Module HTC-3131:
Rhyfeloedd Sanctaidd 1095-1197
Rhyfeloedd Sanctaidd 1095-1197 2023-24
HTC-3131
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Euryn Roberts
Overview
Pan glywodd y Pab Urban III for Jerwsalem wedi cwympo ym mis Hydref 1187 i luoedd Saladin, yr arweinydd Islamaidd, bu’r braw yn ddigon i’w ladd. Dyma ddinas a oedd wedi bod yn nwylo Cristnogion y gorllewin er pan gipiwyd hi gan luoedd y Groesgad Gyntaf bron i ganrif ynghynt. Bydd y modiwl pwnc hwn yn edrych yn fanwl ar ddatblygiad a chanlyniadau’r Rhyfeloedd Sanctaidd a ymladdwyd yn ystod y cyfnod sy’n pontio’r digwyddiadau tyngedfennol hyn – cyfnod sydd yn parhau hyd heddiw i gynhyrfu teimladau ac i ddylanwadu ar agweddau. Ceir cyfle i edrych ar gymeriadau lliwgar ac adnabyddus fel Saladin a Rhisiart Lewgalon, yn ogystal â chyfle i fynd i’r afael â’r doreth o ffynonellau cynradd a gynhyrchwyd am ddigwyddiadau’r cyfnod. Rhoddir sylw hefyd i’r gymdeithas unigryw a ddatblygodd yn y Teyrnasoedd Croesgadol, ac ysgogir dealltwriaeth o gyd-destun diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol a chrefyddol y cyfnod, a hynny drwy edrych ar ddigwyddiadau yn y Gorllewin yn ogystal ag yn y Dwyrain.
Bydd y modiwl yn edrych ar y themâu canlynol:
- Cyflwyniad: Gwreiddiau a Chefndir y Croesgadau; 2. Y Groesgad Gyntaf; 3. Gwreiddio a Goroesi yn y Dwyrain c.1097-c.1152; 4. Cymdeithas, Crefydd a Diwylliant yn y Teyrnasoedd Croesgadol; 5. Yr Urddau Milwrol; 6. Yr Ail Groesgad; 7. Ymgyrchu yn yr Aifft ac Ymddyrchafiad Nur ad-Din; 8. Rhyfel a Chestyll yn y Dwyrain Agos; 9. Baldwin IV a Buddugoliaethau Saladin; 10. Y Drydedd Groesgad a’i chanlyniadau
Ceir cyfle yn ystod y seminarau i archwilio’r themâu hyn ymhellach.
Learning Outcomes
- Barnu rhwng dehongliadau hanesyddiaethol gwahanol o’r pwnc.
- Cyflwyno dadleuon hanesyddol clir a threfnus ar agweddau ar Ryfeloedd Sanctaidd y cyfnod 1095-1197 ar ffurf traethodau gradd, a chynnal y dadleuon hyn â thystiolaeth.
- Dangos dealltwriaeth eang o ddatblygiad a chanlyniadau Rhyfeloedd Sanctaidd y cyfnod 1095-1197.
- Dangos gwybodaeth fanylach o rai agweddau penodol ar y pwnc.
- Defnyddio ffynonellau gwreiddiol a/neu adroddiadau archaeolegol fel rhan annatod o ddadl hanesyddol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
1 x traethawd gradd 1 × 3,000 o eiriau ar thema eang oddi mewn i’r pwnc (Deilliannau Dysgu 1, 3, 4)
Weighting
60%
Due date
21/03/2024
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
1 x sylwebaeth 2,000 gair sy'n dadansoddi un neu fwy o ffynonellau cynradd ar y pwnc (Deilliannau Dysgu 2, 4, 5)
Weighting
40%
Due date
09/05/2024