Module WMC-4112:
Perfformiad 2
Perfformio II 2023-24
WMC-4112
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
30 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Bydd cynnwys y modiwl yn canolbwyntio ar dechneg perfformio, pedagogaeth, dadansoddi, astudiaethau dehongli, astudiaethau perfformio, rhaglenni, ysgrifennu nodiadau rhaglen, a pharatoi ar gyfer perfformio. Bydd y gweithdai hefyd yn ystyried cyflwyniad ar lwyfan a swyddogaeth cyfathrebu wrth berfformio.
Bydd pwysoliad y pynciau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, gan ymateb i arbenigeddau perfformwyr a diddordebau'r myfyrwyr.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (50-59)Perfformiadau sydd gan fwyaf yn gywir ac yn briodol o ran arddull, gyda nodiadau rhaglen (neu gyflwyniad ar lafar) sydd yn llawn gwybodaeth ac yn drefnus. -good -Da (60-69)Perfformiadau sydd wastad yn gywir gydag ymwybyddiaeth o arddull, gan ddangos peth gwreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda nodiadau rhaglen (neu gyflwyniad ar lafar) sy'n ddiddorol ac yn graff. -excellent -Rhagorol (70+)Perfformiadau sydd yn dechnegol drawiadol ac yn argyhoeddi o ran arddull, gan ddangos llawer o wreiddioldeb o ran y dull o ddehongli, gyda nodiadau rhaglen (neu gyflwyniad ar lafar) sy'n peri i rywun feddwl ac sy’n hynod wreiddiol.
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu cyfleu mewn geiriau resymeg, dadansoddiad a gwerthusiad o repertoire eu datganiad.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu rhaglennu a pherfformio repertoire arbenigol / datganiad eang sy'n cyfleu dealltwriaeth fanwl o strwythur, cyd-destun a thechneg offerynnol / lleisiol, ac yn glynu wrth yr elfennau hynny.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gallu ymwneud yn gyfannol â'r cyfeiliant, mewn modd cyfarwydd, lle bo hynny'n briodol.
Assessment type
Summative
Weighting
90%
Assessment type
Summative
Weighting
10%