Module XSC-2003:
Rheolaeth Ymddygiad
Module Facts
Run by School of Educational Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Organiser: Mr Bryn Tomos
Overall aims and purpose
Mae nodau'r modiwl fel a ganlyn:
1. Galluogi'r rhai sy'n dilyn y modiwl i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o dechnegau rheoli ymddygiad a deallusrwydd emosiynol.
2. Adeiladu ar sgiliau a medrau ymarferol a'u cysylltu â'r wybodaeth a'r theori sy'n sail i hynny.
Course content
Assessment Criteria
threshold
Yn dangos gafael rhesymol ar sut y mae rheoli ymddygiad yn gysylltiedig â datblygiad emosiynol a deallusol. Gafael medrus ar dechnegau a'u cymhwysiad ymarferol.good
Ymdriniaeth weddol gynhwysfawr â'r maes pwnc. Portffolio a log wedi eu trefnu a'u strwythuro'n dda, yn dangos gwerthfawrogiad cadarn o ffyrdd o gefnogi pobl ifanc ac o wella eich ymarfer proffesiynol eich hun.excellent
Ymdriniaeth gynhwysfawr a manwl â'r maes pwnc. Dadleuon, mynegiant, a dadansoddiad eglur. Dealltwriaeth dreiddgar o faterion theoretig a'u perthnasedd wrth gael eu defnyddio'r ymarferol yn y gweithle.Learning outcomes
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus 1. yn gyfarwydd â chyfnodau datblygiad emosiynol a deallusol; 2. yn gallu ymarfer gwahanol dechnegau rheoli ymddygiad; 3. yn deall pwysigrwydd y canlynol mewn datblygiad personol a chymdeithasol: (i) hunan-barch a hunan-werth; (ii) dysgu rhannu a beth ydyw i fod yn ffrind; (iii) rheoli tymer a chanolbwyntio ar strategaethau ar gyfer byw gydag eraill; 4. wedi dangos dealltwriaeth ymarferol o'r dadansoddiad cyd-destunol o ddysgwyr a'i berthnasedd i deallusrwydd emosiynol; 5. yn gallu asesu agweddau ar ddatblygiad personol sy'n gysylltiedig â deallusrwydd emosiynol a chanfod ffyrdd o gefnogi deallusrwydd emosiynol mewn dysgwyr.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Total module | 100.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Darlithoedd: 12 awr. Sesiynau ymarferol: 4 awr. Tiwtorialau: 2 awr. Mae'r cyfnodau cyswllt yn digwydd mewn blociau sy'n digwydd dros y cyfnod astudio a gallant gynnwys amser y tu allan i'r tymor (e.e., yn ystod cyfnod yr haf). Cymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai, a thiwtorialau. |