Module UXC-2402:
Hanes y Cyfryngau
Hanes y Cyfryngau 2025-26
UXC-2402
2025-26
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Modiwl - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Dyfrig Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg o ddatblygiad hanesyddol y cyfryngau torfol, o'r cyfnod modern cynnar hyd heddiw, ond gyda'r prif bwyslais ar hanes yr 20fed Ganrif. Bydd y modiwl yn archwilio'r berthynas rhwng newidiadau cymdeithasol a thwf technoleg cyfathrebu, a bydd gofyn i'r myfyrwyr ddadansoddi testunau cyfryngol o fewn eu cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd. Trafodir y berthynas rhwng cynulleidfaoedd, cynhyrchwyr, gwleidyddion a chymdeithas sifil, a'r modd y maent wedi dylanwadu ar sefydlu a datblygu sefydliadau cyfryngol. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar ddatblygiad astudiaethau'r cyfryngau fel disgyblaeth academaidd, ynghyd ac ystyried hanes y cyfryngau fel maes arbenigol o fewn y ddisgyblaeth yma.
Assessment Strategy
Bydd y modiwl yn cael ei asesu gan ddau ddarn o waith. Y cyntaf fydd dadansoddi arteffact neu arteffactau cyfryngol hanesyddol gan dynnu ar fframweithiau cysyniadol a damcaniaethol a drafodwyd yn y modiwl. Bydd yr asesiad hwn ar ffurf cyflwyniad unigol 20 munud.
Bydd yr ail aseiniad yn draethawd, pennod o bodlediad neu draethawd fideo lle gofynnir i fyfyrwyr ymateb i un o nifer o gwestiynau a osodir gan arweinydd y modiwl.
Er mwyn cael Gradd A, rhaid i’r asesiad gyrraedd y safonau canlynol:
Gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth fanwl o'r maes pwnc. Dangos astudio cefndirol eang. Ateb hynod bwrpasol, ac wedi ei strwythuro’n dda Dadleuon a gyflwynir ac a gefnogir yn rhesymegol. Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol. Elfennau arwyddocaol o ddehongli gwreiddiol. Dangos gallu i adnabod, datblygu a chyflwyno cysylltiadau newydd rhwng pynciau. Dulliau newydd o ddadansoddi ac/neu egluro problem. Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir iawn.
Er mwyn cael Gradd B, rhaid i’r asesiad gyrraedd y safonau canlynol:
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gref o'r rhan fwyaf o'r maes pwnc. Dangos tystiolaeth o astudiaeth gefndirol. Ateb pwrpasol, ac wedi ei strwythuro’n dda Dadleuon a gyflwynir yn gydlynol. Fawr ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol Rhai elfennau o ddehongli gwreiddiol. Disgrifio cysylltiadau hysbys rhwng pynciau. Dadansoddi ac/neu egluro problemau trwy ddefnyddio dulliau sydd ar gael yn barod. Cyflwyniad o safon uchel gyda chyfathrebu cywir.
Er mwyn cael gradd C, rhaid i’r asesiad gyrraedd y safonau canlynol:
Dangos gwybodaeth am feysydd/egwyddorion allweddol Cynnwys rhywfaint o dystiolaeth o astudio cefndirol, hyd yn oed os yw'n gyfyngedig. 66 Rheoliad 01: 2021 Fersiwn 1.1 Canolbwyntio ar y cwestiwn (cyfarwyddyd yr asesiad), gyda dim ond peth deunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur. Ceisio cyflwyno dadleuon perthnasol a rhesymegol. Ddim yn cynnwys nifer fawr o wallau ffeithiol/cyfrifiannol. Disgrifio'r prif gysylltiadau rhwng pynciau. Ceisio dadansoddi ac/neu egluro problemau. Heb wendidau mawr o ran cyflwyniad a chywirdeb. Er mwyn cael gradd D, rhaid i’r asesiad gyrraedd y safonau canlynol: Dangos gwybodaeth am rai meysydd/egwyddorion allweddol. Cynnwys rhywfaint o dystiolaeth o astudio cefndirol, hyd yn oed os yw'n gyfyngedig. Ceisio cyflwyno ateb i'r cwestiwn (cyfarwyddyd yr asesiad) gyda dim ond peth deunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur yn unig. Ceisio cyflwyno dadleuon perthnasol a rhesymegol. Ddim yn cynnwys nifer fawr o wallau ffeithiol/cyfrifiannol. Disgrifio rhai cysylltiadau rhwng pynciau. Cynnig peth dadansoddiad ac/neu eglurhad o broblemau. Dangos ymgais i osgoi gwendidau mawr yn y cyflwyno ac o ran cywirdeb.
Caiff yr asesiad radd E-F os nad yw’n cyflawni’r deilliannau dysgu cysylltiedig, ac os yw’n cynnwys:
Manylion annigonol. Diffygion mewn gwybodaeth hyd yn oed am y meysydd/egwyddorion allweddol. Dim tystiolaeth o ddealltwriaeth, hyd yn oed o'r prif feysydd. Dim tystiolaeth o astudio cefndirol. Deunydd cysylltiedig, heb strwythur cydlynol. Dim dadleuon. Llawer o wallau ffeithiol/cyfrifiannol. Dim dehongli gwreiddiol. Ni ddisgrifir cysylltiadau rhwng pynciau Dim ymgais i ddatrys problemau. Cyflwyniad gwan gyda llawer o wallau.
Learning Outcomes
- Cymhwyso dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol i ddadansoddi testunau cyfryngol
- Dangos sut mae grymoedd hanesyddol wedi llywio sefydlu a datblygiad sefydliadau cyfryngol
- Nodi datblygiadau allweddol yn hanes astudiaethau'r cyfryngau fel disgyblaeth academaidd
- Trafodwch y ffyrdd y mae digwyddiadau hanesyddol yn cael eu cynrychioli mewn amrywiaeth o gyfryngau
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad 20 munud yn trafod arteffact neu arteffactau cyfryngol hanesyddol gan ddefnyddio fframweithiau cysyniadol a damcaniaethol a drafodwyd yn y modiwl.
Weighting
50%
Due date
10/11/2022
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd lle gofynnir i fyfyrwyr ymateb i un o nifer o gwestiynau a roddwyd ar ddechrau'r cyfnod addysgu. Gall myfyrwyr gyflwyno traethawd ysgrifenedig, traethawd fideo neu bennod o bodlediad.
Weighting
50%
Due date
12/01/2023