Module SCS-4010:
Hawliau Ieithyddol
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Dr Cynog Prys
Overall aims and purpose
- Cyflwynir y ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a chynnig cyd-destun hanesyddol i’r maes.
- Rhoddir cyfle i bwyso a mesur hawliau’r unigolyn a hawliau grŵp a’r damcaniaethau allweddol ynghlwm wrthynt.
- Gosodir y ddadl ynghylch hawliau ieithyddol o fewn fframwaith hawliau dinasyddion a hawliau lleiafrifol cyffredinol
- Cynhelir astudiaeth benodol o hawliau ieithyddol yr iaith Gymraeg yng Nghymru
- Gosodir prif elfennau maes hawliau ieithyddol o fewn cyd destun Ewropeaidd ac Americanaidd ehangach.
Course content
Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.
Assessment Criteria
threshold
Er mwyn llwyddo yn y modiwl hwn, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni'r deilliannau ar y lefel sylfaenol. H.y. bydd gofyn iddynt ddangos ymwybyddiaeth o brif gysyniadau sy’n ymwneud â Chynllunio Ieithyddol yng Nghymru, gan gyfeirio at y ddadl hawliau ieithyddol a’r datblygiadau mewn deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, a’u hoblygiadau i’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.good
Bydd myfyrwyr da yn gallu dangos dealltwriaeth amlwg o brif gysyniadau sy’n ymwneud â Chynllunio Ieithyddol yng Nghymru. Byddant yn cyfeirio at y ddadl hawliau ieithyddol ac yn cynnig enghreifftiau penodol, beirniadol o ddatblygiadau mewn deddfwriaeth sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg, a’u hoblygiadau i’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.excellent
Bydd myfyrwyr rhagorol yn dangos dealltwriaeth feistrolgar o gysyniadau sy’n ymwneud a Chynllunio Ieithyddol (yn cynnwys y ddadl am hawliau ieithyddol) yng Nghymru, gan gyfeirio at enghreifftiau penodol o ddatblygiadau mewn deddfwriaeth yn ymwneud a’r iaith Gymraeg, a’u hoblygiadau i’r sectorau amrywiol. Bydd myfyrwyr rhagorol yn gosod datblygiadau o fewn cyd-destun Ewopeaidd a bydol ehangach.Learning outcomes
- Dangos dealltwriaeth ddatblygedig ac egluro yn allweddol gwreiddiau hawliau ieithyddol.
- Defnyddio cysyniadau priodol i drafod a dadansoddi maes hawliau ieithyddol penodol o fewn fframwaith polisi hawliau dinasyddion a hawliau lleiafrifol cyffredinol
- Dangos dealltwriaeth uwch a blaengar ynglyn â datblygiad y ddadl ynghylch hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a chymhwyso damcaniaethau nodedig ac allweddol at y ddadl hon.
- Dangos dealltwriaeth ddwys a datblygedig amlwg o gynnydd yn hawliau ieithyddol a statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru.
- Cymharu a dadansoddi'n feirniadol prif elfennau hawliau ieithyddol allweddol o fewn cyd-destun Ewropeaidd ac Americanaidd ehangach â'r sefyllfa yng Nghymru.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Aseiniad | 100.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
|
200 |
Courses including this module
Optional in courses:
- L4AA: MA Language Policy and Planning year 1 (MA/LAPP)
- L4AJ: MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol year 1 (MA/PCI)