Module QCL-2245:
Ieithyddiaeth Gymraeg
QCL-2245 Ieithyddiaeth Gymraeg 2023-24
QCL-2245
2023-24
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Modiwl - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Peredur Webb-Davies
Overview
Bydd myfyrwyr yn debygol o ddysgu am bynciau fel:
- Ffonoleg y Gymraeg (canolraddol)
- Treiglo yn y Gymraeg
- Cystrawen Cymraeg (canolraddol)
- Agweddau at y Gymraeg ac at ddwyieithrwydd
- Hanes y Gymraeg
- Addysg a pholisi ieithyddol yng Nghymru
- Defnydd y Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd
- Shifft iaith a newid ieithyddol yn y cyd-destun Cymraeg
- Iaith plant
Assessment Strategy
-threshold -Gradd D: Gafael sylfaenol ar brif nodweddion ieithyddol y Gymraeg. Gallu cyfyngedig mewn adnabod yr agweddau rhain mewn testunau llafar/ysgrifenedig. Gallu cyfyngedig mewn dadansoddi amrywiaeth yn nodweddion y Gymraeg ar draws peuoedd a chyweiriau. Gallu cyfyngedig mewn cymharu gwahanol nodweddion o ramadeg y Gymraeg gyda gramadeg ieithoedd eraill. Yn arddangos gallu sylfaenol mewn trawsgrifio Cymraeg tafodieithol gan ddefnyddio symbolau seinegol ac o hyn o beth yn gallu gwahaniaethu rhwng gwahanol systemau sain tafodieithol. Yn arddangos gallu ganolraddol cyfyngedig o’r ffyrdd y mae nodweddion ieithyddol y Gymraeg wedi newid yn y gorffennol a sut y gall ei strwythur newid yn y dyfodol. Yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig o’r iaith Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol cyfredol ac hanesyddol. Yn gwneud defnydd sylfaenol o arddull ysgrifennu academaidd ac yn dangos gallu cyfyngedig mewn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol mewn ffurf ysgrifienedig a llafar.
-good -Gradd B: Gafael dda ar brif nodweddion ieithyddol y Gymraeg. Gallu mewn adnabod yr agweddau rhain mewn testunau llafar/ysgrifenedig. Gallu mewn dadansoddi amrywiaeth yn nodweddion y Gymraeg ar draws peuoedd a chyweiriau. Gallu mewn cymharu gwahanol nodweddion o ramadeg y Gymraeg gyda gramadeg ieithoedd eraill. Yn arddangos gallu canolraddol mewn trawsgrifio Cymraeg tafodieithol gan ddefnyddio symbolau seinegol ac o hyn o beth yn gallu gwahaniaethu rhwng gwahanol systemau sain tafodieithol. Yn arddangos gallu ganolraddol dda o’r ffyrdd y mae nodweddion ieithyddol y Gymraeg wedi newid yn y gorffennol a sut y gall ei strwythur newid yn y dyfodol. Yn dangos dealltwriaeth dda o’r iaith Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol cyfredol ac hanesyddol. Yn gwneud defnydd da o arddull ysgrifennu academaidd ac yn dangos gallu mewn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol mewn ffurf ysgrifienedig a llafar.
-excellent -Gradd A: Gafael ardderchog ar brif nodweddion ieithyddol y Gymraeg. Gallu uchel mewn adnabod yr agweddau rhain mewn testunau llafar/ysgrifenedig. Gallu uchel mewn dadansoddi amrywiaeth yn nodweddion y Gymraeg ar draws peuoedd a chyweiriau. Gallu uchel mewn cymharu gwahanol nodweddion o ramadeg y Gymraeg gyda gramadeg ieithoedd eraill. Yn arddangos meistrolaeth mewn trawsgrifio Cymraeg tafodieithol gan ddefnyddio symbolau seinegol ac o hyn o beth yn gallu gwahaniaethu gyda gallu uchel rhwng gwahanol systemau sain tafodieithol. Yn arddangos gallu ganolraddol uchel o’r ffyrdd y mae nodweddion ieithyddol y Gymraeg wedi newid yn y gorffennol a sut y gall ei strwythur newid yn y dyfodol. Yn dangos dealltwriaeth ardderchog o’r iaith Gymraeg yn ei chyd-destun cymdeithasol cyfredol ac hanesyddol. Yn gwneud defnydd ardderchog o arddull ysgrifennu academaidd ac yn dangos gallu uchel mewn cyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol mewn ffurf ysgrifienedig a llafar.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn gallu adnabod a thrafod gwahanol nodweddion o ramadeg y Gymraeg mewn testunau llafar ac ysgrifenedig ar lefel canolraddol.
- Bydd myfyrwyr yn gallu adnabod ac esbonio nodweddion ieithyddol y Gymraeg mewn ystod eang o ddisgyrsiau, cyfryngau, peuoedd a chyweiriau.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos gwybodaeth ganolraddol o nodweddion gramadegol y Gymraeg.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dangos gwybodaeth o sefyllfa bresennol ac hanesyddol y Gymraeg o ran e.e. defnydd y Gymraeg mewn cymdeithas, dyfodol y Gymraeg, agweddau at y Gymraeg, a’r Gymraeg yn y cyfryngau newydd.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf ar-lein yn dadansoddi a thrafod gramadeg y Gymraeg
Weighting
40%
Due date
11/11/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd ar bwnc mewn ieithyddiaeth Gymraeg
Weighting
60%
Due date
16/01/2023