Module CXD-3124:
O'r Llyfr i'r Llwyfan
O'r Llyfr i'r Llwyfan 2023-24
CXD-3124
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Mewn cyfres o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai a chyflwyniadau, bydd y modiwl hwn yn trafod y broses o addasu testunau llenyddol ar gyfer y llwyfan. Trafodir ystod o destunau gan wahanol awduron, o addasiad J.M. Edwards o Rhys Lewis gan Daniel Owen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd addasiad mwy diweddar Siôn Eirian o Cysgod y Cryman Islwyn Ffowc Elis ar gyfer y Theatr Genedlaethol. Bydd cyfle i glywed addaswyr a chynhyrchwyr yn trafod y sialensau a’u hwynebodd. Bydd cyfle hefyd i baratoi addasiad o waith llenyddol byr. Bydd y gwaith llenyddol y addesir gan yr ail a'r drydedd flwyddyn yn amrywio o ran her.
Assessment Strategy
-threshold -D: Trothwy1.Dangos gallu i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg2.Dangos gallu i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu 3.Dangos gallu i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir.4.Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.5.Dangos gallu i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol -good -B: Da1.Dangos gallu da i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg2.Dangos gallu da i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu3.Dangos gallu da i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir 4.Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.5.Dangos gallu da i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol -excellent -A: Ardderchog1.Dangos gallu sicr i amgyffred rôl flaenllaw testunau llenyddol o fewn cyd-destun hanes y ddrama Gymraeg2.Dangos gallu sicr i ddadansoddi ffynonellau cynradd ac eilradd a'u cymharu3.Dangos gallu sicr i fynegi barn bersonol a beirniadu mewn modd cytbwys a chlir4.Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymaeg.5.Dangos gallu sicr i i gymhwyso’r hyn a ddysgir yn ymarferol