Module WXC-1000:
Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama
Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama 2024-25
WXC-1000
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Ffion Evans
Overview
Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i chi archwilio'r broses o ysgrifennu ar gyfer perfformiad. Byddwch yn canolbwyntio ar ysgrifennu newydd ar gyfer y llwyfan, gan archwilio proses yr awdur wrth ddatblygu syniad o destun i gynhyrchu. Yn eich ysgrifennu byddwch yn datblygu sgiliau llunio naratif, datblygu cymeriad, dadansoddi strwythur a drafftio syniadau i'w cynhyrchu. Bydd y berthynas gydweithredol rhwng yr awdur, y cyfarwyddwr a’r actorion yn cael ei archwilio wrth i chi ymchwilio i’ch llais eich hun o fewn y broses honno.
Crynodeb o Gynnwys y Cwrs:
-
Cyflwyniad i'r technegau a'r dulliau allweddol a ddefnyddir i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan
-
Archwilio proses awduron o’r testun i’r cynhyrchiad
-
Cyflwyno ystod amrywiol o brosesau awduron
-
Cyfle i ymchwilio i lais y dysgwr ei hun
Assessment Strategy
Trothwy (D- i D+):Mae’r gwaith a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn:1. Yn gywir ar y cyfan, ond yn cynnwys rhai diffygion a gwallau.2. Gwneir honiadau heb dystiolaeth ategol glir na rhesymu.3. Yn cynnwys strwythur ond yn brin o eglurder ac felly’n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau.4. Defnyddir ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.
Boddhaol/Da (C- i C):Mae’r gwaith a gyflwynwyd yn fedrus gan ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r maes pwnc. 1. Dangos strwythur da a rhai dadleuon sydd wedi’u datblygu’n rhesymegol.2. Yn defnyddio’n bennaf deunydd a gafwyd ac a aseswyd o'r modiwl gyda rhywfaint o astudiaeth annibynnol gyfyngedig.3. Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu da.4. Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd a phroffesiynol priodol.
Da i Dda iawn (B- i B+): Mae’r gwaith a gyflwynwyd yn fedrus ac yn dda iawn drwyddo draw ac yn dangos arddull uwch, dull ymdrin a dewis o ddeunyddiau cefnogi.1. Dangos strwythur da neu dda iawn a dadleuon sydd wedi’u datblygu’n rhesymegol.2. Mae’n defnyddio’n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn modd sy’n unigryw i’r myfyriwr.3. Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.4. Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd a phroffesiynol priodol.
Rhagorol (A- i A+):Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagori mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:1. Mae’n cynnwys esboniadau gwreiddiol gyda syniadau’r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg. 2. Mae’n rhoi tystiolaeth glir o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.3. Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
Learning Outcomes
- Dangos cynefindra â dulliau cyfoes sy'n amlwg yng ngwaith awduron a chynyrchiadau arloesol.
- Dangos ymwybyddiaeth o’r gyd-berthynas rhwng theori ac ymarfer ym maes ysgrifennu sgriptiau ac o’r prosesau cysyniadol a chreadigol sy’n sail i ddeall a gwireddu perfformiad.
- Datblygu a chreu testunau dramatig a ddefnyddir mewn meusydd drama penodol.
- Dehongli deunydd cefndir a dadansoddi testunau dramatig
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyno Syniad Bydd syniadau cychwynnol ar gyfer sgript arfaethedig yn cael eu cyflwyno trwy ffurf ysgrifenedig. Bydd y crynodeb o gefndiroedd cymeriadau, enghreifftiau o destun, ymchwil allweddol a fydd yn bwydo mewn i’r sgript yn y tymor olaf yn cael ei gyflwyno ynghyd â syniadau cychwynnol i ddatblygu strwythur naratif.
Weighting
30%
Due date
21/04/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Ysgrifennu Monolog Bydd monolog byr yn cael ei gyflwyno trwy ffurf ysgrifenedig, cyfle i'r dysgwr gyflwyno syniadau pendant, cyfle i weld sut mae llais y dysgwr yn datblygu a chyfle i arbrofi gyda syniadau a strwythurau a addysgwyd yn y sesiwn hyd yma.
Weighting
20%
Due date
03/03/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyno Sgript Trwy gyfres o syniadau drafftio trwy gydol y semester, bydd sgript diwedd y tymor yn cael ei chyflwyno i gloi astudiaethau’r modiwl. Edrychir ar y broses o ddatblygu syniadau cysyniadol yn feddyliau pendant yn ogystal â sut mae llais y dysgwr ei hun wedi datblygu trwy gydol y semester.
Weighting
50%
Due date
12/05/2025