Module WXC-1016:
Perfformio Unawdol
Perfformio Unawdol Blwyddyn 1 2022-23
WXC-1016
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cyfuno rhaglen o hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol gyda chyflwyniad i ystod o faterion pwysig sy'n ymwneud â pherfformwyr, gan gynnwys paratoi a darparu rhaglen ddatgan, technegau ymarfer effeithiol, gweithio gyda cherddorion eraill, a gwahanol ddulliau o ddehongli.
Mae'r Modiwl hwn yn rhedeg ar draws Semesters 1 a 2
Mae'r modiwl hwn yn agored i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni BA(Cerdd) a BMus yn unig
Bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant un-i-un gan athro dynodedig yn ystod y flwyddyn. Byddant hefyd yn mynychu gweithdai perfformio rheolaidd sy'n canolbwyntio ar bynciau megis technegau ymarfer, cerddoriaeth ac atal anafiadau. Mae cymryd rhan yn y gweithdai wedi'i amserlennu, a gall pob cerddor ddisgwyl perfformio o leiaf ddwywaith yn gyhoeddus.
Mae'r Modiwl hwn yn rhedeg ar draws Semesters 1 a 2
Mae'r modiwl hwn yn agored i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni BA(Cerdd) a BMus yn unig
Assessment Strategy
Trothwy: D- i D+: Perfformiad o safon cyfyngedig parthed paratoad o safbwynt techneg, dehongliad a chyflwyniad.
Da: C- i B+: Perfformiad sy'n adlewyrchu paratoad technegol boddhaol gyda rhai syniadau dehongliadol gwreiddiol.
Ardderchog: A- i A*: Perfformiad sy'n adlewyrchu techneg gadarn gyda thystiolaeth glir o feddwl annibynnol a sgiliau dehongli effeithiol.
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai myfyrwyr fod wedi cychwyn sefydlu techneg sicr ac wedi gosod sylfaeni ar gyfer dealltwriaeth gadarn o’r offeryn neu lais
- Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu dangos dealltwriaeth elfennol o’r grefft o ddehongli (sut i strwythuro darn o gerddoriaeth wrth ddefnyddio elfennau allweddol fel deinamics, cyffyrddiadau, tempi, ac arferion perfformio hanesyddol).
- Ar ôl cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu dangos ymwybyddiaeth o sut i ddatrys materion sy'n wynebu perfformwyr, yn cynnwys dewis repertoire addas, datblygu arferion ymarfer effeithiol, gweithio gyda cyfeilyddion (lle bo'n addas) a delio gyda pryderon perfformio.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai myfyrwyr allu rhoi perfformiad cadarn a chael sain cyson ar yr offeryn neu'r llais a ddewisiwyd.
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Prawf Perfformiad Interim (20%) - perfformiad gweithdy wedi’i asesu yn para dim mwy na 5 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1-4. I’w gynnal yn ystod y gweithdy cyntaf yn Semester 2 (Ionawr 2023).
Weighting
20%
Due date
19/01/2023
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Perfformiad Terfynol (80%) - datganiad byr yn para 9-10 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1-4. I’w gynnal yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2 (Mai 2023).
Weighting
80%
Due date
23/05/2023