Module SCW-4016:
Adolygiad Llenyddiaeth
Adolygiad Llenyddiaeth i'r Traethawd Hir Gwaith Cymdeithasol 2024-25
SCW-4016
2024-25
School of Health Sciences
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser:
Gwenan Prysor
Overview
- Creu adolygiad llenyddiaeth ar gyfer traethawd hir gwaith cymdeithasol. Cyflwyniad i bwysigrwydd cynnal adolygiadau llenyddiaeth, y gwahanol fathau o adolygiadau o lenyddiaeth sy'n bodoli a'r hyn sy'n gwneud adolygiad llenyddiaeth yn wahanol i fathau eraill o ymchwil ac ysgrifennu academaidd.
- Datblygu cwestiwn ymchwil. Trafod pwysigrwydd datblygu cwestiwn ymchwil priodol ar gyfer yr adolygiad llenyddiaeth. Mae'r cwestiwn ymchwil yn mynegi pwrpas yr adolygiad ac yn sicrhau bod yr adolygiad yn canolbwyntio'n benodol yn hytrach na thrafodaeth gyffredinol o bwnc penodol. Rhoddir canllaw gam wrth gam i ddatblygu cwestiwn.
- Pa lenyddiaeth sydd yn berthnasol i’r adolygiad? Dadansoddi sawl math gwahanol o ymchwil a llenyddiaeth arall y deuir ar eu traws wrth ymgymryd ag adolygiad o lenyddiaeth.
- Chwilio am lenyddiaeth. Trafod sut i ddatblygu a diffinio strategaeth chwilio eglur. Rhoddir pwyslais i ddatgan meini prawf cynhwysiant ac allgau clir ar gyfer y llenyddiaeth. Mae hyn yn sicrhau bod y chwilio am lenyddiaeth yn ymwneud yn benodol â'r cwestiwn astudio. Ni ddylid cynnwys llenyddiaeth amherthnasol - er ei fod efallai yn ddiddorol, rhag colli golwg ar ffocws yr adolygiad.
- Gwerthuso llenyddiaeth yn feirniadol. Trafod y broses o werthuso’r llenyddiaeth yn feirniadol. Mae offer priodol ar gyfer dadansoddi a gwerthuso’r llenyddiaeth yn cael eu nodi a'u trafod.
- Aralleirio’r canfyddiadau.Trafod gwahanol ddulliau o gymharu â chyferbynnu llenyddiaeth.
- Trafodaeth ar ganfyddiadau a gwneud argymhellion. Mae casgliadau ac argymhellion priodol yn cael eu trafod. Mae'n hanfodol y gall casgliadau ac argymhellion gael eu gweld yn deillio’n uniongyrchol o ganlyniadau'r adolygiad llenyddiaeth, yn hytrach nag o unrhyw syniadau rhagdybied.
- Cyflwyno’r adolygiad llenyddiaeth. Trafod pwysigrwydd cyfeiriadaeth briodol a manwl ac yn academaidd gywir drwy gydol y broses o ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth.
Aveyard, H. (2010) Doing a Literature Review in Health, edited by Helen Aveyard, McGraw-Hill Education, ProQuest Ebook Central, https://ebookcentral.proquest.com/lib/bangor/detail.action?docID=332661.
Learning Outcomes
- Asesu'n feirniadol bwysigrwydd dilysrwydd, dibynadwyedd a gwrthrychedd wrth gynnal yr adolygiad llenyddiaeth.
- Datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r wybodaeth sydd a’r gael a’r ymchwil blaenorol yn y maes ddewiswyd ar gyfer y prosiect ymchwil
- Gwerthuso'r broses ymchwil yn feirniadol, yn enwedig yr her o ddatblygu cwestiwn ymchwil, y broses o adnabod llenyddiaeth berthnasol a'r dulliau casglu a dadansoddi data a ddefnyddiwyd.
- Myfyrio'n feirniadol ar faterion allweddol sy'n gallu codi wrth gynnal yr adolygiad llenyddiaeth e.e. materion moesegol.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
ADOLYGIAD LLENYDDOL I'R TRAETHAWD HIR
Weighting
100%
Due date
20/01/2025