Module UXC-1001:
Cyflwyniad i Newyddiaduraeth Ymarferol
Module Facts
Run by School of Arts, Culture and Language
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1
Organiser: Dr Ifan Jones
Overall aims and purpose
Dyma fodwl sy'n cyflwyno'r myfyrwyr i fyd newyddiaduraeth. Byddant yn dysgu'r gwahaniaeth rhwng ysgrifennu creadigol a ffeithiol, y sgiliau gwahanol sydd angen arnynt a sut i gynllunio straeon ffeithiol.
Caiff y myfyrwyr eu dysgu sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, sut i gynhyrchu straeon eu hunain a sut i olygu eu gwaith hefyd. Elfen bwysig o hyn fydd dysgu ymchwilio straeon. Bydd nifer o dasgau ganddynt i'w cwblhau a fydd yn eu hannog i fynd allan i gyfweld pobl `go iawn' a sut i ddewis a dethol y dyfyniadau gorau. Erbyn diwedd y modiwl byddant hefyd wedi cysylltu gyda golygyddion amrywiol gyhoeddiadau i geisio cyhoeddi eu gwaith.
Course content
- Hanfodion ysgrifennu straeon newyddion
- Sut i ysgrifennu Intros, Drop Intros, ac Intros Bywiog
- Beth sy’n gwneud stori dda?; O le mae straeon yn dod?
- Sut i greu llyfr contacts
- Sut i gynnal cyfweliad
- Ysgrifennu ar gyfer teledu a radio
- Ysgrifennu erthyglau nodwedd
- Cyflwyniad i llawfer
- Ymdopi â newyddion sy’n torri.
Assessment Criteria
threshold
D
- Gwybodaeth am brif feysydd / egwyddorion yn unig
- Gwendidau o ran dealltwriaeth o brif feysydd
- Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol
- Nid yw’r ateb yn canolbwyntio’n ddigonol ar y cwestiwn ac mae peth deunydd amherthnasol a strwythur gwael
- Cyflwynir y dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol
- Nifer o wallau ffeithiol / cyfrifiadurol
- Dim dehongli gwreiddiol
- Disgrifir dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau
- Peth datrys problemau
- Nifer fawr o wendidau mewn cyflwyno a chywirdeb
good
C
- Gwybodaeth am feysydd/egwyddorion allweddol
- Yn deall y prif feysydd
- Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol
- Ateb yn canolbwyntio ar y cwestiwn ond hefyd mae peth deunydd amherthnasol a gwendidau yn y fframwaith
- Cyflwynir y dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol
- Nifer o wallau ffeithiol/ cyfrifiadurol
- Dim dehongli gwreiddiol
- Disgrifir dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau
- Peth datrys problemau
- Rhywfaint o wendid o ran cyflwyniad a chywirdeb
B
- Gwybodaeth gref
- Deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan
- Tystiolaeth o astudio cefndirol
- Ateb pwrpasol gyda strwythur da
- Dadleuon wedi’u cyflwyno’n gydlynol
- Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadurol ar y cyfan
- Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol cyfyngedig
- Disgrifir cysylltiadau adnabyddus rhwng testunau
- Ymdrinnir â phroblemau drwy ddulliau presennol
- Cyflwyniad da, gyda chyfathrebu cywir
excellent
A
- Gwybodaeth gynhwysfawr
- Dealltwriaeth fanwl
- Astudio cefndirol helaeth
- Ateb â chanolbwynt clir iawn, ac wedi’i strwythuro’n dda
- Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol
- Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadurol
- Dehongliad gwreiddiol
- Datblygu cysylltiadau newydd rhwng testunau
- Dull newydd o ymdrin â phroblem
- Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir iawn
Learning outcomes
-
Dangos tystiolaeth o fedru ymchwilio straeon eu hunain
-
Dangos tystiolaeth o fedru cynhyrchu straeon gwreiddiol eu hunain
-
Dangos dealltwriaeth o adnabod straeon a'r gallu i'w dadansoddi
-
Dangos dealltwriaeth o fedru ymdopi gyda chyfweliadau, rhai wedi trefnu a rhai heb rybudd
-
Gwerthfawrogi anghenion gwahanol y wasg, radio a theledu
-
Gwerthfawrogi pwysigrwydd canfod, meithrin a datblygu cysylltiadau
-
Gwerthfawrogi'r angen i ysgrifennu straeon i'r hyd a ofynnir amdano
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Portffolio Newyddion Caled: 500 o eiriau (LO 1-7) | 35.00 | ||
Erthygl Nodwedd: 1,500 o eiriau (LO 1-7) | 35.00 | ||
Datganiadau i'r Wasg | 30.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Lecture | Darlithoedd 1-awr pob wythnos |
11 |
Private study | 178 | |
Seminar | Seminarau Ystafell Newyddion Rithwir 1-awr pob wythnos |
11 |
Pre- and Co-requisite Modules
Pre-requisite of:
Courses including this module
Compulsory in courses:
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- V1PM: BA Hanes gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/HN)