Module XAC-2041:
Llencyndod
Llencyndod 2023-24
XAC-2041
2023-24
Ysgol Gwyddorau Addysgol
Modiwl - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Ceryl Davies
Overview
Bydd y modiwl hwn yn ystyried y canlynol: - Sut mae plant yn datblygu i fod yn bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion? - Iechyd ac ymddygiad. - Y berthynas rhwng pobl ifanc ac oedolion. - Ieuenctid a thechnoleg. - Datblygiad hunaniaeth gender. - Safbwyntiau byd-eang o ieuenctid. - Addysg a chyflogaeth. - Rhyw, Cyffuriau a Roc a Rôl...
Assessment Strategy
-threshold -(D-, D, D+): Yn dangos dealltwriaeth foddhaol o ddamcaniaethau cyfredol am ddatblygiad llencyndod. Dangos gallu i drafod yr ystyriaethau allweddol mewn iechyd a lles pobl ifanc yn eu harddegau yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil foddhaol. Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o’r berthynas rhwng cymdeithas a phobl ifanc mewn perthynas â'r cyfryngau, oedolion unigol a sefydliadau. Ystyried y berthynas rhwng damcaniaethau perthnasol a materion cyfoes ym mhrofiad pobl ifanc.
-good -(C-, C, C+): Dealltwriaeth dda o ddamcaniaethau cyfredol am ddatblygiad llencyndod. Dangos gallu da i drafod yr ystyriaethau allweddol mewn iechyd a lles pobl ifanc yn eu harddegau yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil ddibynadwy. Dangos ymwybyddiaeth gadarn o’r berthynas rhwng cymdeithas a phobl ifanc mewn perthynas â'r cyfryngau, oedolion unigol a sefydliadau. Dangos gallu ystyriol i werthuso'r berthynas rhwng damcaniaethau perthnasol a materion cyfoes ym mhrofiad pobl ifanc.
-excellent -(A-, A, A+, A*): Dealltwriaeth gynhwysfawr o ddamcaniaethau cyfredol am ddatblygiad llencyndod. Dangos gallu i drafod yn drylwyr yr ystyriaethau allweddol mewn iechyd a lles pobl ifanc yn eu harddegau yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil helaeth. Dangos ymwybyddiaeth drylwyr o’r berthynas rhwng cymdeithas a phobl ifanc mewn perthynas â'r cyfryngau, oedolion unigol a sefydliadau. Dangos gallu rhagorol i werthuso'r berthynas rhwng damcaniaethau perthnasol a materion cyfoes ym mhrofiad pobl ifanc.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Creu llawlyfr arweiniad pobl ifanc i lencyndod.
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd perthynas pobl ifanc a chymdeithas
Weighting
50%