Module WXC-3191:
Ysgrifennu Caneuon
Ysgrifennu Caneuon 2022-23
WXC-3191
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Pwyll ap Sion
Overview
Mae'r modiwl Ysgrifennu Caneuon yn cynnig cyflwyniad i’r myfyriwr i rai o elfennau pwysig cyfansoddi caneuon. Cynigir dadansoddiadau o elfennau sy’n berthnasol i ganeuon poblogaidd o’r 1960au ymlaen er mwyn darparu’r myfyriwr i weithio yn unigol (a lle bo’n bosibl, ar y cyd) i ddatblygu syniadau ar gyfer perfformio, recordio a chyfansoddi caneuon, neu drefniannau o ganeuon eraill, fel rhan o asesiad y modiwl.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno yn ystod y darlithoedd i sylfeini cyfansoddi caneuon, gan gynnwys alaw (siapio alawol), harmoni (patrymau harmonig), ffurfiau penodol, gosod geiriau (lliwio geiriol), rhythm, gwead, ac yn y blaen. Trafodir yr elfennau hyn mewn perthynas ag idiomau ac arddulliau sy’n perthyn i ganeuon artistiaid megis Elton John a Joni Mitchell yn ystod y 1970au at arddulliau pop a roc mwy diweddar. Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd angen i’r myfyriwr gynhyrchu portffolio o ganeuon a threfniannau o ganeuon gan un ai eu perfformio yn unigol neu mewn grŵp, neu eu recordio i safon boddhaol, neu wedi eu cyfansoddi a’u prosesu ar feddalwedd megis Sibelius.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D Bydd yr ymarferiadau a gyflwynir yn dangos dychymyg creadigol cyfyngedig, rheolaeth gyfyngedig ar ddeunyddiau cerddorol, y ddealltwriaeth leiaf o’r hyn y gall yr adnoddau (p’un a fyddent yn offerynnol neu’n lleisiol) ei wneud, a thystiolaeth brin o feddwl deallusol. Mae’r cyflwyniad yn dangos diffyg ymchwil, ac ynddo’i hun yn wael.
-good -Da (B) Bydd yr ymarferiadau a’r aseiniadau yn dangos lefel ddymunol o ddychymyg creadigol, gyda rheolaeth a datblygiad da ar ddeunyddiau cerddorol, ar sail hyfedredd technegol yn nefnydd adnoddau (offerynnol a/neu leisiol). Ceir hefyd dystiolaeth o graffter deallusol. Mae’r cyflwyniad yn dangos ôl ymchwil drylwyr, ac ynddo’i hun yn dda.
-excellent -Ardderchog (A) Mae’r ymarferiadau a’r aseiniadau yn dangos lefel uchel o ddychymyg creadigol, gyda nodweddion unigol yn ymddangos o ran llais cyfansoddiadol a thelynegol, rheolaeth a datblygiad medrus ar ddeunyddiau cerddorol, a meistrolaeth dechnegol ar adnoddau (offerynnol a/neu leisiol). Ceir hefyd dystiolaeth o lefel uchel o allu o ran meddwl yn gysyniadol, craffu ar faterion perthnasol, gwreiddioldeb o ran ymdriniaeth a dealltwriaeth.Mae’r cyflwyniad yn dangos ôl ymchwil fanwl, ac ynddo’i hun o safon uchel.
Learning Outcomes
- Datblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno gwaith i safon sy’n dderbyniol ar y lefel yma
- Meddu ar wybodaeth fanwl am arddulliau a thechnegau ysgrifennu caneuon
- Meddu ar y ddawn i fynegi syniadau deallus a threiddgar ynglyn ag arddulliau caneuon a’u datblygiad hanesyddol, gan osod agweddau methodolegol a chysyniadaol addas i enghreifftiau penodol
- Meddu ar y sgiliau a’r dulliau i’w galluogi i gyfansoddi caneuon i safon uchel ar y lefel yma, un ai o ran perfformio, recordiad neu wedi eu ysgrifennu mewn nodiant cerddorol
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
2-3 munud agoriadol cân wreiddiol yn seiliedig ar set o ganllawiau. Fe fe fydd canllawiau hyn yn cael eu cynnwys yn y llawlyfr terfynol.
Weighting
10%
Due date
21/10/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Fe fydd angen i’r myfyriwr gyflwyno trefniannau o ddwy gân. Fe fydd y gân gyntaf yn enghraifft benodol wedi ei osod gan gydlynydd y modiwl
Weighting
40%
Due date
28/11/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad o ddwy gân wreiddiol yn cyfateb i rhwng 7-8 munud.
Weighting
50%
Due date
09/01/2023