Llenyddiaethau Cymru MA

Rhagarweiniad

Ffeithiau’r cwrs

  • Enw: Llenyddiaethau Cymru
  • Cymhwyster: MA
  • Hyd: Blwyddyn yn llawn-amser neu ddwy flynedd yn rhan-amser.

To read an English course description for Literatures of Wales MA please click here.

Wedi’i ddysgu ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg ac Ysgol y Saesneg, y cwrs MA Llenyddiaethau Cymru yw’r cwrs cyntaf yn unlle yn y byd sy’n canolbwyntio ar astudio a chymharu testunau o’r ddau brif draddodiad yng Nghymru (lle bo angen, mewn cyfieithiad i’r Saesneg). Cymru yw’r unig un o genhedloedd Celtaidd gwledydd Prydain i fod ag iaith frodorol hyfyw a siaredir ar raddfa eang a llenyddiaeth gyfoes gyffrous. Ar ben hynny, hi yw’r unig genedl yng ngwledydd Prydain y mae ei llenyddiaeth Saesneg unigryw yn parhau ar yr ymylon o fewn ei chyfundrefn addysg ei hun. Ar lefel brifysgol, oherwydd rhaniad ieithyddol a fodolai yn yr 20fed ganrif, anogwyd astudiaeth ar y ddwy lenyddiaeth ar wahân – agendor nad yw ysgolheigion cyfoes ond megis dechrau ei phontio. Oherwydd ei chanolfan ddiwylliannol wirioneddol ddwyieithog, mae Bangor yn lle delfrydol i astudio’r ddau draddodiad llenyddol hyn, ac i ystyried y cwestiwn ynglŷn â beth sy’n digwydd i lenyddiaeth yn y Saesneg os nad hwn yw’r prif draddodiad.

 

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Cynnwys y Cwrs

Rhan Un:

Mae rhan gyntaf y cwrs yn cynnwys tri modiwl sy’n ceisio rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o hanes llenyddol a diwylliannol modern Cymru, eu galluogi i ddatblygu eu dealltwriaeth o faterion allweddol ym maes ysgolheictod llenyddol modern Cymru ac ystyried themâu allweddol ar draws y ddau draddodiad llenyddol, o safbwynt traws-gymunedol.

  • Rhagarweiniad: "Pwy Sy’n Siarad dros Gymru?": Yn y modiwl rhagarweiniol hwn, gofynnir i fyfyrwyr ystyried sut y deallwyd ac y deellir materion yn ymwneud â hunaniaeth Gymreig o 1840 tan y presennol. Bydd myfyrwyr yn nodweddiadol yn astudio gwahaniaethau mewnol yng Nghymru, Prydeindod, cysyniadau o hunaniaeth Geltaidd, Cymru fel cenedl ôl-drefedigaethol, profiadau cyfochrog â chenhedloedd eraill Prydeinig sydd wedi’u "dominyddu", mudiadau cenedlaethol. Mae’n bosib yr astudir gweithiau gan yr awduron canlynol: Hywel Teifi Edwards, Saunders Lewis, Raymond Williams, Matthew Arnold, J.R. Jones, M. Wynn Thomas, Tony Conran, Dai Smith, Kirsti Bohata.
  • Moderniaeth Gymreig: Gofynnir i fyfyrwyr ystyried sut y bu i lenyddiaeth ar draws y ddau draddodiad ieithyddol gofnodi dyfodiad moderniaeth, a’r newidiadau a ddilynodd yn ei sgil. Gall themâu gynnwys diwydiant, dosbarth, trefoli, cyfalafiaeth, diwylliant gwledig, crefydd, newid ieithyddol ac alltudiaeth. Gall llenorion i’w hastudio gynnwys Caradoc Evans, Lynette Roberts, Caradog Pritchard, Dylan Thomas, Kate Roberts, R.S. Thomas, Arthur Machen, Emyr Humphreys, Idris Davies.
  • Rhywedd a Chymru: Bydd y myfyrwyr yn astudio’r berthynas rhwng rhywedd a’r genedl Gymreig, a sut mae rolau rhywedd wedi newid dros y ganrif ddiwethaf. Gall themâu gynnwys rhywioldeb, gwrywdod a diwydiant, cynrychiolaethau ar sail rhywedd o’r gofod a wladychwyd, y corff gwrywaidd, merched a chynrychiolaethau o dir. Gall llenorion i’w hastudio gynnwys:  Elin ap Hywel, Jan Morris, John Sam Jones, Glyn Jones, Jane Aaron, Lewis Jones, Gwyneth Lewis, Rhys Davies, Amy Dillwyn, Menna Gallie.

Rhan Dau:

Paratoi traethawd hir 20,000 o eiriau, wedi’i ysgrifennu naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg, ar bwnc o’ch dewis chi yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar y llenyddiaethau sydd o ddiddordeb i’r myfyriwr, wedi’i ymchwilio a’i ysgrifennu dan oruchwyliaeth unigol arbenigwr yn y maes.

Modiwlau y flwyddyn yma

Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar tudalen Modiwlau Llenyddiaethau Cymru.

Gofynion Mynediad

Dylai ymgeiswyr i’r rhaglen hon feddu ar radd gyntaf dda mewn pwnc perthnasol (e.e. Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg neu Hanes). Efallai y derbynnir profiad ymarferol hefyd. Caiff ymgeiswyr eu barnu yn ôl eu teilyngdod unigol, ac ystyrir profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd. Nid yw’r gallu siarad Cymraeg yn ofynnol ar gyfer y cwrs hwn; Caiff myfyrwyr gyfle i gael gwersi Cymraeg.  Yn achos myfyrwyr rhyngwladol nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, disgwylir iddynt fod wedi ennill lleiafswm sgôr IELTS gyffredinol o 6.5 (heb yr un marc islaw 6.0 mewn unrhyw agwedd ar y prawf).

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud Cais

Gallwch nawr wneud cais ar-lein ar gyfer holl raglenni ôl-raddedig trwy ddysgu a rhaglenni ymchwil ôl-raddedig y Brifysgol (gan eithrio TAR, Diploma mewn Therapi Galwedigaethol a DClinPsy).

Cam 1 – Paratoi i wneud cais

Myfyrwyr Cartref/UE

Myfyrwyr Rhyngwladol

Cam 2 – Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais ar-lein

Ar ôl i chi ddarllen y Nodiadau Canllaw, dylech wneud cais gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Derbyniadau Ar-lein.

Er mwyn ichi weld a chwblhau’r ffurflen gais yn Gymraeg bydd angen i chi sicrhau bod y gosodiad iaith ar eich porwr dewisol wedi ei osod ar Gymraeg. I gael canllawiau ynglŷn â sut i wneud hyn cliciwch yma (cyswllt â chwestiynau a ofynnir yn aml ynglŷn â sut i wneud hyn yn Firefox, IE a Google Chrome)

Wedi i chi gwblhau y ffurflen gais ar-lein bydd rhaid i chi ddarparu copiau o nifer o ddogfennau (wedi eu tystio os nad oes gennych y dogfennau gwreiddiol), megis trawsgrifiadau academaidd, tystysgrifon gradd, cadarnhad o gymorth ariannol.

Angen Cymorth?

Am wybodaeth bellach neu gyngor am wneud cais, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau Ôl-raddedig.

E-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
Ffôn: +44 (0)1248 383717

Pryd i wneud cais

Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ond byddwn yn gyffredinol yn eich annog i anfon eich cais cyn diwedd mis Mehefin. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi wneud trefniadau ariannol a/neu lety ac i chi fedru cael gafael ar drawsgrifiadau a geirda os nad ydych wedi eu hanfon gyda’r cais gwreiddiol.

Gyrfaeoedd a Chyflogadwyedd

Wedi’i ddysgu ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg ac Ysgol y Saesneg, y cwrs MA Llenyddiaethau Cymru yw’r cwrs cyntaf yn unlle yn y byd sy’n canolbwyntio ar astudio a chymharu testunau o’r ddau brif draddodiad yng Nghymru (lle bo angen, mewn cyfieithiad i’r Saesneg). Cymru yw’r unig un o genhedloedd Celtaidd gwledydd Prydain i fod ag iaith frodorol hyfyw a siaredir ar raddfa eang a llenyddiaeth gyfoes gyffrous. Ar ben hynny, hi yw’r unig genedl yng ngwledydd Prydain y mae ei llenyddiaeth Saesneg unigryw yn parhau ar yr ymylon o fewn ei chyfundrefn addysg ei hun. Ar lefel brifysgol, oherwydd rhaniad ieithyddol a fodolai yn yr 20fed ganrif, anogwyd astudiaeth ar y ddwy lenyddiaeth ar wahân – agendor nad yw ysgolheigion cyfoes ond megis dechrau ei phontio. Oherwydd ei chanolfan ddiwylliannol wirioneddol ddwyieithog, mae Bangor yn lle delfrydol i astudio’r ddau draddodiad llenyddol hyn, ac i ystyried y cwestiwn ynglŷn â beth sy’n digwydd i lenyddiaeth yn y Saesneg os nad hwn yw’r prif draddodia

Mwy o Wybodaeth

Camau nesaf