Module SCL-1115:
Y Gyfraith yn Gymraeg
Y Gyfraith yn Gymraeg 2023-24
SCL-1115
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Tasha Roberts
Overview
Bydd y modiwl yn cynnwys elfen gref o ddatblygu sgiliau ymchwil gyfreithiol er mwyn cyflawni tasgau megis drafftio llythyrau cyfreithiol, llunio nodiadau achos, drafftio deddfwriaethau ac yn y blaen. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb gramadegol y tasgau hyn, a rhoddir arweiniad ar ysgrifennu Cymraeg gyfreithiol raenus a chywir. Bydd pwyslais hefyd ar drafodaethau llafar cyfreithiol, a rhoddir arweiniad ar iaith lafar gywir sy’n briodol i’r cyd-destun. Bydd cyfle i ymarfer sgiliau a fydd yn cyflawnil i’r myfyrwyr wrth iddynt ddilyn eu cwrs gradd yn y Gyfraith (e.e. ysgrifennu nodiadau cydlynol, crynhoi, trosi o un iaith i’r llall). Rhan bwysig o’r modiwl fydd paratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar lle bydd cyfle i’r myfyrwyr gyflwyno elfen benodol o’r gyfraith o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr. Bydd y modiwl hefyd yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer a datblygu eu sgiliau ymchwil cyfreithiol a’u sgiliau iaith trwy gyfrwng ymarferion ar safle Blackboard y modiwl.
Learning Outcomes
- Ateb cwestiynau llafar am y gyfraith mewn sefyllfa holi ac ateb.
- Bod yn ymwybodol o wahanol gyd-destunau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a'r modd y dylid eu defnyddio yn ôl y sefyllfa, y diben a'r gynulleidfa.
- Crynhoi deunydd cyfreithiol yn y Gymraeg.
- Datblygu gwybodaeth am ddrafftio cyfreithiol a sgiliau yn y maes.
- Trosi deunydd cyfreithiol o'r Saesneg i'r Gymraeg.
- Ysgrifennu nodiadau cydlynol a chynhwysfawr am destunau cyfreithiol yn Gymraeg, gan gynnwys penderfyniadau barnwrol.
Assessment type
Summative
Weighting
40%
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
30%