Module HTC-3132:
Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cymr
Y Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cymry 2023-24
HTC-3132
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Nia Jones
Overview
(Wythnos 1) Cyflwyniad Darlith 1 - Adrodd hanes y Rhyfel Sut mae’r ddealltwriaeth o’r Rhyfel Mawr wedi newid dros y degawdau Seminar 1 - Trafodaeth o sut mae’r myfyrwyr yn edrych ar y Rhyfel; Dadansoddi delweddau poblogaidd o'r rhyfel ar y teledu, gan roi sylw arbennig i raglen Y Rhwyg (1988), a gyflwynwyd gan Dr John Davies (Wythnos 2) 1880-1914 Darlith 2 - Sôn am ryfel; poeni am ryfel; paratoi at ryfel; ysu am ryfel? Darlith 3 - Gorffennaf i Awst 1914 (Wythnos 3) Gwleidyddiaeth: Lloyd George, y Rhyddfrydwyr a’r Sosialwyr Darlith 4 - Cymeriad Lloyd George; Cyfraniad Lloyd George; Chwedl Lloyd George; Atgofion Lloyd George Darlith 5 - Sosialwyr a’r Rhyfel (Wythnos 4) Her i’r hen syniadau am wareiddiad Darlith 6 - Gwrthwynebwyr Cydwybodol; Merched Cymru a’r Rhyfel Seminar 2 - Ymladd a gwrthod ymladd: Sosialwyr a’r Rhyfel / Gwrthwynebwyr Cydwybodol. Dadansoddi’r disgrifiadau a gafwyd yn y wasg o’r rhai a wrthwynebodd y Rhyfel (Wythnos 5) Ennill y Rhyfel; colli’r heddwch Darlith 7 – Buddugoliaeth Lloyd George? Cytundeb Versailles Darlith 8 – Dirwasgiad a Dadrithiad: y 1920au; Gwersi 1914 a’r ymgais i gymodi â Hitler: y 1930au (Wythnos 6) Yn sgil y Dadrithio Darlith 9 – Ymateb llenyddol yn y degawdau ar ôl 1918: chwedl Hedd Wyn; All Quiet on the Western Front Seminar 3 – Dadansoddi agweddau gwleidyddion Cymreig a Phrydeinig (gan gynnwys David Davies) tuag at yr ymgyrch heddwch yn y degawdau rhwng y rhyfeloedd; dadansoddi’r gwrthwynebiad a welwyd yng Nghymru i’r Ail Ryfel Byd, a’i gymharu â dadleuon y rhai a gefnogai’r ymgyrch (Wythnos 7) Y Llewod a’r Asynnod Darlith 10: Trafodaeth y 1960au: ‘Lions led by Donkeys’; pwysleisio ffolineb a gwastraff y rhyfel Seminar 4 – Dadansoddi cynnwys a phwysigrwydd cyfres fawr The Great War (BBC, 1964) (Wythnos 8) Conundrum ‘y ddau Ffrynt Gorllewinol’ Darlith 11: Y gwahaniaeth rhwng maes y gad a fodolodd yn Ffrainc a Fflandrys rhwng 1914 a 1918 a’r un dychmygol sy’n gread y cenedlaethau a edrychai nôl mewn syndod a braw Seminar 5 – Trafod yr amrywiol ffyrdd y mae’r Cymry wedi coffâu brwydr Mametz; dadansoddi rhaglen Mametz (S4C, 1987) (Wythnos 9) Atgofion hen wŷr Darlith 12 - Trafferthion gydag atgofion cyn-filwyr, er gwaethaf eu hatyniad amlwg Seminar 6 – Dadansoddi atgofion y cyn-filwyr Griffith Williams, Bob Owen a’r gwrthwynebydd cydwybodol Ithel Davies, a thrafod eu dilysrwydd (Wythnos 10) Hanes Diwylliannol y Rhyfel Darlith 13 - Rhoi’r cyfan mewn i gyd-destun diwylliannol Seminar 7 – Dadansoddi’r modd y portreadir y Rhyfel Mawr yn y Gymraeg heddiw, gan astudio cyfres Lleisiau’r Rhyfel Mawr (S4C, 2008) + Sesiwn ar gyfer cyflwyniadau’r myfyrwyr
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy: D- - D+Er mwyn ennill credyd dylai’r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth a gwybodaeth sylfaenol o hanes y Rhyfel Mawr a’i effaith ar Gymru. Fe ddylent allu adnabod y prif ffyrdd yr effeithiwyd ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru gan y Rhyfel.
-good -Da: C- - B+Er mwyn ennill graddau uwch yn y modiwl hwn, disgwylir i’r myfyrwyr ymateb yn feirniadol i gwestiynau sy’n cael eu gofyn am ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru. Bydd yna ymwybyddiaeth o’r hanesyddiaeth ar y pwnc. Byddent yn gallu ymateb i gwestiynau traethawd / cyflwyniad mewn modd argyhoeddiadol.
-excellent -Rhagorol : A- - A*Er mwyn ennill y graddau uchaf disgwylir i’r myfyrwyr gynnig dehongliadau gwreiddiol o’r ffeithiau hanesyddol, gan gyferbynnu effaith y Rhyfel ar Gymru â’r effaith ar wledydd eraill. Byddent yn gallu dangos eu bod nhw’n ystyried ac yn cyfeirio at waith a dadleuon haneswyr sefydledig, ond eu bod nhw’n gallu cymryd rhan mewn dadleuaeth. Disgwylir hefyd iddynt drafod iaith, arddull a syniadau’r testunau mewn modd treiddgar ac arloesol.
Learning Outcomes
- Asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a’u defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu pa agweddau o ymateb y Cymry i’r Rhyfel a gafodd yr effeithiau mwyaf dwys
- Casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol
- Dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r newidiadau a fu mewn dehongliad y Cymry o’r Rhyfel, a deall y cysylltiad rhwng datblygiadau cymdeithasol yn y degawdau wedi’r Rhyfel, a’r newidiadau yn sut oedd y Cymry yn deall digwyddiadau 1914-18
- Datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: barddoniaeth, hunangofiannau, rhaglenni ffeithiol, delweddau gweledol a thystiolaeth gan lygad-dystion
- Datblygu dealltwriaeth gref o effaith y Rhyfel Mawr ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru
- Datblygu eu sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac ysgrifenedig
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd (40%): un traethawd (2,000 o eiriau,), gwerth 40% o’r asesiad terfynol ar gyfer y modiwl. Er mwyn gwneud yn dda, bydd angen i fyfyrwyr ymgymryd ag ymchwil personol gan gynnwys defnyddio ffynonellau cynradd er mwyn cyfansoddi dadl sydd yn argyhoeddi’r darllenwr ac sydd wedi ei mynegi’n gryf (iaith ysgrifenedig).
Weighting
40%
Assessment method
Oral Test
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad ar lafar (20%): Bydd myfyrwyr yn rhoi cyflwyniad llafar i weddill y dosbarth (10 munud + 10 munud o gwestiynau), a fydd yn cyfrif am 20% o farc terfynol y modiwl. Caiff sgiliau cyfathrebu eu hasesu, gyda phwyslais ar gyflwyno ar lafar clir ac effeithiol (deilliant dysgu 6) a bydd yn rhaid iddiynt ymateb i gwestiynau a hybu trafodaeth ymysg y dosbarth (deilliant dysgu 6). Disgwylir i’r myfyrwyr adeiladu ei ch/gyflwyniad ar sail ymchwil personol, gan gynnwys ffynonellau cynradd (deilliannau dysgu 1-5).
Weighting
20%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad diwedd y modiwl (40%, 2 awr): Bydd myfyrwyr yn ateb dau gwestiwn. Bydd cwestiwn un (gorfodol) yn gofyn iddynt ddadansoddi dwy ffynhonell wreiddiol, a yna fydd dewis o gwestiynau amrywiol iddynt ar gyfer yr ail gwestiwn (ond bydd yn rhaid iddynt osgoi cwestiwn sydd yn gor-gyffwrdd â phwnc eu traethawd).
Weighting
40%