Module WXC-2241:
Perfformio Unawdol Blwyddyn 2
Perfformio Unawdol (Blwyddyn 2) 2024-25
WXC-2241
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Iwan Llewelyn Jones
Overview
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr adeiladu ac ehangu ar sgiliau a sefydlwyd eisioes yn ystod y modiwlau perfformio unigol ym Mlwyddyn 1. Gwneir hyn trwy hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol. Bydd y tiwtor yn cynghori ac yn cynorthwyo’r myfyriwr i lunio rhaglen gytbwys o repertoire unawdol sy’n cynnwys arddulliau amrywiol a fydd yn fuddiol i ddatblygiad technegol a cherddorol yr unigolyn. Yn ogystal a'r hyfforddiant unigol, cynhelir gweithdai perfformio cyson lle bydd myfyrwyr yn trafod materion estynedig sy'n berthnasol i berffomio fel dewisiadau repertoire, strategaethau ymarfer ac ymarferion perfformio (yn cynnwys arddulliau hanesyddol).
Gofynnir i'r myfyrwyr berfformio datganiad 18-20 munud fel asesiad terfynol ynghyd â chyflwyniad ar lafar 10 munud o hyd ar y repertoire a ddewisiwyd ar gyfer y perfformiad.
Fe fydd cyfeilydd proffesiynnol wrth law ar gyfer cantorion ac offerynwyr cerddorfaol (lle bo angen).
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr adeiladu ac ehangu ar sgiliau a sefydlwyd eisioes yn ystod y modiwlau perfformio unigol ym Mlwyddyn 1. Gwneir hyn trwy hyfforddiant offerynnol neu leisiol unigol. Bydd y tiwtor yn cynghori ac yn cynorthwyo’r myfyriwr i lunio rhaglen gytbwys o repertoire unawdol sy’n cynnwys arddulliau amrywiol a fydd yn fuddiol i ddatblygiad technegol a cherddorol yr unigolyn.
Yn ogystal a'r hyfforddiant unigol, cynhelir gweithdai perfformio cyson lle bydd myfyrwyr yn trafod materion estynedig sy'n berthnasol i berffomio fel dewisiadau repertoire, strategaethau ymarfer ac ymarferion perfformio (yn cynnwys arddulliau hanesyddol).
Gofynnir i'r myfyrwyr berfformio datganiad 18-20 munud fel asesiad terfynol ynghyd â chyflwyniad ar lafar 10 munud o hyd ar y repertoire a ddewisiwyd ar gyfer y perfformiad.
Fe fydd cyfeliydd proffesiynnol wrth law ar gyfer cantorion ac offerynwyr cerddorfaol (lle bo angen).
Assessment Strategy
Trothwy -D- i D+: Perfformiad sy'n gyfyngedig o ran cerddoroldeb a thechneg, ac yn rhoi sylw arwynebol i ofynion perthnasol o ran nodiant ac arddull.
Da -C- i B+: Perfformiad sy'n argyhoeddi, gan ddangos lefelau da o allu deongliadol, cerddoroldeb a thechneg, ynghyd â rhoi sylw i ofynion perthnasol o ran nodiant ac arddull.
Ardderchog -A- i A*: Perfformiad cymhellgar ac argyhoeddiadol, sy'n dangos lefelau uchel o allu deongliadol, cerddoroldeb a thechneg, ynghyd â thystiolaeth o roi sylw gofalus i ofynion perthnasol o ran nodiant ac arddull.
Learning Outcomes
- Cyfathrebu gyda'r cyfeilydd/trac cefndirol, ymateb i newidiadau tempo, a dangos dealltwriaeth sicr o'r cyfeiliant/cerddoriaeth trac.
- Llunio a pherfformio rhaglen gytbwys o repertoire cymysg sy'n ymdrin ag amrywiaeth o arddulliau, tempi a chyffyrddiadau.
- Wraig allu gyfiawnhau dewisiadau cerddorol repertoire, ymarfer perfformio a datrys problemau.
- Ymateb i gyfarwyddiadau mynegiadol a chyfleu rhain mewn perfformiad.
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad llafar ar gynnwys y Datganiad Terfynol yn para 10 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1 a 4. I gymryd lle yn ystod Cyfnod Asesu Semester 1 (Ionawr 2023).
Weighting
20%
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Crynodol
Description
Datganiad Terfynol - rhaglen o gerddoriaeth unawdol offerynnol neu leisiol yn para 18-20 munud. Yn profi Deilliannau Dysgu 1-3. I'w gyflawni yn ystod Cyfnod Asesu Semester 2 (Mai 2023).
Weighting
80%
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Ffurfiannol
Description
Perfformiad gweithdy heb ei asesu sy'n para hyd at 7 munud. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth llafar gan arweinydd y gweithdy. Cynhelir y perfformiadau gweithdy drwy gydol y flwyddyn, a hysbysir myfyrwyr cyn eu slot(au).
Weighting
0%