Module DXC-1303:
Methodoleg maes
Methodoleg maes 2023-24
DXC-1303
2023-24
School Of Natural Sciences
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Paula Roberts
Overview
Mae'r cwrs yn cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir. Mae'n cynnwys technegau addas ar gyfer amrediad eang o sefyllfaoedd gan gynnwys agweddau ecolegol, ffisegol a daearyddol. Erbyn diwedd y cwrs bydd y rhai sy'n ei ddilyn wedi cael profiad o ddefnyddio nifer o dechnegau ac o ddehongli'r canlyniadau. Bydd y cwrs yn cael ei redeg dros benwythnos hir. Bydd y cwrs yn cynnwys astudiaethau mewn nifer o feysydd gwahanol, a allai gynnwys y canlynol:
a) Dadansoddi newidiadau yng ngorlifdir afon gan ddefnyddio ffynonellau hanesyddol a mesuriadau cyfoes. b) Asesu dylanwad ac addasrwydd melinau gwynt ar gyfer ardal benodol gan ystyried oblygiadau amgylcheddol ac ystyriaethau cynllunio. c) Astudio'r prosesau sy'n gwahardd pobl o leoedd penodol gan ganolbwyntio ar brosesau ffurfiol ac anffurfiol mewn trefi. d) Dehongli'r ffactorau sy'n dylanwadau ar ddefnydd tir mewn ardal benodol gan ystyried effeithiau daearyddol a dynol. e) Astudio'r modd y mae cymunedau'n datblygu mewn ardaloedd gwledig a threfol a'r ffactorau hanesyddol a phresennol sy'n dylanwadu arnynt. f) Dehongli effeithiau rhewlifau ar dirwedd ac ardal benodol gan ystyried damcaniaethau gwahanol
Assessment Strategy
-threshold -Adroddiadau ar bob un o'r sesiynau maes. Defnyddio technegau yn gywir yn y maes. Dilyn cyfarwyddiadau yngl¿n â sut i grynhoi a dadansoddi'r canlyniadau. Cyflwyno'r canlyniadau mewn adroddiad gyda strwythur synhwyrol a threfnus. Disgrifio arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol) gan ganolbwyntio ar bob astudiaeth oedd yn rhan o'r cwrs. Rhoi sylwadau ar ystyr y canlyniadau. SeminarRhoi disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth a chyflwyno crynodeb syml o'r canlyniadau.
-good -Adroddiadau ar bob un o'r sesiynau maes. Defnyddio technegau yn gywir yn y maes. Dilyn cyfarwyddiadau yngl¿n â sut i grynhoi a dadansoddi'r canlyniadau. Cyflwyno'r canlyniadau mewn adroddiad gyda strwythur synhwyrol a threfnus gan gynnwys rhai enghreifftiau o ddulliau cyflwyno gwreiddiol. Disgrifio arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol) gan ganolbwyntio ar bob astudiaeth oedd yn rhan o'r cwrs. Rhoi sylwadau ar ystyr y canlyniadau gan ystyried cryfderau a gwendidau'r technegau a ddefnyddiwyd. Disgwylir trafodaeth o'r canlyniadau gyda thystiolaeth o ddarllen cefndir.SeminarRhoi disgrifiad manwl o'r dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth a chyflwyno crynodeb syml o'r canlyniadau gyda dehongliad o'u harwyddocâd.
-excellent -Adroddiadau ar bob un o'r sesiynau maes. Defnyddio technegau yn gywir yn y maes. Dilyn cyfarwyddiadau yngl¿n â sut i grynhoi a dadansoddi'r canlyniadau. Cyflwyno'r canlyniadau mewn adroddiad gyda strwythur synhwyrol a threfnus gan gynnwys rhai enghreifftiau o ddulliau cyflwyno gwreiddiol. Disgrifio arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol) gan gynnwys bob astudiaeth oedd yn rhan o'r cwrs a sefyllfaoedd tebyg. Rhoi sylwadau ar ystyr y canlyniadau gan ystyried cryfderau a gwendidau'r technegau a ddefnyddiwyd. Disgwylir trafodaeth o'r canlyniadau gyda thystiolaeth o ddarllen cefndir. Disgrifio cysylltiadau rhwng yr astudiaethau i arddangos dealltwriaeth o'r syniadau a gyflwynwyd yn ystod y cwrs.SeminarRhoi disgrifiad manwl o'r dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth gan drafod anawsterau defnyddio'r technegau. Cyflwyno crynodeb manwl, ond dealladwy, o'r canlyniadau gyda dehongliad trylwyr o'u harwyddocâd.
Learning Outcomes
- Cyflwyno canlyniadau ar lafar gan esbonio a dehongli eu prif nodweddion
- Dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
- Deall o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol).
- Defnyddio technegau penodol i gasglu gwybodaeth yn y maes.
- Esbonio egwyddorion technegau penodol sy'n berthnasol i astudiaethau maes.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Traethawd Dynol
Weighting
45%
Due date
28/04/2023
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Grwp
Weighting
10%
Due date
31/03/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Poster Gwyddonol
Weighting
45%
Due date
28/04/2023