Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Ysgrifennu Creadigol MA/PGDip

Rhagarweiniad

Ffeithiau’r cwrs

  • Enw: Ysgrifennu Creadigol
  • Cymhwyster: MA/PGDip
  • Hyd: 1 flwyddyn o gofrestriad llawn-amser, 2 flynedd yn rhan-amser

Mae’r cwrs course wedi ei rannu’n Rhan 1 a Rhan 2 a rhaid pasio’r rhan gyntaf yn llwyddiannus er mwyn cael mynediad i’r ail ran. Mae Rhan 1 yn cynnwys 3 modiwl 40 credyd yr un sef ‘Themâu Creadigol’, ‘Technegau Cyfansoddi a ‘Mathau Llenyddol’. Mae Rhan 2 y cwrs yn cynnwys 1 modiwl 60 credyd sef portffolio o waith creadigol hyd at 20,000 o eiriau, a phennir canlyniad y cwrs cyfan ar farc cyfartalog dwy ran y cynllun. Mater i’w drafod rhwng y myfyriwr a’i gyfarwyddwr academaidd fydd union natur y portffolio, ac mae amryw fodelau’n bosib, e.e. nofel fer, casgliad o storïau byrion neu gerddi, cyfuniad o farddoniaeth a rhyddiaith. Rhoddir ystyriaeth ofalus i ofynion unigol pob myfyriwr wrth bennu union gynnwys y modiwlau, a chynllunnir rhan gyntaf y rhaglen gyda golwg ar y posibiliadau creadigol a all fwydo’r ail ran.

Y prif gyswllt dysgu yw hwnnw gyda’r cyfarwyddwr academaidd a threfnir i’w gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. At hynny, mae cymuned ôl-radd fywiog o fewn Ysgol y Gymraeg a threfnir cyfres o seminarau wythnosol yn ystod Semester 1 a 2. Yn y seminarau hyn cynigir arweiniad i faterion technegol sy’n berthnasol i’r holl fyfyrwyr ôl-radd, bydd cyfle i glywed cyd-fyfyrwyr yn cyflwyno papurau am eu projectau unigol, a hefyd i ddysgu am ymchwil gyfredol gan staff Ysgol y Gymraeg ac ysgolion academaidd eraill. At hynny, cynhelir seminarau ysgrifennu creadigol rheolaidd a bydd cyfle i glywed awduron gwadd fel Wiliam Owen Roberts, Lloyd Jones, Angharad Tomos ac Ifor ap Glyn yn trafod eu gwaith. Yn ogystal, os yw myfyriwr ôl-radd am ddilyn yn anffurfiol unrhyw un o fodiwlau israddedig yr ysgol er mwyn cyfoethogi ei brofiad dysgu, bydd cyfle iddo/i wneud hynny.

Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.

Gofynion Mynediad

Croesewir ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr o bob oed. Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad blaenorol perthnasol.

Sut i Ymgeisio

Sut i wneud Cais

Gallwch nawr wneud cais ar-lein ar gyfer holl raglenni ôl-raddedig trwy ddysgu a rhaglenni ymchwil ôl-raddedig y Brifysgol (gan eithrio TAR, Diploma mewn Therapi Galwedigaethol a DClinPsy).

Cam 1 – Paratoi i wneud cais

Myfyrwyr Cartref/UE

Myfyrwyr Rhyngwladol

Cam 2 – Gwneud cais ar-lein

Gwneud cais ar-lein

Ar ôl i chi ddarllen y Nodiadau Canllaw, dylech wneud cais gan ddefnyddio ein Gwasanaeth Derbyniadau Ar-lein.

Er mwyn ichi weld a chwblhau’r ffurflen gais yn Gymraeg bydd angen i chi sicrhau bod y gosodiad iaith ar eich porwr dewisol wedi ei osod ar Gymraeg. I gael canllawiau ynglŷn â sut i wneud hyn cliciwch yma (cyswllt â chwestiynau a ofynnir yn aml ynglŷn â sut i wneud hyn yn Firefox, IE a Google Chrome)

Wedi i chi gwblhau y ffurflen gais ar-lein bydd rhaid i chi ddarparu copiau o nifer o ddogfennau (wedi eu tystio os nad oes gennych y dogfennau gwreiddiol), megis trawsgrifiadau academaidd, tystysgrifon gradd, cadarnhad o gymorth ariannol.

Angen Cymorth?

Am wybodaeth bellach neu gyngor am wneud cais, cysylltwch â’r Swyddfa Derbyniadau Ôl-raddedig.

E-bost: postgraduate@bangor.ac.uk
Ffôn: +44 (0)1248 383717

Pryd i wneud cais

Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ond byddwn yn gyffredinol yn eich annog i anfon eich cais cyn diwedd mis Mehefin. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi wneud trefniadau ariannol a/neu lety ac i chi fedru cael gafael ar drawsgrifiadau a geirda os nad ydych wedi eu hanfon gyda’r cais gwreiddiol.

Gyrfaeoedd a Chyflogadwyedd

I amryw fyfyrwyr mae cwrs MA yn gyfle i ymestyn eu hastudiaethau israddedig drwy ganolbwyntio ar broject ôl-radd a chyn ymgymryd â chwrs hyfforddiant pellach, e.e. ymarfer dysgu. Yn ddiweddar, mae’r profiadau a’r sgiliau a enillir drwy gwrs MA wedi bod o gymorth i fyfyrwyr wrth sicrhau swyddi gyda chyfnodolion fel Golwg 360 a’r Cymro, gwasg fel Y Lolfa, rhaglen deledu fel Hacio, a Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor. I fyfyrwyr eraill, mae MA wedi cynnig sylfaen i ymchwil bellach ar lefel MPhil a PhD.

Ymchwil / Dolenni Diwydiannol

Ers rhai blynyddoedd, bu nifer o fyfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg yn dilyn cyrsiau MA a noddwyd gan arian o ffynonellau Ewropeaidd, ac y mae hynny wedi arwain at nifer o gysylltiadau gwerthfawr gyda chwmnïau a sefydliadau fel Cwmni Da, Rondo Media, Gwasg Carreg Gwalch, Gwasg y Bwthyn, Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r cylchgrawn Barn. Mae’r profiadau gwaith a gafwyd gyda’r cwmnïau a’r sefydliadau hyn wedi cryfhau cyflogadwyedd y myfyrwyr ôl-radd yn fawr.

Mwy o Wybodaeth

Camau nesaf