Module LCS-2015:
Portffolio Ailsefyll Bl Dramor
Module Facts
Run by School of Languages, Literatures, Linguistics and Media
15 Credits or 7.5 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Dr David Miranda-Barreiro
Overall aims and purpose
Mae'r modiwl hwn yn ymwneud â modiwlau y mae ar fyfyrwyr angen cael credydau ar eu cyfer mewn prifysgol dramor yn ystod eu blwyddyn dramor. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr nad ydynt yn llwyddo i gael nifer isafswm y 15 credyd fesul semester yn ystod eu blwyddyn dramor gyflwyno 'Portffolio Ailsefyll' sy'n cynnwys (1) ymarfer cyfieithu dwy ran a (2) thraethawd.
Os bydd myfyriwr yn methu mwy nag un semester, byddai raid iddo gyflwyno hyd at dri fersiwn gwahanol o'r ymarferiadau a nodwyd eisoes, gan ddibynnu ar gyfuniad eu gradd: Anrhydedd Sengl, Cyd-anrhydedd a 3 iaith (e.e. os bydd myfyriwr cyd-anrhydedd Sbaeneg + Almaeneg yn methu'r ddau semester, yn Sbaen a'r Almaen, byddai'n rhaid iddo gyflwyno un Portffolio Ailsefyll mewn Almaeneg ac un arall yn Sbaeneg). strong text
Course content
Nid yw'r portffolio ailsefyll yn rhan o'r cwricwlwm modiwlau safonol. Mae'n gysylltiedig ag aseiniadau y disgwylir i fyfyrwyr lwyddo ynddynt fel rhan o'u blwyddyn dramor. Bwriad ymarferion y portffolio yw datblygu ac atgyfnerthu sgiliau academaidd, diwylliannol ac ieithyddol cyffredinol ymhellach, y bydd myfyrwyr wedi eu meithrin yn eu modiwlau a gymerwyd dramor. Bydd y portffolio yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fireinio eu sgiliau cyfieithu ymhellach i'w mamiaith a'u hail neu drydedd iaith, yn ogystal â sgiliau ysgrifennu traethodau a dadansoddi. Ar gyfer y ddau aseiniad cyfieithu, bydd myfyrwyr yn derbyn testunau gwreiddiol gan diwtor o'r grŵp iaith priodol. Ar gyfer aseiniad y traethawd, bydd ar fyfyrwyr angen dewis testun traethawd sy'n ymdrin ag un o'r testunau y bu iddynt eu hastudio dramor. Bydd myfyrwyr yn cael cyfarwyddyd gan diwtor iaith ynghylch testun traethawd priodol.
Assessment Criteria
excellent
Rhagorol 70%+: Dealltwriaeth drylwyr o'r testun a ddewiswyd; tystiolaeth helaeth o sgiliau ymchwil annibynnol; gafael ragorol ar eirfa a gramadeg; gallu rhagorol i gyfieithu'r amrywiaeth o destunau gosod
threshold
Trothwy 40-49%: Dealltwriaeth foddhaol o'r testun a ddewiswyd; tystiolaeth gyfyngedig o sgiliau ymchwil annibynnol; gafael gyfyngedig ar eirfa a gramadeg; gallu cyfyngedig i gyfieithu amrywiaeth o destunau gosod.
good
Da 50-69%: Dealltwriaeth gadarn o'r testun a ddewiswyd; tystiolaeth ddigonol o sgiliau ymchwil annibynnol; gafael dda ar eirfa a gramadeg; gallu da i gyfieithu amrywiaeth o destunau gosod.
Learning outcomes
-
Dangos y gallu i gasglu gwybodaeth a'i chrynhoi'n effeithiol mewn dadl glir a rhesymegol yn yr iaith darged, gan ddefnyddio ffynonellau yn yr iaith darged. (tasg asesu 2)
-
Dangos eu bod yn gyfarwydd â thechnegau cyfeirio (yn cynnwys llunio llyfryddiaeth). (tasg asesu 2)
-
Cynnig cyfieithiadau cywir i'w mamiaith a'r iaith darged sy'n cyfleu ystyr a chywair y testun. (tasg asesu 1)
-
Dangos meistrolaeth briodol a chywir o'r iaith darged mewn cywair a geirfa uwch. (tasgau asesu 1 a 2)
-
Dangos eu dealltwriaeth o'r gymdeithas a/neu ddiwylliant y wlad y bu iddynt dreulio eu hamser dramor. (tasg asesu 2)
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Cyfieithiad | 50 | ||
Traethawd | 50 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Private study | Nid yw'r portffolio ailsefyll yn rhan o'r cwricwlwm modiwlau safonol. Fodd bynnag, bydd myfyrwyr yn derbyn canllawiau gan eu tiwtoriaid iaith priodol ynghylch unrhyw adnoddau dysgu sydd eu hangen o bosib i lwyddo gyda'r gofynion asesu (gwelwch bwynt 14 isod). |
150 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others