Module SCU-2001:
Dulliau Ymchwil
Dulliau Ymchwil 2024-25
SCU-2001
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Rhian Hodges
Overview
Mae’r fodiwl wedi'i gynllunio i arwain myfyrwyr trwy'r broses o ymgymryd â phrosiectau ymchwil cymdeithasol. Yr amcan yw galluogi a chefnogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus parthed prosiectau ymchwil annibynnol a helpu myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r dewisiadau methodolegol a'r materion sy'n gysylltiedig â chynnal ymchwil gymdeithasol.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D- i D+) Bydd myfyrwyr trothwy yn dangos rhywfaint o werthfawrogiad sylfaenol o sylfeini athronyddol paradeim ymchwil. Byddent yn dangos gwybodaeth am rhai o’r prif fethodolegau yn y gwyddorau cymdeithasol, gyda tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol eu hunain, y tu allan i’r darlithoedd a seminarau. Byddent yn dangos rhywfaint o allu i archwilio cryfderau a gwendidau amrediad o ymarferion methodolegol, gyda rhai gwendidau mewn dealltwriaeth. Byddent yn dangos rhywfaint o ymwybyddiaeth ynglŷn â’r cyd-destun presennol i’r gwyddorau cymdeithasol, megis disgwyliadau moesegol a pheth dealltwriaeth o strategaethau dadansoddi data.
-good -C- i C+ Bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth ddisgrifiadol o’r prif faterion o sylfeini athronyddol y gwyddorau cymdeithasol. Byddent yn dangos dealltwriaeth o’r prif fethodolegau yn y gwyddorau cymdeithasol, gyda thystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol eu hunain, y tu allan i’r darlithoedd a seminarau. Byddent yn dangos gwybodaeth am y prif faterion ynglŷn â sut i archwilio cryfderau a gwendidau amrediad o ymarferion methodolegol. Byddent yn dangos ymwybyddiaeth ynglŷn â’r cyd-destun presennol i’r gwyddorau cymdeithasol, megis disgwyliadau moesegol ag elfennau dadansoddi data. B- i B+ Bydd myfyrwyr yn dangos gwerthfawrogiad gref o sylfeini athronyddol y gwyddorau cymdeithasol. Byddent yn dangos gwybodaeth am ran fwyaf ond nid y cyfan o’r prif fethodolegau yn y gwyddorau cymdeithasol, gyda thystiolaeth feirniadol o astudio cefndirol eu hunain, y tu allan i’r darlithoedd a seminarau. Byddent yn dangos gwybodaeth gref ynglŷn â sut i archwilio cryfderau a gwendidau amrediad o ymarferion methodolegol. Byddent yn dangos ymwybyddiaeth dda ynglŷn â’r cyd-destun presennol i’r gwyddorau cymdeithasol, megis disgwyliadau moesegol ag elfennau dadansoddi data mewn modd hyderus a chritigol.
-excellent -Rhagorol A- i A+ Bydd myfyrwyr rhagorol yn dangos gwerthfawrogiad cynhwysfawr o sylfeini athronyddol y gwyddorau cymdeithasol. Byddent yn dangos dealltwriaeth fanwl o’r prif fethodolegau yn y gwyddorau cymdeithasol, gyda thystiolaeth o astudio cefndirol trylwyr a beirniadol eu hunain, y tu allan i’r darlithoedd a seminarau. Byddent yn dangos gwybodaeth feistrolgar ynglŷn â sut i archwilio cryfderau a gwendidau amrediad o ymarferion methodolegol. Byddent yn dangos ymwybyddiaeth gadarn a hyderus parthed cyd-destun presennol i’r gwyddorau cymdeithasol, megis disgwyliadau moesegol a sgiliau ardderchog parthed dadansoddi data.
Learning Outcomes
- Dadansoddi a dehongli materion sy'n ymwneud â rheoli, dadansoddi a chyflwyno data o ddulliau ymchwil.
- Dangos menter ac annibyniaeth wrth ymchwilio i ffynonellau gwybodaeth sy'n ymwneud â phynciau ymchwil a ddewisir.
- Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o'r materion sy'n gysylltiedig â chynllunio a chynnal ymchwil holl gamau'r broses ymchwil.
- Gallu cymhwyso dulliau neu gyfuniad o ddulliau ymchwil mewn modd priodol wrth ymdrin â thestun ymchwil arbennig.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Llafar 15 munud
Weighting
50%
Due date
11/12/2024
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Cynllun Ymchwil 2,500 o eiriau
Weighting
50%
Due date
13/01/2025