Module VPC-2205:
Byd Naturiol yng Nghref. y Gor
Byd Naturiol yng Nghref. y Gor 2023-24
VPC-2205
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Yn 1967 cyhoeddodd Lynn White erthygl ddylanwadol yn cyhuddo Cristnogaeth o fod yn gyfrifol i raddau helaeth am y problemau amgylcheddol a oedd yn dechrau cael sylw yn y Gorllewin. Bydd y modiwl yn ystyried ymatebion Cristnogaeth i'r awgrym hwn a bydd yn archwilio ei pherthynas hanesyddol â'r byd naturiol. Rhoddir sylw hefyd i amrywiaeth o gysylltiadau eraill rhwng crefydd ac amgylcheddaeth yn y byd Gorllewinol, yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â damcaniaeth Gaia, James Lovelock. Ystyrir meysydd penodol sy'n destun pryder amgylcheddol, megis newid hinsawdd a thechnoleg niwclear o ran eu perthynas â thrafodaeth grefyddol a rhoddir sylw i'r rhyngweithio cymhleth rhwng gwleidyddiaeth, amgylcheddaeth a chrefydd yn y maes trafod hwn.
Assessment Strategy
Trothwy D / 40%> Mae’r gwaith a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o gymhwysedd fel a ganlyn: • Yn gywir ar y cyfan ond gyda bylchau a gwallau. • Gwneir honiadau heb dystiolaeth neu resymeg ategol glir. • Yn meddu ar strwythur ond yn brin o eglurder ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a thybiaethau. • Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddefnyddiau.
C- i C+ Mae'r gwaith a gyflwynir yn hyfedr drwyddo draw ac weithiau'n cael ei wahaniaethu gan arddull, ymagwedd a dewis uwch o ddeunyddiau ategol. Mae'n dangos: • Strwythur da a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn rhannau o leiaf yn tynnu ar ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudiaeth annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. • Mae'r honiadau'n cael eu hategu'n bennaf gan dystiolaeth a rhesymu cadarn. • Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
Da -B (50%>) Mae'r gwaith a gyflwynir yn gymwys drwyddo draw ac yn cael ei wahaniaethu gan arddull, ymagwedd a dewis o ddeunyddiau ategol uwchraddol. Mae'n dangos: • Strwythur da iawn a dadleuon wedi'u datblygu'n rhesymegol. • Yn tynnu ar ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudiaeth annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth a rhesymu cadarn. • Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
Ardderchog -A (70%>) Mae’r gwaith a gyflwynir o ansawdd rhagorol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol: • Meddu ar wreiddioldeb y mynegiant gyda meddwl y myfyriwr ei hun yn amlwg. • Darparu tystiolaeth glir o astudiaeth annibynnol helaeth a pherthnasol. • Mae dadleuon yn cael eu gosod yn eglur ac yn rhoi dilyniant i'r darllenydd
Learning Outcomes
- asesu'r gwahaniaeth rhwng agweddau Cristnogol a phaganaidd yn y gorllewin tuag at y byd naturiol
- cloriannu dadleuon cyfoes ymysg Cristnogion ynghylch materion amgylcheddol
- cloriannu nodweddion allweddol damcaniaeth Gaia
- dadansoddi disgrifiadau beibliadd o berthynas pobl â'r byd naturiol
- ystyried syniadau ynghylch natur mewn Cristnogaeth ganoloesol
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd disgwyl i fyfyrwyr lunio traethawd 2,500 gair yn ymateb i un o blith 5 cwestwin.
Weighting
60%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd disgwyl i fyfyrwyr lunio traethawd dadansoddol 1,500 gair yn ymateb i un o blith 5 thema a osodir.
Weighting
40%