Module CXC-2023:
Rhyddid y Nofel
Rhyddid y Nofel 2022-23
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Overview
Gan ddilyn cynllun cronolegol, bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy sylwi'n gryno ar rai o fannau cychwyn y nofel Orllewinol yn ystod y Cyfnod Modern. Eir ati wedyn i gynnig trawsolwg o hynt y nofel Gymraeg ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan roi sylw arbennig i waith llwyddiannus Daniel Owen. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad cynrychioliadol o nofelau a gyhoeddwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, trafodir prif dueddiadau'r genre yn Gymraeg, e.e. y cronicl cymdeithasol; y nofel syniadau; y nofel hanes. Ymhlith y nofelwyr y rhoddir enghreifftiau o'u gwaith dan y chwyddwydr bydd Daniel Owen, Saunders Lewis, Kate Roberts, Islwyn Ffowc Elis, Angharad Tomos, Robin Llywelyn a Mihangel Morgan. Daw'r modiwl i ben gyda sylw cryno i hynt y nofel Gymraeg yn ystod yr unfed ganrif ar hugain. Mewn gair, ystyrir sut y mae nofelwyr Cymraeg wedi ymelwa ar y rhyddid sy'n gynhenid i genre y nofel ac wedi ymdrechu i'w ymestyn ymhellach.
Assessment Strategy
-threshold -Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith.Dangos gwybodaeth am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonynt.Dangos gallu i ddadansoddi nofelau.Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol.Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill.Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg. -good -Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gwybodaeth dda am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonynDangos gallu da i ddadansoddi nofelauDangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonolDangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg. -excellent -Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaithDangos gwybodaeth sicr am rychwant o nofelau a dealltwriaeth ohonynDangos gallu sicr i ddadansoddi nofelauDangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonolDangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraillDangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Assessment method
Essay::BU Categorical Marking Scheme <BU-CAT15>
Assessment type
Summative
Description
Traethawd
Weighting
30%
Due date
Assessment method
Exam/Test::BU Categorical Marking Scheme <BU-CAT15>
Assessment type
Summative
Description
Arholiad
Weighting
50%