myfyrwyr yn y categori yma'n arddangos sgiliau soffistigedig ymhob maes: dadansoddi, dadl, strwythur, gan wneud defnydd unigryw (yn arbennig ar lefelau uwch y categori) o hanesyddiaeth. Fel arfer, disgwylir i ffynonellau gwreiddiol gael eu hintigreiddio i'r drafodaeth, ac i'r lefelau uwch (A+ ac A) elfennau o wreiddioldeb mewn unrhyw un o'r prif agweddau (dadl, hanesyddiaeth ayyb).
Learning Outcomes
- Arddangos dealltwriaeth o newidiadau cymdeithasol,, gwleidyddol a diwylliannol yn ystod y cyfnod yng Nghymru.
- Datblygu a chynnal dadleuon hanesyddol ac ysgolheigaidd ar nodweddion penodol o'r cyfnod.
- Deall a dilysu'r modd mae'r cyfnod wedi'i gyfleu mewn ffynonellau eilaidd penodol.
- Targedu'r cymlethdodau o ail-lunio'r gorffennol, a natur broblematig ac amrywiol astudio hanes cenedlaethol ac is-genedlaethol.
- Ymgyfarwyddo gydag ystod eang o ffynonellau gwreiddiol, gan ddeall eu harwyddocâd hanesyddiaethol.
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd y dasg blog yn cael ei rhannu'n ddwy (oddeutu 1,250 gair yr un). Dylent gael eu cyflwyno gyda'i gilydd fel bwndel. Dylent fod wedi'u cyfeirnodi a dylai llyfryddiaeth fod ar gael. Mae angen ymgorffori hanesyddiaeth lle'n berthnasol. Rhan 1 1. Detholwch UN person y teimlwch sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i Gymru yn y cyfnod wedi 1939, a lluniwch ddadl sy'n egluro pam y teimlwch fod yr unigolyn yma o bwysigrwydd hanesyddol. Rhan 2 2. Detholwch UN lle, nodwedd tirlun neu adeilad y teimlwch sydd wedi cal impact nodedig ar Gymu yn y cyfnod wedi 1939, a lluniwch ddadl sy'n egluro pam y teimlwch ei fod o bwysigrwydd hanesyddol.
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd oddeutu 2500 gair sy'n arddangos eich gallu i archwilio themâu ar y modiwl. Bydd detholiad o gwestiynau ar gael yn y llawlyfr modiwl, a byddwch yn dewis un i'w ateb. Dylai arddangos gafael dda ar hanesyddiaeth.
Weighting
50%