Bethany'n cael modd i fyw
Ar ôl bod yn y coleg yn Llundain, mae bardd a chantores o Ddinbych wrth ei bodd ym Mhrifysgol Bangor, a hynny oherwydd yr holl weithgareddau artistig a chymdeithasol y mae’n eu mwynhau.
“Dw i’n cael bywyd llawer mwy llawn nag yr o’n i yn Llundain,” meddai Bethany Celyn. “Mae o’n gyfnod ffrwythlon ofnadwy yn bod ynghanol pobl sydd ar yr un trywydd. Mae yna bob math o gyfleon yn codi ac yn bwydo i mewn i’w gilydd.”
Mae hi a Caryl Bryn, dwy o fyfyrwyr y cwrs MA Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol, yn rhan o griw arloesol o ferched o’r enw Cywion Cranogwen, sydd wedi creu sioe o gerddi a rhywfaint o gerddoriaeth gan deithio gyda hi ar hyd a lled Cymru.
Mae Bethany hefyd wedi cael comisiwn i sgrifennu sioe gerdd i bobl ifanc a fydd yn cael ei pherfformio yng nghanolfan Galeri, Caernarfon, ym mis Mawrth ac, ar ben hynny, mae newydd gyhoeddi ei EP unigol cynta’.
Mi ddechreuodd Cywion Cranogwen ar ôl i un o’r criw ddarllen am Sarah Jane Rees a sylweddoli bod yr awdures oedd yn ysgrifennu dan yr enw Cranogwen yn un o “famau llenyddol Cymru”.
Yn ei hysbryd hi yr aethon nhw ati i greu’r sioe ar themâu Crwydro, Crio a Chorddi, a phob un yn cyfansoddi cerddi arnyn nhw.
Gwrachod Llanddona ydi un o gerddi Bethany Celyn gan ddadlau mai ffoaduriaid oedd y merched hynny a defnyddio’r stori i ystyried pam mae rhai merched yn cael eu galw’n wrachod.
Mae ymgyrch hawliau #MeToo a stori’r actores gynnar, Nell Gwynne, hefyd wedi ei hysbrydoli hi – mae llais y ddynes yn ganolog i’w gwaith.
Ynghanol hyn i gyd, mae’n llwyddo i baratoi traethodau a gweithio ar bortffolio o waith ar gyfer yr MA – “Dw i’n teimlo’n ofnadwy o gyffrous am y pethau dw i’n eu gwneud.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2018