Module WXC-1016:
Perfformio Unawdol Blwyddyn 1
Perfformio Unawdol Blwyddyn 1 2024-25
WXC-1016
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Mae’r modiwl hwn yn cyfuno rhaglen o wersi offerynnol neu leisiol unigol gyda chyflwyniad i ystod o faterion pwysig sy’n ymwneud â pherfformwyr, gan gynnwys paratoi a chyflwyno rhaglen datganiad, gweithio gyda cherddorion eraill, ac archwilio gwahanol ddulliau o astudio’n dechnegol a deongliadol. Bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant un-i-un gan athro dynodedig yn ystod y flwyddyn. Byddant hefyd yn mynychu gweithdai perfformio rheolaidd sy'n canolbwyntio ar bynciau megis technegau ymarfer, cerddoriaeth ac atal anafiadau. Mae cymryd rhan yn y gweithdai wedi'i amserlennu, a gall pob cerddor ddisgwyl perfformio o leiaf ddwywaith yn gyhoeddus.
Mae'r Amserlen Asesiadau yn driphlyg: 1. Asesiad Terfynol (80%). Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y modiwl yn paratoi ac yn perfformio datganiad byr o 9-10 munud, i'w gynnal yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2. 2. Prawf perfformiad interim (20%). Perfformiad asesiedig sy'n para 5 munud i'w gynnal yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1. 3. Perfformiad gweithdy, heb ei asesu, sy'n para hyd at 5 munud i'w gynnal yn ystod Semester 2 - bydd myfyrwyr yn derbyn adborth gan arweinydd y gweithdy.
Mae'r Modiwl hwn yn rhedeg ar draws Semesters 1 a 2 ac mae'n cyfrif am 20 credyd.
Mae'r modiwl ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni BA (Cerddoriaeth), BMus, a rhaglenni anrhydedd ar y cyd / llawn mewn Cerddoriaeth yn unig.
Mae'r modiwl yn rhagofyniad ar gyfer Perfformiad Unigol (WXC/P 2241) ym Mlwyddyn 2.
Mae'r modiwl hwn yn cyfuno rhaglen o hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol gyda chyflwyniad i ystod o faterion pwysig sy'n ymwneud â pherfformwyr, gan gynnwys paratoi a chyflwyno rhaglen datganiad, gweithio gyda cherddorion eraill, ac archwilio gwahanol agweddau parthed astudiaethau technegol a dehongliadol.
Bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant un-i-un gan athro dynodedig yn ystod y flwyddyn. Byddant hefyd yn mynychu gweithdai perfformio rheolaidd sy'n canolbwyntio ar bynciau megis technegau ymarfer, cerddoriaeth ac atal anafiadau. Mae cymryd rhan yn y gweithdai wedi'i amserlennu, a gall pob cerddor ddisgwyl perfformio o leiaf ddwywaith yn gyhoeddus.
Gofynnir i'r myfyrwyr gwblhau tri asesiad: 1. Asesiad Terfynol (80%). Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y modiwl yn paratoi ac yn perfformio datganiad byr o 9-10 munud, i'w gynnal yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2. 2. Prawf perfformiad interim (20%). Perfformiad asesedig sy'n para 5 munud i'w gynnal yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1. 3. Perfformiad gweithdy ffurfiannol (heb ei asesu) sy'n para hyd at 5 munud i'w gynnal yn ystod Semester 2 - bydd myfyrwyr yn derbyn adborth gan arweinydd y gweithdy.
Mae'r Modiwl hwn yn rhedeg ar draws Semesters 1 a 2 ac mae'n cyfrif am 20 credyd.
Mae'r modiwl ond ar gael i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni BA (Cerddoriaeth), BMus, a rhaglenni anrhydedd ar y cyd / mawr mewn Cerddoriaeth.
Mae'r modiwl yn rhagofyniad ar gyfer cymryd Perfformiad Unigol (WXC/P 2241) ym Mlwyddyn 2.
Assessment Strategy
Trydydd Dosbarth: D – i D+ (40%-49%) Mae'r perfformiad yn dangos ond gafael elfennol ar dechneg ac ymwybyddiaeth arddull sy'n briodol i'r repertoire a ddewiswyd. Fel arfer bydd yn cael ei gyfyngu gan wendid cyson mewn agweddau megis rheolaeth technegol; cywirdeb rhythm, tempi, deinameg ac ynganu; cydlynu gyda chyfeilydd; a chrefft llwyfan.
Ail Ddosbarth Is: C – i C+ (50%-59%) Bydd y perfformiad yn dangos gafael dda ar dechneg, wedi'i chyflwyno heb doriadau neu wallau sylweddol, a bydd y dehongliad yn dangos peth dealltwriaeth o arferion arddull. Bydd meini prawf rhythm, dynameg a thraw y cyfansoddwr yn cael eu cyflawni’n rhannol, er y bydd gwallau (efallai na fydd y perfformiad yn gwbl sicr) ac anghysondebau mewn cydlyniad â’r cyfeilydd.
Ail Ddosbarth Uwch: B – i B+ (60%-69%) Mae’r perfformiad yn gadarn ac yn arddangos peth meddwl gwreiddiol, techneg gyson, ac ymgais i ddefnyddio rheolaeth rythmig a deinamig fel cyfrwng cyfathrebu creadigol yn unol â bwriadau’r cyfansoddwr ac arddull y repertoire a ddewiswyd. Gall fod mân anghywirdebau o ran traw a rhythm, er na fydd y rhain wedi tarfu ar y perfformiad. Bydd y perfformiad yn adlewyrchu perthynas foddhaol gyda'r cyfeilydd.
Dosbarth Cyntaf: A– ac A (70%-83%) Mae'r perfformiad yn dangos sgiliau technegol a dehongli sydd wedi'u datblygu'n drylwyr, ac yn adlewyrchu dealltwriaeth o agweddion hanesyddol a'r pryderon ynghylch ymarferion perfformio y repertoire a astudiwyd. Yn ogystal, bydd y myfyriwr yn dangos dealltwriaeth greadigol sydd wedi'i datblygu'n glir, a'r gallu i wneud penderfyniadau dehongliadol gwreiddiol ac argyhoeddiadol. Bydd y myfyriwr yn cyfathrebu'n effeithiol gyda'r cyfeilydd ac yn cyfeirio'r perfformiad gydag argyhoeddiad.
Dosbarth cyntaf: A+ i A** (84%-100%) Bydd perfformiad yn y categori hwn yn dangos holl nodweddion y categori A– i A, yn ogystal â lefel o gerddoroldeb lle mae gofynion technegol yn cael eu hintegreiddio i berfformiad mynegiannol, ac mae ymchwil i’r repertoire, yr arddull, a’r cyd-destun wedi cyfrannu at unigolyn. gwireddu'r gwaith(au) a gyflawnwyd.
Learning Outcomes
- Datblygu sgiliau sylfaenol mewn hunanfyfyrio a gwerthuso cerddoriaeth yn feirniadol a chyfleu rhain wrth berfformio.
- Gosod sylfeini ar gyfer techneg sicr a chyson ar yr offeryn neu'r llais a ddewiswyd.
- Ymwneud ag arferion mynegiannol, arddulliadol a deongliadol yn y repertoire a astudiwyd yn unol â bwriadau’r cyfansoddwr.
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Perfformiad Terfynol (80%) - datganiad byr yn para 9-10 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1-3. I’w gynnal yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2.
Weighting
80%
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Prawf Perfformiad Interim (20%) - perfformiad gweithdy wedi’i asesu yn para dim mwy na 5 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1-3. I’w gynnal yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1.
Weighting
20%
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Ffurfiannol
Description
Perfformiad gweithdy heb ei asesu sy'n para hyd at 5 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1-3. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth gan arweinydd y gweithdy. Cynhelir y perfformiadau gweithdy ar draws y flwyddyn, a hysbysir myfyrwyr cyn eu slot(au).
Weighting
0%