Module NHS-2401:
Safbwynt Gwaith Cymdeithasol
NHC -2401 Safbwyntiau Gwaith Cymdeithasol 2023-24
NHS-2401
2023-24
School Of Medical And Health Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Rhian Lloyd
Overview
Cynnwys y modiwl: Pynciau a all gael eu cynnwys:
i) Beth yw Gwaith Cymdeithasol? Disgrifio a diffinio Gwaith Cymdeithasol
ii) Chi a Gwaith Cymdeithasol. Beth mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud a ble maent yn gweithio?
iii) Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer Gwaith Cymdeithasol. Codau Ymarfer ar gyfer Ymarfer Gwaith Cymdeithasol
iv) Y cyd-destun cyfreithiol a sefydliadol lle mae'r broses Gwaith Cymdeithasol yn digwydd.
v) Ymchwil a phrofiadau unigolion a gofalwyr - dadansoddi adolygiadau o achosion difrifol mewn gwaith cymdeithasol a sut maent yn sail i ymarfer gwaith cymdeithasol cyfredol.
vi) Ymarfer gwrth –orthrymol - Hunaniaeth a dealltwriaeth o ormes a'r nifer gwahanol o ormes mewn cymdeithas gyfoes.
vii) Proses Gwaith Cymdeithasol: Asesu: Damcaniaethau a Modelau (model Cwestiynu, model Gweithdrefnol, model Rhannu a Naratif) Asesiad o Risg ac Angen; Asesu a Gormes; Asesiad aml-ddisgyblaethol.
viii) Proses Gwaith Cymdeithasol: Theori Systemau fel dull sylfaenol ar gyfer ymyrraeth mewn Gwaith Cymdeithasol; Cyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaeth; Damcaniaethau Grymuso; Eiriolaeth, Negodi a Phartneriaeth
ix) Prosesau Gwaith Cymdeithasol: Cyfathrebu – Sgiliau a strwythur cyfweliad -; Cwestiynu; Ymateb; Rhwystrau; Defnyddio cyfieithwyr; Cyfweld plant.
x) Prosesau Gwaith Cymdeithasol: Ymarfer myfyriol; Adolygu’r camau mewn Gwaith Cymdeithasol; Terfyniadau.
Learning Outcomes
- Adnabod, disgrifio a gwerthuso'n feirniadol beth yw ymarfer gwaith cymdeithasol mewn cymdeithas gyfoes.
- Arddangos gwybodaeth o ymagweddau a gwerthoedd moesegol mewn prosesau gwaith cymdeithasol.
- Dadansoddi'n feirniadol gwahanol ddulliau a modelau asesu mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.
- Dangos gwybodaeth o broses gwaith cymdeithasol.
Assessment type
Crynodol
Description
Creu pamffled ar y safbwyntiau mewn ymarfer gwaith cymdeithasol cyfredol sy’n arddangos pwysigrwydd gwaith cymdeithasol mewn cymdeithas gyfredol.
Weighting
80%
Assessment type
Crynodol
Description
Asesiad Poster: Egluro rol a pwrpas gwaith cymdeithasol mewn cymdeithas gyfredol
Weighting
20%