Module SCW-4006:
GC gyda Phlant PI a Theuluoedd
Gwaith Cymdeithasol gyda Phlant, Pobl Ifanc a Theuluoedd 2023-24
SCW-4006
2023-24
School of Health Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Wendy Roberts
Overview
Darparu gwybodaeth gynhwysfawr a gwerthfawrogiad beirniadol o agweddau cyfoes allweddol o waith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn paratoi ar gyfer datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol gorau
Caiff hyn ei wneud drwy: Archwilio anawsterau strwythurol, cymdeithasol a phersonol sy'n effeithio ar blant a theuluoedd all arwain at yr angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol
Adnabod grwpiau penodol yr effeithir arnynt gan anfantais, ymyleiddio, ynysu, eithrio, gwahaniaethau a gorthrwm, a deall sut y gallent fod yn fwy agored i niwed o ganlyniad
Ystyried pwysigrwydd cyfathrebu’n briodol a meithrin perthynas effeithiol gyda phlant a phobl ifanc
Annog myfyrwyr i ddatblygu’r gallu i werthuso damcaniaethau, polisïau, gofynion cyfreithiol a statudol, systemau ac ymarfer yn feirniadol.
Archwilio datblygiadau polisi cyfoes yn y Gymru ddatganoledig ac ystyried ymchwil ac ymarfer da yng Nghymru a thu hwnt y gellid ei ddefnyddio i hysbysu, dylanwadu ar a siapio darpariaeth gwasanaethau ac ymarfer gwaith cymdeithasol.
Assessment Strategy
-threshold -(C):Dylai'r myfyriwr trothwy ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r materion sydd yn ganolog i ac o amgylch gwasanaethau gwaith cymdeithasol a gynigir i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a'r gallu i gymhwyso hyn i sefyllfaoedd ymarfer. Dylai'r myfyriwr hefyd fod â'r gallu i ddadansoddi a gwerthuso ymchwil mewn perthynas â 'beth sy'n gweithio' ar gyfer y grŵp yma o ddefnyddwyr gwasanaeth, ac yn meddu ar ddealltwriaeth o'r materion cyfyng-gyngor a gwerthoedd sy'n gysylltiedig. Dylai ymwybyddiaeth o egwyddorion sylfaenol hawliau plant fod yn bresennol, ynghyd ag ymrwymiad i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc, a'r gallu i gymhwyso'r cysyniadau hyn i sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyriwr trothwy hefyd yn ymwybodol o'r cyd-destun polisi yng Nghymru, gan gydnabod y gwahaniaethau allweddol gyda pholisi yn Lloegr, a bydd ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gaffael gwybodaeth berthnasol i ymarfer yn y sector hon yng Nghymru.
-good -(B):Dylai'r myfyriwr 'nodweddiadol' arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r materion sydd yn ganolog i ac o amgylch gwasanaethau gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a lefel gadarn o allu i'w cymhwyso i sefyllfaoedd ymarfer. Dylai'r myfyriwr hefyd fod â'r gallu clir i ddadansoddi a gwerthuso yn feirniadol ymchwil mewn perthynas â 'beth sy'n gweithio' ar gyfer y grŵp defnyddwyr gwasanaeth yma, a meddu ar ddealltwriaeth dda o'r materion cyfyng-gyngor a gwerthoedd cysylltiedig. Dylai ymwybyddiaeth glir o egwyddorion sylfaenol hawliau plant fod yn bresennol, ynghyd ag ymrwymiad i hyrwyddo hawliau plant ar gyfer plant a phobl ifanc, a'r gallu i gymhwyso'r cysyniadau hyn i sefyllfaoedd ymarfer. Bydd y myfyriwr 'nodweddiadol' hefyd â gwybodaeth gadarn o'r cyd-destun polisi yng Nghymru, yn gallu dadansoddi'r gwahaniaethau allweddol gyda pholisi yn Lloegr, ac yn medu ar sgiliau cadarn wrth gaffael gwybodaeth fanwl berthnasol i ymarfer yn y sector hon yng Nghymru.
-excellent -(A- / A ):Dylai'r myfyriwr rhagorol ddangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r materion canolog o amgylch gwasanaethau gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a gallu hynod fedrus i gymhwyso hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai hefyd fod yn gallu cynhwysfawr i ddadansoddi a gwerthuso yn feirniadol ymchwil mewn perthynas â 'beth sy'n gweithio' ar gyfer y grŵp defnyddwyr gwasanaeth, a dealltwriaeth fanwl a chytbwys o'r cyfyng-gyngor cysylltiedig ac yn gwerthfawrogi materion. Dylai ymwybyddiaeth soffistigedig o egwyddorion sylfaenol hawliau plant fod yn bresennol, ynghyd ag ymrwymiad argyhoeddiadol a ystyriwyd yn dda i hyrwyddo hawliau plant ar gyfer plant a phobl ifanc, ac mae gallu cryf i gymhwyso syniadau hyn i ymarfer hefyd yn bresennol. Bydd y myfyriwr ardderchog hefyd feddu ar wybodaeth gynhwysfawr o'r cyd-destun polisi yng Nghymru, yn gallu dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth o wahaniaethau oddi wrth y polisi yn Lloegr, a bydd yn dangos lefelau uchel iawn o fedr wrth gaffael gwybodaeth gynhwysfawr berthnasol i ymarfer yn y sector hwn yng Nghymru .(A- / A ):Dylai'r myfyriwr rhagorol ddangos lefel soffistigedig o wybodaeth a dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r materion sy'n ganolog i ac o amgylch gwasanaethau gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd, a gallu hynod fedrus i gymhwyso hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai hefyd fod gallu cynhwysfawr i ddadansoddi a gwerthuso yn feirniadol ymchwil mewn perthynas â 'beth sy'n gweithio' ar gyfer y grŵp yma o ddefnyddwyr gwasanaeth, a dealltwriaeth fanwl a chytbwys o'r materion cyfyng-gyngor a gwerthoedd cysylltiedig. Dylai ymwybyddiaeth soffistigedig o egwyddorion sylfaenol hawliau plant fod yn bresennol, ynghyd ag ymrwymiad sy'n argyhoeddi ac sydd wedi'i ystyried yn dda i hyrwyddo hawliau plant ar gyfer plant a phobl ifanc, ac mae gallu cryf i gymhwyso'r syniadau hyn i ymarfer hefyd yn bresennol. Bydd y myfyriwr ardderchog hefyd yn meddu ar wybodaeth gynhwysfawr o'r cyd-destun polisi yng Nghymru, yn gallu dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol amrywiaeth o wahaniaethau oddi wrth y polisi yn Lloegr, a bydd yn dangos lefelau uchel iawn o fedr wrth gaffael gwybodaeth gynhwysfawr berthnasol i ymarfer yn y sector hon yng Nghymru .
Learning Outcomes
- dealltwriaeth a'r gallu i drafod a gwerthuso'n feirniadol yr ystod o wasanaethau a chymorth sy'n cael eu darparu ar draws y continwwm o anghenion, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau, ymarfer gorau ac ymyrraeth gynnar
- dealltwriaeth fanwl a gwerthusiad beirniadol o'r cyd-destun cyfreithiol a pholisi ar gyfer gwaith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yn y Gymru ddatganoledig
- dealltwriaeth feirniadol o ymarfer gwrth-orthrymol a'r cyfrifoldebau a'r heriau sy'n gynhenid i rôl gwaith cymdeithasol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd mewn perthynas â hawliau, cyfrifoldebau, dewis, rheolaeth a phŵer.
- dealltwriaeth gynhwysfawr o'r anawsterau a'r profiadau sy'n dod â phlant, pobl ifanc a theuluoedd i gysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys perthnasoedd sy’n camdrîn a chamfanteisio, anghydraddoldebau cymdeithasol a ffactorau socio-economaidd
- gallu i gymhwyso dadansoddiadau a gwerthusiadau beirniadol o ymchwil, ymchwiliadau ac adolygiadau cyfredol mewn perthynas â gwella ymarfer
- gwerthfawrogiad a dealltwriaeth feirniadol o sgiliau cyfathrebu priodol ac effeithiol ar gyfer ymgysylltu ac ymyrryd o fewn y maes ymarfer hwn
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Semester 1
Weighting
50%
Due date
15/12/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Interview
Weighting
50%
Due date
09/01/2024