Module VPC-3305:
Byd Naturiol yng Nghref. y Gor
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Dr Gareth Evans-Jones
Overall aims and purpose
Cyflwynir myfyrwyr i wahanol agweddau ar y berthynas rhwng crefydd a'r ddirnadaeth o natur yn y byd gorllewinol. Gan ystyried y cyhuddiad y credir bod Cristnogaeth wedi bod yn gyfrwng i greu problemau amgylcheddol cyfoes, bydd y modiwl yn edrych ar berthynas hanesyddol Cristnogaeth â'r byd naturiol. Rhoddir sylw i berthynas dyn â natur a welir mewn testunau beiblaidd a diwinyddiaeth Gristnogol ganoloesol, yn ogystal â datblygiad ymatebion crefyddol amgen i amgylcheddaeth gyfoes, megis y rhai a gysylltir â'r ddamcaniaeth Gaia. Bydd y modiwl hefyd yn ceisio dangos sut mae agweddau gwleidyddol a chrefyddol ar ddadleuon, megis rhai'n ymwneud â newid hinsawdd a thechnoleg niwclear, wedi plethu'n glos i'w gilydd.
Course content
Yn 1967 cyhoeddodd Lynn White erthygl ddylanwadol yn cyhuddo Cristnogaeth o fod yn gyfrifol i raddau helaeth am y problemau amgylcheddol a oedd yn dechrau cael sylw yn y Gorllewin. Bydd y modiwl yn ystyried ymatebion Cristnogaeth i'r awgrym hwn a bydd yn archwilio ei pherthynas hanesyddol â'r byd naturiol. Rhoddir sylw hefyd i amrywiaeth o gysylltiadau eraill rhwng crefydd ac amgylcheddaeth yn y byd Gorllewinol, yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â damcaniaeth Gaia, James Lovelock. Ystyrir meysydd penodol sy'n destun pryder amgylcheddol, megis newid hinsawdd a thechnoleg niwclear o ran eu perthynas â thrafodaeth grefyddol a rhoddir sylw i'r rhyngweithio cymhleth rhwng gwleidyddiaeth, amgylcheddaeth a chrefydd yn y maes trafod hwn.
Assessment Criteria
threshold
Trothwy: D- – D+: Mae gwaith a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o fedrusrwydd fel a ganlyn: Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi eu hepgor. Gwneir haeriadau heb dystiolaeth ategol glir neu resymu. Mae fframwaith i’r gwaith ond mae’n ddiffygiol o ran eglurder ac felly’n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau. Defnyddio amrywiaeth cymharol gul o ddeunydd.
good
Da C- - C +. Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae’n dangos: Fframwaith da a dadleuon wedi’u datblygu’n rhesymegol. Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol. Da iawn B- - B+. Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull a dewis o ddeunyddiau cefnogol sy'n rhagori. Mae’n dangos: Fframwaith da iawn a dadleuon sydd wedi’u datblygu’n rhesymegol. Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr. Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn. Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
excellent
Rhagorol A- - A*. Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol: Mae’n cynnwys esboniadau gwreiddiol gyda syniadau’r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg. Mae’n rhoi tystiolaeth glir o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol. Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
Learning outcomes
-
asesu rhagoriaethau cymharol safbwyntiau Cristnogol a phaganaidd yn y gorllewin tuag at y byd naturiol
-
asesu'n feirniadol werth damcaniaeth Gaia o ran ystyriaethau amgylcheddol
-
ystyried cefndir cymdeithasol a gwleidyddol dadleuon cyfoes ynghylch amgylcheddaeth yn yr eglwys
-
ymwneud â chryfderau a gwendidau gwahanol fodelau canoloesol o'r berthynas rhwng pobl-natur
-
asesu'n feirniadol werth moesegol y portreadau beiblaidd o fyd natur
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Traethawd 1 | 50.00 | ||
Traethawd 2 | 50.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
|
Courses including this module
Optional in courses:
- V100: BA History year 3 (BA/H)
- V10F: BA History [with Foundation Year] year 3 (BA/HF)
- 8B03: BA History (with International Experience) year 4 (BA/HIE)
- V10P: BA History with Placement Year year 4 (BA/HP)
- V140: BA Modern & Contemporary History year 3 (BA/MCH)
- V130: BA Mediaeval and Early Modern His year 3 (BA/MEMH)
- VV15: BA Medieval & Early Modern History with International Exp year 4 (BA/MEMHIE)
- VV56: BA Philosophy and Religion year 3 (BA/PHRE)
- VV5P: BA Philosophy and Religion with Placement Year year 3 (BA/PHREP)
- VV57: BA Philosophy and Religion with International Experience year 3 (BA/PRIE)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 3 (LLB/LPR)
- V102: MArts History with International Experience year 3 (MARTS/HIE)
- V101: MArts History year 3 (MARTS/HIST)